Myfyrwyr meddygol

Mae llawer i’w ddysgu wrth astudio i fod yn feddyg.

Dyma ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu ar eich taith fel myfyriwr meddygol, a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.

Read this in English

Ni yw’r rheoleiddiwr proffesiynol ar gyfer meddygon

Fel rhan o’n rôl:

  • rydym yn cymeradwyo pa ysgolion sy’n gallu dyfarnu gradd feddygol yn y DU, ac yn pennu’r safonau y mae angen iddynt eu dilyn.
  • rydym yn adolygu’n barhaus yr hyn y mae ysgolion meddygol yn ei wneud a sut maent yn ei wneud - a phan fyddwn yn gwneud hynny, rydym hefyd yn siarad â myfyrwyr i glywed eu barn.
  • rydym yn gosod y safonau proffesiynol y bydd angen i chi eu cyrraedd pan fyddwch yn feddyg a thrwy gydol eich gyrfa.

Ein canllawiau

Ein canllawiau i fyfyrwyr meddygol

Darganfyddwch beth a ddisgwylir gennych fel myfyriwr meddygol, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol feddygol.

Canllawiau ar waith

Gweler ein holl ganllawiau ar broffesiynoldeb myfyrwyr, a gweld astudiaethau achos a senarios i ddeall sut mae’n berthnasol mewn bywyd go iawn.

A doctor carrying out an exercise using a dummy

Lleoliadau clinigol

Beth i’w ddisgwyl o’ch lleoliadau clinigol a’r hyn a ddisgwylir gennych, er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar y profiad.




Cadw mewn cysylltiad

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i fyfyrwyr i ddysgu mwy am beth mae rheoleiddio meddygol yn ei olygu i chi, a sut gallwn ni eich helpu i wneud y gorau o'ch amser yn yr ysgol feddygol.


Grŵp llais y myfyrwyr

Hoffech chi rannu eich barn a chynrychioli myfyrwyr meddygol yn ein gwaith? Yna ymunwch â’n grŵp llais y myfyrwyr, ac ennill sgiliau gwerthfawr fel rhan o’r profiad. Anfonwch e-bost atom i gael rhagor o wybodaeth.

Cystadleuaeth proffesiynoldeb myfyrwyr

Cewch gyfle i ennill gwobr drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth proffesiynoldeb myfyrwyr.

Instagram

Cewch glywed y newyddion diweddaraf a chael dweud eich dweud drwy ein dilyn ni ar Instagram, lle rydym yn rhannu newyddion, cyfleoedd a chanllawiau defnyddiol.


Rhagor o wybodaeth

Mae llawer mwy i chi ei ddysgu a’i ddarganfod – dyma rai mannau cychwyn defnyddiol.

Arfer meddygol da

Arfer meddygol da: mae'n nodi'r egwyddorion, y gwerthoedd, a’r safonau ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan bob meddyg sy’n gweithio yn y DU

Hwb moesegol (Saesneg yn unig) 

Casgliad o adnoddau sy’n edrych ar sut mae defnyddio ein safonau proffesiynol yn ymarferol, gan ganolbwyntio ar feysydd y gofynnir i ni amdanynt yn aml neu y gwyddom fod meddygon wedi’u cael yn heriol.

Deilliannau i raddedigion (Saesneg yn unig)

Dysgwch fwy am ba wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad y bydd angen i chi eu dangos er mwyn ymuno â’r proffesiwn.

Yr Asesiad Trwyddedu Meddygol (MLA) (Saesneg yn unig)

Fel pob myfyriwr meddygol yn y DU, bydd angen i chi wneud yr Asesiad Trwyddedu Meddygol (MLA) fel rhan o’ch gradd. Darganfyddwch beth mae’n ei olygu.

Sut rydym yn sicrhau ansawdd eich addysg (Saesneg yn unig)

Rydym yn gosod safonau ar gyfer darparwyr addysg feddygol ac yn gwirio eu bod yn cael eu bodloni’n rheolaidd. Dysgwch sut.

Yr ymarferydd myfyriol (Saesneg yn unig)

Mae myfyrio yn weithgaredd hanfodol y mae meddygon yn ei ddefnyddio bob dydd yn eu hymarfer. Darllenwch ein canllaw ar y pwnc ar gyfer myfyrwyr meddygol.

Croesawu a gwerthfawrogi (Saesneg yn unig)

Dylai dysgwyr anabl gael eu croesawu a’u gwerthfawrogi gan y proffesiwn. Dysgwch beth ddylai ysgolion ei wneud i ddelio â chyflyrau iechyd ac anableddau.

Dod yn feddyg yn y DU (Saesneg yn unig)

Os ydych chi yma oherwydd eich bod ar ddechrau’r daith ac eisiau cofrestru ar gyfer gradd feddygol a dod yn feddyg yn y DU, dyma ganllaw cyflym ar rai camau y bydd angen i chi eu cymryd.


Astudio i fod yn gydymaith meddygol (PA) neu’n gydymaith anaesthesia (AA)?

Dyma rywfaint o wybodaeth bwysig i chi.