Credoau personol ac arfer meddygol
Yn Arfer meddygol da1 rydym yn nodi:
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Arfer meddygol da Llundain, CMC
6. Rhaid i chi ddarparu gofal ac arfer o safon da. Os byddwch yn asesu, yn rhoi diagnosis neu’n trin cleifion, rhaid i chi weithio mewn partneriaeth â nhw i asesu eu hanghenion a’u blaenoriaethau. Rhaid i’r ymchwiliad neu’r driniaeth y byddwch yn ei chynnig, yn ei darparu neu’n ei threfnu fod yn seiliedig ar yr asesiad hwn, ac ar eich barn glinigol am effeithiolrwydd tebygol y dewisiadau o ran triniaethau.
19. Rhaid i chi drin cleifion yn deg. Rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn eu herbyn na chaniatáu i’ch safbwyntiau personol effeithio ar eich perthynas gyda nhw, na’r driniaeth rydych yn ei darparu neu’n ei threfnu. Rhaid i chi beidio â gwrthod neu oedi triniaeth oherwydd eich bod yn credu bod gweithredoedd neu ddewisiadau claf wedi cyfrannu at eu cyflwr.
21. Os oes gennych chi wrthwynebiad cydwybodol i driniaeth benodol, rhaid i chi sicrhau nad yw’r ffordd yr ydych yn rheoli hyn yn rhwystro claf rhag cael mynediad at ofal priodol i ddiwallu eu hanghenion. Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharagraff 87 a’n canllaw manylach ar Gredoau personol ac arfer meddygol.
56. Rhaid i chi beidio â cham-drin, gwahaniaethu yn erbyn, bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un ar sail eu nodweddion personol, neu am unrhyw reswm arall. Mae ‘nodweddion personol’ yn golygu ymddangosiad rhywun, eu ffordd o fyw, eu diwylliant, eu statws cymdeithasol neu economaidd, neu unrhyw rai o’r nodweddion a warchodir gan ddeddfwriaeth – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
87. Ni ddylech fynegi eich credoau personol (gan gynnwys credoau gwleidyddol, crefyddol a moesol) i gleifion mewn ffyrdd sy’n manteisio ar eu bregusrwydd neu a allai yn rhesymol beri gofid iddynt. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl ar Gredoau personol ac arfer meddygol.
Yn y canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, byddwn yn esbonio sut y mae modd i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn) weithredu'r egwyddorion hyn. Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da. Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n meddygon cofrestredig neu unigolion cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.
Gwerthoedd a chredoau personol mewnarfer meddygol
Rydym yn cydnabod bod credoau personol ac arferion diwylliannol yn ganolog i fywydau gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifon, a bod gan bob meddyg werthoedd personol sy'n effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd. Nid ydym yn dymuno eich atal rhag gweithredu yn unol â'ch credoau a'ch gwerthoedd, ar yr amod eich bod yn dilyn yr arweiniad yn Arfer meddygol da hefyd. Nid ydym yn dymuno atal cleifon rhag cael gofal sy'n cyd-fynd gyda neu sy'n bodloni gofynion eu credoau a'u gwerthoedd ychwaith.
Credoau personol gweithwyr meddygol proffesiynol
Mae modd i weithwyr meddygol proffesiynol wneud gwaith meddygol yn unol â'u credoau, ar yr amod eu bod yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac:
- nad ydynt yn trin cleifon mewn ffordd annheg
- nad ydynt yn atal cleifon rhag manteision ar wasanaethau neu driniaeth feddygol briodol
- nad ydynt yn peri gofd i gleifon.
Os bydd unrhyw rai o'r amgylchiadau hyn yn debygol o godi, disgwyliwn i chi ddarparu gofal, cyngor neu gymorth effeithiol i gleifon, yn unol ag Arfer meddygol da, beth bynnag eich credoau personol.3
Er enghraifft, os mai chi yw'r unig feddyg sy'n meddu ar y statws cyfreithiol i lofnodi tystysgrif amlosgi, ni ddylech wrthod gwneud hynny ar sail eich gwrthwynebiad personol neu grefyddol chi i amlosgi.
