Allgymorth

Byddwn yn cwrdd â chi ac yn gweithio gyda chi i wella addysg ac ymarfer meddygol.

Mae ein tîm allgymorth yn gweithio ledled y DU i wella dealltwriaeth o’n canllawiau. Maent yn egluro sut mae ein prosesau’n gweithio ac yn hyrwyddo ein safonau. Maent hefyd yn cydweithio â’r gwasanaeth i ddeall y materion a wynebir ar lefel leol.

Mae'r tîm allgymorth yn ein helpu i wneud yn siŵr bod gennym ddigon o wybodaeth am ein dull rheoleiddio. Rydym yn gweithio’n agosach gyda chi i ddiwallu anghenion y gwasanaethau iechyd yn y DU. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hyn beri oedi ychwanegol.

Ymgynghorwyr allgymorth 

Mae ein hymgynghorwyr yn cydweithio â meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), darparwyr gofal iechyd, addysgwyr a rheoleiddwyr eraill i wneud y canlynol: 

  • gwella dealltwriaeth o rôl a gwerth y Cyngor Meddygol Cyffredinol 
  • hyrwyddo a chefnogi rhagoriaeth mewn addysg, hyfforddiant ac ymarfer meddygol 
  • dysgu am yr amgylcheddau lle mae meddygon, PAs ac AAs yn ymarfer er mwyn nodi a mynd i'r afael â risgiau i gleifion a meddygon cyn i niwed ddigwydd 
  • gweithio gyda swyddogion cyfrifol i fynd i'r afael â phryderon am feddygon, a chefnogi rheolwyr gyda phryderon ar lefel leol 
  • cefnogi datblygiad parhaus systemau llywodraethu clinigol lleol, gan sicrhau bod y broses ailddilysu yn parhau 

Pwy all helpu yn eich ardal chi? 

Back