Eich hawliau fel cleifion LHDTC+

Rhaid i bob claf fod yn gallu ymddiried mewn meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia gyda’u bywydau a’u hiechyd. Dylid trin pawb ag urddas a pharch, beth bynnag fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r hyn y dylai cleifion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDTC+) ei ddisgwyl gan eu meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia; beth rydym ni’n ei wneud i gefnogi cleifion LHDTC+; a gwybodaeth am sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyngor neu eiriolaeth.

 

Hawdd ei ddeall – Eich Hawliau fel cleifion LHDTC