Ôl-nodion
Cyfeirir at ‘gyflwr diymateb parhaol’ fel ‘cyflwr diymateb parhaus’ hefyd.
‘Maeth a hydradiad artiffisial’ yw’r ymadrodd a ddefnyddir weithiau mewn lleoliadau gofal iechyd. Fodd bynnag, credwn bod ‘maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol’ yn ddisgrifiad manylach o’r cam o ddefnyddio drip, tiwb trwynol-gastrig neu diwb a osodir yn y stumog mewn ffordd lawfeddygol er mwyn darparu maeth a hylifau.
‘Budd’ fel y nodir yn Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.
‘Budd pennaf’ fel y nodir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (yng Nghymru a Lloegr) ac ar hyn o bryd, mae cyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon (The Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn cynnig diffiniad o fudd pennaf nad yw mewn grym eto.)
Mae’r atodiad cyfreithiol yn cynnig esboniad am hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd a gynhwysir yn y Ddeddf, ac y maent yn cyfateb â’r rhai mwyaf perthnasol i benderfyniadau a wneir ar ddiwedd oes.
Mae modd gweld gwybodaeth am y ddeddfwriaeth hon, y codau ymarfer cefnogol ac arweiniad cysylltiedig yn yr atodiad cyfreithiol.
Mae ystyriaethau ychwanegol yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy’n meddu ar alluedd i benderfynu – gweler yr adran ynghylch plant newydd- anedig, plant a phobl ifanc ym mharagraffau 90 - 108.
Mae’r adran ynghylch plant newydd-anedig, plant a phobl ifanc yn cynnwys cyngor ynghylch plant heb alluedd.
Mae dirprwyon cyfreithiol yn cynnwys: person sy’n meddu ar Atwrneiaeth Arhosol (Cymru a Lloegr) neu Atwrneiaeth Lles (yr Alban), dirprwy a benodwyd gan lys (Cymru a Lloegr) neu ymyrrwr neu warcheidwad a benodwyd gan lys (yr Alban). Ar hyn o bryd, nid oes gan Ogledd Iwerddon unrhyw ddarpariaeth er mwyn penodi dirprwyon cyfreithiol sy’n meddu ar y grym i wneud penderfyniadau gofal iechyd. Yn yr Alban, os oes cais yn yr arfaeth i gael awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran y claf neu i gael ei benodi i’w gynrychioli, bydd hyn yn datgymhwyso awdurdod yr ymarferydd meddygol i wneud penderfyniadau am driniaeth (adran 49, Deddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000).
Rhaid i atwrneiaethau fod wedi cofrestru gyda Swyddfeydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr a’r Alban. Mae gwybodaeth ar gael ar eu gwefannau. Esbonnir rôl y dirprwyon cyfreithiol amrywiol yn y codau ymarfer sy’n cefnogi’r cyfreithiau perthnasol ynghylch galluedd – gweler yr atodiad cyfreithiol.
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd gennych awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth, dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cymru a Lloegr), neu gyfraith gwlad yng Ngogledd Iwerddon. Yn yr Alban, o dan Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000, mae ymarferwyr meddygol cofrestredig sy’n bennaf gyfrifol am driniaeth a gofal y claf ymhlith y gweithwyr proffesiynol hynny sydd ag awdurdod i wneud y penderfyniadau hyn (ond nid cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia), yn amodol ar gyhoeddi tystysgrif analluedd Gweler yr atodiad cyfreithiol.
At y dibenion hyn, mae ‘gofalwr’ yn golygu’r person sy’n cynorthwyo’r claf ac sy’n cynrychioli eu buddiannau yn yr ymgynghoriad ynghylch eu hiechyd, a’r hyn sy’n angenrheidiol efallai o ran unrhyw ymchwiliadau, triniaeth neu ofal.
