Credoau personol ac arfer meddygol

Atodiad cyfreithiol

Mae'r atodiad hwn at ddibenion cyfeirio yn unig. Ni fwriedir iddo gynnig datganiad cynhwysfawr o'r gyfraith neu restr o'r ddeddfwriaeth a chyfraith achosion berthnasol, ac nid oes modd iddo ddisodli'r cyngor cyfreithiol diweddaraf ychwaith.

Deddf Erthyliadau 1967

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, caiff yr hawl i wrthod cymryd rhan mewn gweithdrefnau terfynu beichiogrwydd (ac eithrio pan fo'r terfyniad yn angenrheidiol er mwyn achub bywyd neu atal anaf difrifol i'r fenyw sy'n feichiog), ei diogelu gan y gyfraith dan adran 4(1) y Ddeddf. 

Mae'r hawl hon wedi'i chyfyngu i wrthod cymryd rhan yn y weithdrefn(gweithdrefnau) eu hunain ac nid i'r broses o gynnig gofal, cyngor neu reolaeth cyn y driniaeth neu ar ol y driniaeth, gweler achos Janaway: Janaway v Awdurdod Iechyd Ardal Salford [1989] 1 AC 537

Gogledd Iwerddon

Nid yw Deddf Erthyliadau 1967 yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd Adrannau 58-59 Deddf Troseddau Corfforol 1861 eu diddymu ar 22 Hydref 2019 yng Ngogledd Iwerddon.

Y ddeddfwriaeth berthnasol yng Ngogledd Iwerddon yw:

  • Rheoliadau Erthyliadau (Gogledd Iwerddon) 2020
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1945 (fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliadau Erthyliadau (Gogledd Iwerddon) 2020)

Deddf Ffrwythloniad Dynol ac Embryoleg 1990

Mae adran 38 y Ddeddf yn atal unrhyw ddyletswydd rhag cael ei rhoi ar unigolyn i gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch a lywodraethir gan y Ddeddf.

Deddf Anffurfo Organau Cenhedlu Benywod 2003

Mae'r Ddeddf hon yn gwahardd amrediad o weithdrefnau ar organau cenhedlu benywod, ac eithrio lle y mae angen eu cyfawni am resymau iechyd neu er mwyn cynorthwyo wrth eni plentyn. Mae anffurfo organau cenhedlu benywod yn codi materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant. 

Diwygiwyd y Ddeddf hon gan Ddeddf Troseddu Difrifol 2015, a wnaeth gyfwyno dyletswyddau ar feddygon yng Nghymru a Lloegr i adrodd am achosion hysbys o anffurfo organau cenhedlu benywod ymhlith merched a menywod ifanc dan 18 oed i'r heddlu. Daeth y ddyletswydd hon i rym ym mis Hydref 2015. 

Am wybodaeth bellach, gweler ein harweiniad Diogelu plant a phobl ifanc.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (a deddfwriaethgyfatebol yng Ngogledd Iwerddon)

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb gyfatebol yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn neu afonyddu uniongyrchol neu anuniongyrchol ar gleifon ar sail nodwedd a ddiogelir. Y nodweddion a ddiogelir yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifl, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Bydd gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd unigolyn yn trin unigolyn arall mewn ffordd lai ffafriol nag y maent yn trin neu y byddent yn trin eraill, oherwydd nodwedd a ddiogelir.

Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd unigolyn (A) yn gweithredu darpariaeth, maen prawf neu arfer ar gyfer unigolyn arall (B), y mae'n ymddangos yn niwtral, ond y mae'n rhoi B dan anfantais a phobl eraill y mae B yn rhannu nodwedd a ddiogelir gyda nhw, ac nad oes modd dangos bod hynny yn rhywbeth y mae modd ei gyfawnhau.   

Bydd afonyddu yn digwydd pan fydd ymddygiad unigolyn yn ymyrryd ag urddas unigolyn arall neu'n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus i'r unigolyn hwnnw, neu pan fo'r ymddygiad yn cael yr effaith honno (adran 26). Am fanylion pellach ynghylch gweithredu nodweddion a ddiogelir a gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau iechyd, trowch at y Ddeddf Cydraddoldeb neu dylech geisio cyngor cyfreithiol.

Deddf Cydnabod Rhyw 2004

Mae Deddf Cydnabod Rhyw 2004 yn pennu cyfrifoldebau penodol ynghylch cynnal cyfrinachedd. Mae Adran 22 y Ddeddf yn nodi ei bod yn drosedd i unrhyw unigolyn y maent wedi sicrhau gwybodaeth o ganlyniad i rôl swyddogol, ddatgelu bod gan unigolyn dystysgrif cydnabod rhyw neu wneud unrhyw beth a fyddai'n gwneud datgeliad o'r fath. Mae Gorchymyn Cydnabod Rhyw (Eithriadau i'r Drosedd o Ddatgelu) 2005 yn creu eithriad i Adran 22 ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, lle y mae'r:  

  • Datgeliad yn cael ei wneud i weithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • Caiff y datgeliad ei wneud at ddibenion meddygol, ac 
  • Mae'r unigolyn sy'n gwneud y datgeliad o'r farn resymol bod yr unigolyn dan sylw wedi rhoi eu caniatâd i'r datgeliad neu nad oes modd iddynt roi caniatâd o'r fath. 

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn cynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU. Mae Erthygl 9 y Confensiwn yn ymwneud â'r hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd. Mae'n cynnig hawl absoliwt o ran meddu ar gred, ond mae'r hawl i weithredu yn unol â hawliau neu i fynnu bod eraill yn cydymffurfo gyda nhw yn destun amod, ac nid oes modd ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo gweithredu sy'n tramgwyddo hawliau a rhyddid eraill.