Rydym yn gwneud yn siŵr bod gan bob meddyg yr wybodaeth, y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad cywir i weithio ledled y DU. Rydym yn gwneud hyn drwy gadw rhestr swyddogol, sef y gofrestr feddygol.
Pan fydd meddyg yn gwneud cais i ymuno â’r gofrestr feddygol, rydym yn gwirio ei fod yn bodloni ein gofynion i weithio yn y DU ac yn darparu gofal da a diogel i gleifion.
Er mwyn parhau i ymarfer, rhaid i feddygon barhau i fodloni’r safonau proffesiynol rydym yn eu gosod, dangos eu bod yn gymwys a dangos fod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf.
Dysgwch beth sydd ar y gofrestr feddygol a’r gwahanol fathau o gofrestriad sydd ar gael i feddygon yn ein canllaw i'r gofrestr feddygol.
Os ydych chi’n gyflogwr, gallwch ddarllen ein canllaw i gyflogi meddyg.