Mae’r term ‘y rhai sy’n agos i’r claf’ yn golygu unrhyw un a enwebir gan y claf, perthnasau agos (gan gynnwys rhieni os mai plentyn yw’r claf), partneriaid a ffrindiau agos, gofalwyr cyflogedig neu ddigyflog nad ydynt yn aelodau o’r tîm gofal iechyd ac eiriolwyr annibynnol. Gallai gynnwys atwrneiod ar gyfer materion ariannol a materion sy’n ymwneud ag eiddo, a dirprwyon cyfreithiol eraill, mewn rhai amgylchiadau.
Bydd y rhai y bydd yn briodol ac yn ymarferol ymgynghori gyda nhw yn dibynnu ar, er enghraifft, cais blaenorol claf; pa gamau rhesymol y bydd modd eu cymryd er mwyn ymgynghori o fewn yr amser sydd ar gael cyn y bydd yn rhaid gwneud penderfyniad; ac unrhyw ddyletswydd i ymgynghori neu i flaenoriaethu pobl benodol a nodir mewn cyfreithiau neu godau perthnasol ynghylch galluedd.
Yn gyffredinol, mae’r ffaith nad oes rhywun ‘sy’n fodlon neu sy’n gallu’ ar gael yn golygu pan na fydd unrhyw un sy’n agos i’r claf y mae modd ymgynghori gyda nhw, neu mae’r rhai sydd ar gael yn methu cymryd rhan yn y broses benderfynu, neu’n teimlo na allant wneud hynny. Mae Cod Ymarfer MCA yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Caiff triniaeth feddygol ddifrifol ei diffinio yng Nghod Ymarfer MCA, lle y mae rôl IMCA yn cael ei nodi hefyd.
Gweler Arfer meddygol da (2024), paragraffau 16, 19, 21,23,28,32,34,35,37,38,48-51,53,61-63,65,66,74.
Mae arweiniad CMC, Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch (2012) yn darparu cyngor manylach.
Fel arfer, dylai’r cyngor gael ei ddarparu gan gydweithiwr profiadol y tu allan i’r tîm. Gellir gofyn am gyngor dros y ffôn, yn ôl yr angen, ar yr amod eich bod wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cydweithiwr hwnnw ynghylch cyflwr y claf.
Dylai ail farn gael ei darparu gan glinigwr uwch y mae ganddynt brofiad o gyflwr y claf, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gofal y claf. Dylid ei seilio ar archwiliad o’r claf a gynhelir gan y clinigwr.
Arfer meddygol da (2024), paragraff 20.
Bydd y llysoedd yn ystyried a yw’r driniaeth er ‘budd pennaf’ y claf (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Bydd y Llysoedd yn yr Alban ac Ymarferwr Enwebedig Mental Welfare Commission for Scotland yn ystyried a yw’r driniaeth yn cynnig ‘budd’ i’r claf. Gweler yr atodiad cyfreithiol.
Mae deddfwriaeth Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) ac Adults With Incapacity (Scotland) Act 2000 yn gwneud darpariaeth i oedolion ddyfarnu atwrneiaethau er mwyn gwneud penderfyniadau gofal iechyd. Mae Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn gwneud darpariaeth er mwyn dyfarnu atwrneiaeth gofal iechyd nad yw mewn grym eto. Mae MCA yn nodi gofynion statudol ynghylch gwrthod triniaethau estyn bywyd ymlaen llaw. Gweler yr atodiad cyfreithiol.
Mae’r cod ymarfer sy’n cefnogi Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n defnyddio’r term cyfreithiol ‘penderfyniad ymlaen llaw’, yn nodi meini prawf manwl sy’n pennu pryd y bydd penderfyniadau ymlaen llaw ynghylch triniaethau a fydd yn ymestyn oes yn gyfreithiol rwymol – gweler yr atodiad cyfreithiol.
Mae’r cod ymarfer sy’n cefnogi Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000, sy’n defnyddio’r term cyfreithiol ‘cyfarwyddyd ymlaen llaw’, yn cynnig cyngor ynghylch eu statws cyfreithiol a sut y dylid ystyried cyfarwyddiadau ymlaen llaw wrth wneud penderfyniadau ynghylch triniaethau.