Materion cyfreithiol
Fel y mae Arfer meddygol da yn nodi mewn ffordd eglur, rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r materion diweddaraf a dilyn y gyfraith sy'n berthnasol i'ch gwaith. Er enghraifft, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn gwahardd gweithwyr meddygol proffesiynol rhag gwahaniaethu mewn ffordd uniongyrchol neu anuniongyrchol yn erbyn eraill, neu afonyddu arnynt, ar sail nodwedd a ddiogelir4 pan fyddant yn darparu gwasanaethau meddygol. Yn ogystal, mae rhywfaint o ddeddfwriaeth:
- yn rhoi'r hawl benodol i weithwyr meddygol proffesiynol arfer gwrthwynebiad cydwybodol i'r cam o ddarparu triniaeth neu weithdrefnau penodol
- yn caniatáu neu'n gwahardd triniaethau neu weithdrefnau penodol.
Rhoddir esboniad o'r termau 'gwahaniaethu', 'afonyddu' a 'nodwedd a ddiogelir' yn yr atodiad cyfreithiol ar dudalennau 6-7.
Nid yw'r gyfraith yn rhoi rheidrwydd ar weithwyr meddygol proffesiynol i ddarparu triniaethau neu weithdrefnau y maent wedi gwneud asesiad nad ydynt yn briodol ar lefel glinigol, neu nad ydynt yn cynnig budd cyffredinol i'r claf.
Mae'r atodiad cyfreithiol yn darparu gwybodaeth am rywfaint o ddeddfwriaeth berthnasol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr a ydych yn mynd yn groes i'r gyfraith yn y wlad yr ydych yn gweithio ynddi, trwy arfer gwrthwynebiad cydwybodol.
Gwrthwynebiad cydwybodol
Efallai y byddwch yn dewis peidio darparu gweithdrefn benodol o ganlyniad i'ch gwerthoedd a'ch credoau personol, ar yr amod na fydd hyn yn arwain at wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol yn erbyn cleifon unigol neu grwpiau o gleifon, neu'n afonyddu arnynt. Mae hyn yn golygu na ddylech wrthod trin claf penodol neu grŵp o gleifon oherwydd eich credoau personol neu'ch safbwyntiau amdanynt.5Ac ni ddylech wrthod trin canlyniadau dewisiadau ffordd o fyw yr ydych chi'n gwrthwynebu iddynt oherwydd eich credoau, ar iechyd.6
Er enghraifft, mae hyn yn golygu na ddylech wrthod darparu gwasanaethau meddygol i glaf oherwydd bod y claf yn bwriadu ymgymryd â phroses ailbennu rhywedd neu eu bod yn mynd trwy broses o'r fath ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae modd i chi benderfynu peidio darparu neu gyfeirio unrhyw gleifon (gan gynnwys cleifon y maent yn bwriadu ymgymryd â phroses ailbennu rhywedd) am wasanaethau penodol y mae gennych chi wrthwynebiad cydwybodol iddynt, er enghraifft, triniaethau sy'n achosi anffrwythlondeb.
Er enghraifft, er y byddwch yn penderfynu peidio darparu dulliau atal cenhedlu (gan gynnwys atal cenhedlu brys) i unrhyw glaf, mae hyn yn golygu nad oes modd i chi fod yn fodlon eu presgripsiynu i fenywod sy'n byw yn unol â'ch credoau chi yn unig (ee trwy bresgripsiynu ar gyfer menywod priod ond nid ar gyfer menywod di-briod).
Mae gan gyrff cyfogi a chontractio yr hawl i fynnu bod weithwyr meddygol proffesiynol yn cyfawni gofynion cytundebol7 y gallent fod yn cyfyngu ar eu rhyddid i weithio yn unol â'u cydwybod. Mae hwn yn fater rhwng weithwyr meddygol proffesiynol a'u cyrff cyflogi neu gontractio.
