Sut rydym yn cefnogi cleifion LHDTC+

Safonau ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia 

Rydym yn gosod y safonau y mae’n rhaid i bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia eu dilyn. Yn ein canllawiau Credoau personol ac arfer meddygol ac Arfer meddygol da, rydym yn dweud bod rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eich trin yn deg heb wahaniaethu, beth bynnag fo eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth ryweddol neu statws traws.

Rydym hefyd yn dweud na ddylai meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia wrthod mynediad i chi at driniaeth neu wasanaethau priodol oherwydd eu credoau personol. Rhaid iddynt fod yn ofalus i beidio â mynegi eu credoau personol mewn ffordd sy’n debygol o achosi gofid i chi.

Ar ein tudalennau gofal iechyd Traws, rydym yn darparu cyngor ac awgrymiadau ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ar sut i sicrhau eu bod yn ymarfer mewn modd mwy cynhwysol.

Gweithio gyda chleifion LHDTC+

Mae ein timau allgymorth yn gweithio gyda chleifion LHDTC+ i ddeall yn well beth yw eich anghenion iechyd. Rydym hefyd yn cynnwys grwpiau LHDTC+ yn ein gwaith polisi i sicrhau ei fod yn adlewyrchu eich anghenion a’ch pryderon. Yn ystod ein hymgynghoriad ar sut mae adborth cleifion yn cael ei ddefnyddio wrth ailddilysu, buom yn gweithio gyda’r LGBT Foundation. Ystyr y term 'ailddilysu' yw arfarniadau rheolaidd lle mae pob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia yn myfyrio ar eu hymarfer. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu a ydynt yn parhau i fodloni’r safonau a osodwyd gennym. Buom yn gweithio gyda’r LGBT Foundation yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw i ddeall ofnau cleifion ynghylch rhoi adborth am eu meddyg. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol fel Stonewall a GLADD (Cymdeithas Meddygon a Deintyddion LHDTC+) i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn adlewyrchu’r materion sy’n wynebu cleifion LHDTC+.

Addysg ac asesiadau

Mae ein timau allgymorth yn ymgorffori senarios LHDTC+ yn eu sesiynau addysgu gyda meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Er enghraifft, rydym yn defnyddio senario o feddyg yn gwahaniaethu yn erbyn person hoyw fel rhan o’n sesiwn ar arwain a rheoli.

Rydym hefyd yn cynnwys cwestiynau sy’n cynnwys cleifion LHDTC+ yn ein profion ar gyfer meddygon sydd wedi cymhwyso dramor ac sy’n dymuno gweithio yn y DU.

Cwynion am ofal cleifion

Rydym yn cymryd o ddifrif unrhyw honiad bod meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wedi methu â dilyn ein canllawiau, a byddwn yn edrych ar yr holl bryderon a godwyd gyda ni. Rydym yn casglu data ar y cwynion a dderbyniwn, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn gwahaniaethu yn erbyn claf oherwydd eu bod yn LHDTC+.