Pwy yw cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia?

A ninnau'n rheoleiddiwr amlbroffesiwn, rydym yn cydnabod ac yn rheoleiddio meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia fel tri phroffesiwn gwahanol. 

Cymdeithion meddygol

Mae cymdeithion meddygol (PAs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth meddyg mewn timau amlddisgyblaethol. Nid meddygon ydynt.

Mae cymdeithion meddygol fel arfer yn dechrau fel gweithwyr iechyd proffesiynol neu raddedigion prifysgol gyda graddau mewn gwyddorau biofeddygol neu wyddor bywyd. Maent wedyn yn cwblhau dwy flynedd o addysg bellach a hyfforddiant i ennill cymhwyster cydymaith meddygol. 

Cymdeithion anesthesia

Mae cymdeithion anesthesia (AAs) yn darparu gofal i gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl eu llawdriniaeth neu driniaeth o dan oruchwyliaeth meddyg. Nid meddygon ydynt.

Mae cymdeithion anesthesia fel arfer yn dechrau fel gweithwyr iechyd proffesiynol neu raddedigion gwyddorau biofeddygol ac yn cwblhau rhaglen ddwy flynedd arall o addysg a hyfforddiant ôl-raddedig. Mae cymdeithion anesthesia sy’n fyfyrwyr yn cael eu cyflogi gan y sefydliadau lle maent yn hyfforddi wrth iddynt gwblhau eu cwrs i gymdeithion anesthesia, ac mae llawer yn aros gyda’r sefydliad hwnnw ar ôl cymhwyso.