Ac eithrio pan na fydd y gofynion hynny yn cydfynd gyda deddfwriaeth neu pan fo'r gyfraith yn cynnig amddiffyniad ar sail cydwybod.
Ar ôl ystyried eich rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol, os byddwch yn dymuno arfer gwrthwynebiad cydwybodol i wasanaethau neu weithdrefnau penodol, rhaid i chi wneud eich gorau i sicrhau bod cleifon y gallent ymgynghori gyda chi amdanynt, yn ymwybodol o'ch gwrthwynebiad ymlaen llaw. Mae modd i chi wneud hyn trwy sicrhau bod unrhyw ddeunydd argraffedig am eich practis a'r gwasanaethau a ddarparir gennych yn esbonio os na fyddwch yn darparu unrhyw wasanaethau fel arfer oherwydd gwrthwynebiad cydwybodol.
Yn ogystal, dylech fod yn agored am eich gwrthwynebiad cydwybodol gyda chyfogwyr, partneriaid neu gydweithwyr. Dylech ystyried gyda nhw sut y bydd modd i chi weithredu yn unol â'ch credoau, heb beryglu gofal i gleifon a heb roi baich ormodol ar gydweithwyr.
Mae gan gleifon yr hawl i gael gwybodaeth am eu cyfwr a'r dewisiadau sydd ar gael iddynt. Os bydd gennych chi wrthwynebiad cydwybodol i driniaeth neu weithdrefn a allai fod yn briodol ar lefel glinigol ar gyfer y claf, rhaid i chi gymryd y camau canlynol.
- Dweud wrth y claf nad ydych yn darparu'r driniaeth neu'r weithdrefn benodol, gan fod yn ofalus na fyddwch yn peri gofd. Efallai y byddwch yn dymuno sôn am y rheswm dros eich gwrthwynebiad, ond rhaid i chi fod yn ofalus na fyddwch yn lled-awgrymu unrhyw feirniadaeth o'r claf.
- Dweud wrth y claf bod ganddynt yr hawl i drafod eu cyfwr a'r dewisiadau ynghylch triniaethau (gan gynnwys y dewis yr ydych yn gwrthwynebu iddo) gydag ymarferwr arall nad oes ganddynt yr un gwrthwynebiad â chi, ac y byddant yn gallu cynnig cyngor iddynt am y driniaeth neu'r weithdrefn yr ydych yn gwrthwynebu iddi
- Sicrhau bod gan y claf ddigon o wybodaeth er mwyn trefnu eu bod yn gweld gweithiwr meddygol proffesiynol arall nad oes ganddynt yr un gwrthwynebiad â chi.
Os na fydd hi'n ymarferol bod claf yn trefnu gweld gweithiwr meddygol proffesiynol arall, rhaid i chi sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud – yn ddi-oed – bod cydweithiwr sy'n meddu ar gymhwyster addas yn cynghori, yn trin neu'n cyfeirio'r claf. Rhaid i chi gofo sefyllfa agored i niwed y claf, gan weithredu'n brydlon er mwyn sicrhau na wrthodir triniaeth neu wasanaethau priodol iddynt. Os bydd gan y claf anabledd, dylech wneud addasiadau rhesymol8 i'ch arfer er mwyn eu galluogi i gael gofal sy'n bodloni eu hanghenion. Mewn argyfyngau, ni ddylech wrthod darparu triniaeth sy'n angenrheidiol er mwyn achub bywyd neu er mwyn atal iechyd unigolyn rhag gwaethygu mewn ffordd ddifrifol oherwydd bod y driniaeth yn mynd yn groes i'ch credoau personol chi.
Mae hwn yn ofyniad dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw 'addasiadau rhesymol' yn golygu newidiadau i'r amgylchedd ffsegol yn unig. Gall gynnwys, er enghraifft, bod yn hyblyg ynghylch amser neu hyd apwyntiad, a gwneud trefniadau ar gyfer y sawl y mae ganddynt anawsterau cyfathrebu, megis nam ar eu clyw. Am ragor o wybodaeth, trowch Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wefan.
