Ar ôl cofrestru gyda ni, bydd yn rhaid i gymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddilyn Arfer meddygol da, sy’n nodi’r safonau gofal cleifion ac ymddygiad a ddisgwylir gan bawb ar ein cofrestrau.

Os bydd pryder difrifol yn cael ei godi gyda ni am gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cofrestredig, efallai y bydd angen inni ymchwilio i asesu a yw’n peri unrhyw risg gyfredol neu barhaus i ddiogelwch y cyhoedd.

Byddwn yn casglu tystiolaeth berthnasol i’n helpu i ddod i benderfyniad teg. Byddwn yn gwerthuso gwybodaeth, yn gofyn cwestiynau, yn herio rhagdybiaethau, ac yn agored i dystiolaeth newydd neu amgylchiadau sy’n newid.

Er mwyn cael y dystiolaeth orau bosibl ar gyfer gwneud penderfyniadau teg, byddwn yn rhoi arweiniad i unigolion ar y broses addasrwydd i ymarfer. Hefyd byddwn yn egluro iddynt beth rydym yn ei ddisgwyl ganddynt i’w helpu i gymryd rhan yn effeithiol.

Ym mhob achos, byddwn yn penderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd, gan beidio â chymryd mwy o gamau nag sydd eu hangen, a hynny’n brydlon. Byddwn yn agored am y broses a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gennym. Byddwn hefyd yn esbonio ein camau’n glir ac yn rhoi rhesymau dros ein penderfyniadau er mwyn i bawb allu eu deall a’n dal ni’n atebol.

Yn ystod cam cyntaf y gwaith rheoleiddio, pan nad oes rhaid cofrestru gyda’r GMC, ni fydd rhai cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia sy’n gweithio ar ein cofrestr. Er na allwn gymryd camau yn erbyn cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia os nad ydynt ar y gofrestr, byddwn yn cofnodi’r wybodaeth er mwyn gallu cyfeirio ati yn y dyfodol a, lle bo hynny’n briodol, byddwn yn cyfeirio pryderon at gyflogwyr neu gyrff perthnasol a allai gymryd camau yn y cyfamser.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau gwe ar Addasrwydd i Ymarfer