Sut mae mynegi pryder i ni

Gallwn ystyried pryderon a godwyd am feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia.

Os yw’r pryder rydych yn ei fynegi yn fater y gallwn ei ystyried, mae sawl ffordd y gallwch ei fynegi i ni. Dewiswch y ffordd sy’n gweddu orau i chi a’r ffordd sy’n gwneud i chi deimlo’n fwyaf cyfforddus.

 

Llenwch ein ffurflen ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i’r rhan fwyaf o bobl fynegi pryder i ni fydd llenwi ein ffurflen ar-lein.

Siarad â chynghorydd

Gallwch siarad ag un o’r cynghorwyr yn ein canolfan gyswllt ar 0161 923 6602:

  • os ydych yn anabl ac yr hoffech gael cymorth i fynegi eich pryder
  • os ydych yn dymuno gofyn am gopi caled o’n ffurflen pryderon (neu anfonwch e-bost at gmc@gmc-uk.org).

Llwythwch ein canllawiau i lawr

Eich cynorthwyo gyda’ch pryder 

Hawdd eu deall Anhapus gyda meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia?

Gallwch anfon e-bost atom i ofyn am fformat neu iaith arall os nad yw'r un sydd ei angen arnoch wedi'i restru.

Yr wybodaeth y bydd angen i ni ei chael gennych

Pan fyddwch chi’n mynegi pryder, mae’n bwysig eich bod yn anfon popeth o’r rhestr isod atom cyn gynted â phosibl. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu a allwn ymchwilio ai peidio. Bydd angen y canlynol arnom:

  • enw’r meddyg, y cydymaith meddygol neu'r cydymaith anaesthesia a’u cyfeiriad gwaith
  • rhif cyfeirnod y meddyg gyda’r GMC – gallwch ddod o hyd i hwn ar ein cofrestr feddygol, neu gallwch ffonio ein canolfan gyswllt i gael cymorth
  • esboniad o’ch pryder, gan gynnwys dyddiad(au) y digwyddiad(au) dan sylw
  • copïau o unrhyw wybodaeth ategol, fel unrhyw lythyr neu negeseuon e-bost rydych wedi’u hanfon am eich pryder at y sefydliad perthnasol, ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd
  • enwau a chyfeiriadau unrhyw un arall a fu’n dyst i’r digwyddiad neu a fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwnnw.

Os na allwn wneud penderfyniad gan ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam mai dyna’r sefyllfa. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol a fyddai’n ein helpu i ystyried eich pryderon ymhellach.

Cymorth pellach

Codi pryder ar fap y Deyrnas Unedig
Dod o hyd i wasanaethau cymorth yn eich ardal

Rydym yn un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU. Rhagor o wybodaeth am bwy all eich helpu os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.

Sut y byddwn yn ymchwilio i'ch pryderon
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni i fynegi pryder

Ar ôl i ni gasglu darnau allweddol o wybodaeth gennych, byddwn yn adolygu eich pryder yn ofalus i weld a yw hwn yn fater y mae angen i ni ymchwilio iddo.

Pa gamau y gallwn eu cymryd yn erbyn meddyg
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn ymchwilio i’ch pryder

Os byddwn yn canfod bod y meddyg wedi methu â chyrraedd ein safonau, mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd.