Credoau personol ac arfer meddygol
Mae’r canllawiau hyn yn edrych ar sut gallwch chi ymarfer yn unol â’ch credoau personol eich hun heb dorri hawliau eich cleifion. Maent yn egluro beth i'w wneud os nad ydych chi am ymgymryd â thriniaeth benodol oherwydd eich credoau eich hun. Maent hefyd yn esbonio beth i’w wneud os yw claf yn gofyn am driniaeth neu’n gwrthod triniaeth oherwydd ei gredoau.
Mae’r canllawiau’n cynnwys cyngor penodol ar ddelio â cheisiadau gan rieni am driniaethau, er enghraifft enwaediad gwrywaidd. Maent yn cynnwys sut i asesu lles pennaf y plentyn a phwy y mae angen i chi gael cysyniad ganddo.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 22 Ebrill 2013. Diweddarwyd yr atodiad cyfreithiol ar 7 Ebrill 2020. Cafodd y canllawiau hyn eu diweddaru ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddaeth rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i rym.