Ni fydd angen i chi o reidrwydd i derfynu ymgynghoriad gyda'ch claf oherwydd bod gennych chi wrthwynebiad i driniaeth neu weithdrefn a allai fod yn briodol iddynt. Fodd bynnag, os byddwch yn teimlo (neu os bydd y claf yn teimlo) bod eich gwrthwynebiad cydwybodol yn eich atal chi rhag gwneud asesiad gwrthrychol, dylech awgrymu unwaith eto y dylai'r claf geisio cyngor a thriniaeth mewn man arall.
Ni ddylech atal cleifon rhag manteisio ar wasanaethau neu eu gadael heb unrhyw le i droi.
Beth bynnag fo'ch credoau personol chi am y weithdrefn dan sylw, rhaid i chi barchu urddas a safbwyntiau'r claf.
Sut allai credoau personol claf effeithio areu gofal iechyd?
Gallai credoau personol cleifon beri iddynt:
- ofyn am weithdrefn am resymau crefyddol, diwylliannol neu gymdeithasol yn bennaf
- gwrthod triniaeth yr ydych chi o'r farn ei bod er budd cyffredinol iddynt.
Triniaethau a ddarparir am resymau crefyddol neu ddiwylliannol yn bennaf
Os bydd cleifon (neu'r rhai y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant drostynt) yn gofyn am weithdrefn, megis enwaedu plant gwrywaidd, am resymau crefyddol neu ddiwylliannol yn bennaf, dylech drafod manteision, risgiau a sgil-effeithiau'r weithdrefn gyda nhw. Fel arfer, dylech ddarparu gweithdrefnau9 y mae cleifon yn gofyn amdanynt ac y byddwch chi yn asesu eu bod er budd cyffredinol y claf. Os mai plentyn yw'r claf, fel arfer, dylech ddarparu gweithdrefn neu driniaeth sydd er eu budd pennaf yn ôl eich asesiad chi. Ym mhob sefyllfa, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y claf neu'r rhiant hefyd.
Pan fyddwch yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profad i wneud hynny mewn ffordd ddiogel.
Wrth asesu'r hyn sydd er budd cyffredinol cleifon y maent yn oedolion, rhaid i chi ystyried eu gwerthoedd a'u credoau diwylliannol, eu gwerthoedd a'u credoau crefyddol a'u gwerthoedd a'u credoau eraill. Am gyngor pellach ynghylch asesu budd cyffredinol, trowch at ein harweiniad, Gwneud penderfyniadau a chaniatâd10 a Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau.11
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud penderfyniadau a chaniatâd Llundain, CMC.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2010) Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau Llundain, CMC. Gweler paragraffau 13 a 40 – 46.
Os mai plentyn yw'r claf, rhaid i chi symud ymlaen ar sail budd pennaf y plentyn, a gyda chaniatâd. Bydd asesu budd pennaf yn cynnwys gwerthoedd a chredoau12 diwylliannol, gwerthoedd a chredoau crefyddol a gwerthoedd a chredoau eraill y plentyn a/neu'r rhieni.13 Dylech sicrhau caniatâd y plentyn os byddant yn meddu ar yr aeddfedrwydd a'r ddealltwriaeth i'w rhoi. Os na, dylech sicrhau caniatâd yr holl rai y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant. Os na fydd modd i chi sicrhau caniatâd ar gyfer gweithdrefn, er enghraifft, oherwydd nad yw'r rhieni yn gallu cytuno, ac nid oes modd datrys yr anghydfod mewn ffordd anffurfol, dylech:
- hysbysu rhieni'r plentyn nad oes modd i chi ddarparu'r gwasanaeth oni bai bod y llys yn rhoi'r awdurdod i chi wneud hynny
- cynghori rhieni'r plentyn i geisio cyngor cyfreithiol ynghylch gwneud cais i'r llys.
