Ailddilysu
Ailddilysu yw’r broses y byddwn yn ei defnyddio i wneud yn siŵr bod cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn cadw eu manylion yn gyfredol ac yn parhau i gyrraedd ein safonau ar ôl cofrestru â ni. Mae cadw eu sgiliau a’u manylion yn gyfredol, a myfyrio ar eu hymarfer, yn ofynion allweddol yn Arfer meddygol da. Rydym yn datblygu model a fydd yn cefnogi cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia i fyfyrio ar eu hymarfer a’i ddatblygu, ac yn rhoi hyder i gydweithwyr a chleifion eu bod yn cadw’n gyfredol.
Byddwn yn pennu dyddiadau ailddilysu unigol ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia maes o law. Cyn i ni allu gwneud hyn, mae angen i ni ddatblygu ac ymgynghori ar y rheolau ar gyfer sut y bydd yr ailddilysu'n cael ei gyflawni. Byddwn yn gofyn barn rhanddeiliaid ac yn darparu rhagor o wybodaeth am ein hamserlen wrth i’r gwaith hwn ddatblygu. Yn y cyfamser, dylai cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia cofrestredig ddechrau cael arfarniadau blynyddol, a mynd ati i gasglu gwybodaeth ategol sydd ei hangen ar gyfer ailddilysu, a myfyrio ar yr wybodaeth honno.