Ein rôl fel rheoleiddiwr cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia
A ninnau'n rheoleiddiwr amlbroffesiwn, rydym yn cydnabod ac yn rheoleiddio meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia fel tri phroffesiwn gwahanol.
Mae rheoleiddio yn helpu i roi sicrwydd i gleifion, cyflogwyr a chydweithwyr bod cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn cael y lefel gywir o addysg a hyfforddiant, yn bodloni’r safonau y disgwyliwn gan y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio, ac y gellir eu dal i gyfrif os bydd pryderon difrifol yn cael eu codi.
Dyma bwrpas sylfaenol rheoleiddio, ar gyfer meddygon, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a hefyd ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.
Mae ein rôl fel rheoleiddiwr cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn golygu ein bod yn gwneud y canlynol:
- gosod y safonau gofal cleifion ac ymddygiad proffesiynol y mae angen i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eu bodloni
- pennu'r deilliannau a'r safonau y mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n cymhwyso o gyrsiau i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eu bodloni i ymuno â'n cofrestr, a chymeradwyo'r cwricwla y mae'n rhaid i gyrsiau eu cyflwyno
- cadarnhau pwy sy'n gymwys i weithio fel cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia yn y DU, a gwneud yn siŵr eu bod yn parhau drwy gydol eu gyrfaoedd i fodloni'r safonau proffesiynol a osodwyd gennym
- rhoi arweiniad a chyngor i helpu cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia i ddeall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt
- ymchwilio i bryderon os yw’n bosibl bod diogelwch cleifion mewn perygl, neu os yw hyder y cyhoedd mewn cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn is na’r disgwyl, a gweithredu os oes angen.