Yma, mae 'rhieni' yn golygu'r holl rai sy'n meddu ar gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Yn ogystal, rhaid i chi ddilyn ein harweiniad ynghylch trin cleifon 0-18 oed. Cyngor Meddygol Cyffredinol (2007) 0–18 oed Llundain, CMC, paragraffau 34 – 35.
Os byddwch yn barnu nad yw gweithdrefn er budd pennaf plentyn, rhaid i chi esbonio hyn i'r plentyn (os bydd modd iddo ef neu hi ddeall hynny) ac i'w rhieni. Os na fyddwch o'r farn bod y weithdrefn yn cynnig budd cyffredinol i glaf sy'n oedolyn, rhaid i chi esbonio hyn iddynt. Ni fydd rheidrwydd arnoch i ddarparu triniaethau mewn achosion o'r fath. Os ydych yn gwrthwynebu i'r weithdrefn o ganlyniad i'ch credoau crefyddol neu foesol, dylech ddilyn ein cyngor ynghylch gwrthwynebiad cydwybodol (paragraffau 8-16).
Os byddwch yn cytuno cyfawni unrhyw weithdrefn am resymau crefyddol neu ddiwylliannol, rhaid i chi fodloni'r un safonau o ran arfer ag y maent yn ofynnol ar gyfer cyfawni gweithdrefnau therapiwtig, gan gynnwys:
- meddu ar y sgiliau a'r profad angenrheidiol er mwyn cyfawni'r weithdrefn a defnyddio mesurau priodol, gan gynnwys anesthesia, i leihau'r boen a'r anesmwythdra yn ystod y weithdrefn ac ar ôl hynny, gymaint ag y bo modd
- sicrhau eich bod yn diweddaru'ch gwybodaeth a'ch sgiliau
- sicrhau bod yr amodau yn lanwaith
- darparu ôl-ofal priodol.
Os ydych yn cyfawni gweithdrefn enwaedu neu weithdrefn arall am resymau crefyddol, dylech esbonio i'r claf (neu, yn achos plant, eu rhieni), y gallant estyn gwahoddiad i'w cynghorydd crefyddol fod yn bresennol yn ystod y weithdrefn er mwyn rhoi cyngor ynghylch sut y dylid ei pherfformio er mwyn bodloni gofynion eu ffydd.
Cleifon sy’n gwrthod triniaeth
Rhaid i chi barchu penderfyniad claf cymwys i wrthod archwiliad neu driniaeth, hyd yn oed os byddwch o'r farn bod eu penderfyniad yn anghywir neu'n afresymol.14 Mae modd i chi gynnig eich barn glinigol chi i'r claf, ond ni ddylech roi pwysau arnynt i dderbyn eich cyngor.15 Rhaid i chi fod yn ofalus na fydd eich geiriau a'ch gweithredoedd yn lled-awgrymu beirniadaeth o'r claf neu eu gwerthoedd a'u credoau.
Ymddiriedolaeth GIG Airedale v Bland [1993] 1 All ER 821; Re JT (Oedolyn: Gwrthod Triniaeth Feddygol) [1998] 1 FLR 48 ac Re AK (Triniaeth Feddygol: Caniatâd) [2001] FLR 129.
Er enghraifft, mae gan nifer o Dystion Jehofa wrthwynebiadau cryf i ddefnyddio gwaed a chynhyrchion gwaed, a bydd nifer yn eu gwrthod hyd yn oed os byddant yn marw o ganlyniad efallai. Mae modd i bwyllgorau cyswllt ysbyty a sefydlwyd gan Gymdeithas y Ddisgwylfa (corff llywodraethu Tystion Jehofa) gynnig cyngor ynghylch polisi cyfredol y Gymdeithas. Yn ogystal, maent yn cadw manylion am ysbytai a meddygon y mae ganddynt brofad ym maes gweithdrefnau meddygol 'heb waed'.
