Allwn ni helpu gyda'ch pryder?

Pwy sy’n gallu mynegi pryder

Gall rhywun fynegi pryder am feddyg Mae hyn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, cleifion, aelodau o’r teulu, gwarcheidwaid, perthynas agosaf, cyflogwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal. Gallwch fynegi pryder am eich gofal eich hun, neu ar ran rhywun arall.

A yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo?

Rydym yn cymryd pob pryder a godwyd o ddifrif. Rydym yn ymchwilio pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau yn sylweddol neu fwy nag unwaith.

Fel arfer, dim ond am y canlynol y gallwn ymchwilio i bryderon:

  • camgymeriadau difrifol neu fwy nag unwaith yn ymwneud â gofal cleifion
  • camddefnyddio statws proffesiynol, er enghraifft, perthynas rywiol amhriodol â chlaf
  • trais, anwedduster neu ymosodiad rhywiol
  • trosedd ddifrifol
  • gwahaniaethu yn erbyn cleifion, cydweithwyr neu bobl eraill
  • twyll neu anonestrwydd
  • os yw iechyd meddyg yn effeithio ar ei ymarfer neu ei ymddygiad
  • pryderon difrifol am allu meddyg i gyfathrebu yn Saesneg.
 

Dyma rai o’r pethau nad ydym yn ymchwilio iddynt: 

  • mân wallau clinigol
  • anghwrteisi
  • anghytuno ynghylch diagnosis ac adroddiadau meddygol
  • pryderon am weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • rhestrau aros a chael gafael ar apwyntiadau
  • cynnal a chadw, a chyflwr ysbytai ac ymarferion.
 

Rydym yn gwybod y gall gofal beri pryder pan fydd yn mynd o chwith. Er na allwn ni helpu gyda rhai pryderon, mae’n bosibl y bydd sefydliad arall yn gallu rhoi cymorth i chi.

Dyma rai enghreifftiau o bethau na allwn eich cynorthwyo gyda nhw:

  • rhoi esboniad o’ch triniaeth
  • dirwyo meddyg 
  • gwneud i feddyg ymddiheuro
  • newid canlyniad ymchwiliad lleol  
  • gwneud i feddyg roi triniaeth wahanol i chi 
 

A oes terfyn amser ar gyfer mynegi pryder?

Does dim terfyn amser ar gyfer mynegi pryder. Fodd bynnag, mae’n syniad da mynegi eich pryder cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.

Os oedd y digwyddiad wedi digwydd fwy na phum mlynedd yn ôl, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni pam nad oeddech yn gallu mynegi eich pryder yn gynharach, er mwyn ein helpu i benderfynu a allwn ymchwilio ai peidio.

Pwy all helpu gyda’ch pryder os na allwn ni wneud hynny?

Yn aml, y lle gorau i ddechrau yw drwy siarad â’r bobl a oedd yn gysylltiedig â’ch gofal neu driniaeth, os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Bydd gan yr ysbyty, y feddygfa neu’r clinig lle cawsoch chi ofal ei drefn gwyno ei hun.

Os nad yw hyn yn helpu neu os nad ydych chi eisiau mynegi eich pryder fel hyn, mae sefydliadau ar gael sy’n gallu eich helpu.

Mae rhagor o wybodaeth am bwy i gael sgwrs gyda nhw ar ein tudalennau cymorth lleol.

 

Cymorth pellach