Mae Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 yn nodi cydnabyddiaeth statudol ar gyfer penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaethau ar sail cyfraith achosion flaenorol (adran 11). Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf mewn grym eto. Felly, ar hyn o bryd, mae’n debygol y byddai pwys yn cael ei roi ar yr egwyddorion a sefydlwyd yng nghyfraith achosion Lloegr yn y llysoedd.
Nodir y gofynion hyn yn MCA a’i Chod Ymarfer, Pennod 9.
Caiff datgelu gwybodaeth ar ôl marwolaeth claf ei drafod ym mharagraffau 134 - 138 arweiniad CMC ynghylch Cyfrinachedd.
Dim ond ymarferwyr meddygol cofrestredig (meddygon sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac sydd â thrwydded i ymarfer fel y’i diffinnir yn Neddf Meddygaeth 1983) sy’n gallu llenwi tystysgrifau meddygol ar gyfer achos marwolaeth (MCCDs) a ffurflenni amlosgi. Gweler y canllawiau i feddygon sy’n llenwi ffurflenni MCCD yng Nghymru a Lloegr, canllawiau i feddygon yn yr Alban a chanllawiau i feddygon yng Ngogledd Iwerddon. Gweler hefyd y canllawiau ar lenwi ffurflenni amlosgi yng Nghymru a Lloegr
Defnyddir ‘budd pennaf’ yma fel y term a dderbynnir ac a ddefnyddir yn eang ar draws y DU o ran penderfyniadau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae’n golygu pwyso a mesur manteision, beichiau a risgiau triniaeth, yn yr un modd ag y mae penderfyniadau ynghylch ‘budd cyffredinol’ yn ei wneud yn achos oedolion nad ydynt yn meddu ar alluedd i benderfynu.
Mae ‘rhiant’ yn golygu unrhyw un sy’n meddu ar ‘awdurdod rhiant’ Am fanylion ynghylch y sawl sy’n gallu meddu ar awdurdod rhiant, trowch at 0–18 oed: arweiniad i bob meddyg.
Mae cynnig bwyd a diod trwy’r geg yn rhan o ofal sylfaenol (yn yr un modd ag y mae cynnig lleddfu poen a golchi) ac mae’n rhaid eu cynnig bob amser i gleifion sy’n gallu llyncu heb risg difrifol y byddant yn tagu neu’n anadlu bwyd neu ddiod i mewn. Mae cleifion yn gallu gwrthod bwyd a diod pan fydd yn cael ei gynnig iddynt, ond ni fydd gan y penderfyniad i wrthod bwyd a diod ymlaen llaw, unrhyw rym.
Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821
Mae ystyriaethau ychwanegol yn berthnasol i benderfyniadau ynghylch maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy’n meddu ar alluedd (gweler paragraffau 90 - 91).
Mae’r adran ynghylch plant newydd-anedig, plant a phobl ifanc yn cynnwys cyngor cyffredinol ynghylch plant heb alluedd. Trafodir penderfyniadau ynghylch maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol sy’n ymwneud â phlant newydd-anedig a phlant bach ym mharagraff 106.
Gallwch drafod y dewisiadau gyda’ch sefydliad amddiffyn neu adran gyfreithiol eich cyflogwr. Yng Ngogledd Iwerddon, lle na cheir deddfwriaeth sylfaenol neu gyfraith achosion berthnasol sy’n ymwneud â’r awdurdodaeth, gallai fod yn arbennig o bwysig gwneud hynny cyn gweithredu ar sail penderfyniadau.
Mae hyn yn cynnwys arweiniad a gyhoeddwyd gan RCP a BMA ynghylch: Clinically-assisted nutrition and hydration (CANH) and adults who lack the capacity to consent: guidance for decision making in England and Wales ac arweiniad clinigol RCP: PDOC following sudden onset brain injury