Os bydd gennych chi wrthwynebiad cydwybodol – er enghraifft, i'r cam o roi'r gorau i roi triniaeth estyn bywyd – dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraffau 79–80 a 47–48 ein harweiniad, Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau.
Os mai plentyn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad yw'r claf, ac os bydd y ddau riant16 yn gwrthod triniaeth ar sail eu credoau crefyddol neu foesol, rhaid i chi drafod eu pryderon, gan geisio dewisiadau triniaeth a fydd yn addas i'w credoau. Dylech gynnwys y plentyn mewn ffordd briodol i'w hoedran a'u haeddfedrwydd. Ar ôl trafod yr holl ddewisiadau, os na fydd modd i chi gytuno ac os bydd triniaeth yn hanfodol er mwyn diogelu bywyd neu atal iechyd rhag dirywio mewn ffordd ddifrifol, dylech geisio cyngor ynghylch troi at y llys.
Mae cydsyniad un rhiant yn ddigonol, gweler Re N (Plentyn: Crefydd: Tyst Jehofa) [2011] EWHC 3737 (Fam); C (Plentyn: Ymwneud â Chrefydd Tystion Jehofa) [2017] EWFC B29.
Mewn argyfwng, mae modd i chi ddarparu triniaeth sy'n angenrheidiol ar unwaith er mwyn achub bywyd neu er mwyn atal iechyd yr unigolyn dan sylw rhag gwaethygu, heb sicrhau caniatâd, neu mewn amgylchiadau arbennig, yn erbyn dymuniadau unigolyn sy'n meddu ar gyfrifoldeb rhiant.
Am gyngor pellach ynghylch rhoi caniatâd i driniaeth sy'n ymwneud gyda phlant ac oedolion, gan gynnwys oedolion heb alluedd, gweler ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd a 0-18 oed.
Trafod credoau personol gyda chleifon
Wrth asesu cyfyrau claf a chofnodi eu hanes, dylech ystyried ffactorau ysbrydol, crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â'u symptomau a'u hanes clinigol (gweler Arfer meddygol da paragraph 15a). Felly, efallai y bydd yn briodol holi'r claf am eu credoau personol. Fodd bynnag, ni ddylech roi pwysau ar glaf i drafod neu i gyfawnhau eu credoau, neu absenoldeb y rhain.
You must provide a good standard of practice and care. If you assess, diagnose or treat patients, you must:
- adequately assess the patient’s conditions, taking account of their history (including the symptoms and psychological, spiritual, social and cultural factors), their views and values; where necessary, examine the patient
- promptly provide or arrange suitable advice, investigations or treatment where necessary
- refer a patient to another practitioner when this serves the patient’s needs.8
Yn ystod ymgynghoriad, dylech sicrhau eich bod yn cadw'r drafodaeth yn berthnasol i ofal a thriniaeth y claf. Os byddwch yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i glaf, gan gynnwys trafod credoau personol gyda chlaf, rhaid i chi fod yn ofalus iawn na fyddwch yn torri'r terfyn proffesiynol17 sy'n bodoli rhyngoch chi. Mae'r terfynau hyn yn hanfodol er mwyn cynnal perthynas o ymddiriedaeth rhwng gweithiwr meddygol proffesiynol a chlaf.
Rhaid i chi ddilyn ein harweiniad ynghylch cynnal terfyn proffesiynol rhyngoch chi a'ch claf. Cyngor Meddygol Cyffredinol (2013) Cynnal terfyn proffesiynol rhyngoch chi a'ch claf Llundain, CMC.
Mae modd i chi drafod eich credoau personol chi, ond dim ond os bydd claf yn eich holi amdanynt mewn ffordd uniongyrchol, neu'n dynodi y byddent yn croesawu trafodaeth o'r fath. Ni ddylech wthio eich credoau a'ch gwerthoedd ar gleifon, neu beri gofd trwy eu mynegi mewn ffordd amhriodol neu ddideimlad.