Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Cwcis

Rydym am i’n gwasanaethau ar y rhyngrwyd fod yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Mae hyn yn golygu weithiau fod angen gosod rhywfaint o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys ffeiliau testun bach o'r enw cwcis. Mae hyn yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • gwneud ein gwefan yn ddiogel.
  • cyflawni ein swyddogaethau statudol yn effeithlon. 
  • gwneud yn siŵr bod ein gwefan yn gweithio'n dda i chi, a gwneud gwelliannau. 
  • cofio eich dewisiadau pan fo angen.
  • casglu gwybodaeth ddienw am y modd y mae ein gwefan a’n hymgyrchoedd yn gweithio. Mae rhagor o wybodaeth am ein defnydd o ddadansoddeg ar gael isod.
  • personoli’r wefan i ddangos cynnwys perthnasol i chi.
  • gwella’r canllawiau a’r deunyddiau sydd ar gael i chi. 

Rydym yn rhwym wrth gyfarwyddeb Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig y Gymuned Ewropeaidd a GDPR y DU sy’n dweud bod angen i ni roi gwybodaeth i chi am y cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan. Rhagor o wybodaeth am sut mae cwcis yn gweithio. Isod, rydym wedi egluro’r cwcis a ddefnyddir gan y GMC.

Mathau o gwcis a hyd y cwcis

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Mae cwcis sy’n gwbl angenrheidiol yn hanfodol er mwyn i chi allu defnyddio ein gwefan drwy gefnogi nodweddion technegol a diogelwch. Maent yn eich helpu i symud o gwmpas rhannau diogel o’r wefan, yn caniatáu i chi ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein a sgwrsio ar y we. Ni fydd y cwcis hyn byth yn adnabod defnyddwyr unigol ac nid ydym yn eu rhannu ag unrhyw un arall.

Perfformiad

Mae cwcis perfformiad yn ein helpu i wella perfformiad ein gwefan ar sail eich anghenion. Maent yn ein helpu ni i gofio’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud ac yn gwneud y wefan yn fwy perthnasol i chi drwy roi gwell gweithrediad a nodweddion personol i chi. Ni fydd y cwcis hyn byth yn adnabod defnyddwyr unigol ac nid ydym yn eu rhannu ag unrhyw un arall.

Cwcis marchnata

Trydydd partïon sy’n defnyddio cwcis marchnata gan amlaf, i dargedu hysbysebion sy’n berthnasol i’ch dewisiadau. Gallwch chi optio allan o’r cwcis y mae gennym reolaeth drostynt drwy newid gosodiadau cwcis ar ein gwefan. Yn y tabl isod, rydym wedi egluro sut mae optio allan drwy’r trydydd partïon lle bo hynny’n berthnasol.

Cwcis parti cyntaf

Y GMC sy’n gosod cwcis parti cyntaf, fel perchennog y wefan, a dim ond ni sy’n gallu eu darllen.

Cwcis trydydd parti

Mae cwcis trydydd parti yn cael eu gosod gan drydydd parti, er enghraifft YouTube, ac nid oes gan y GMC lawer o reolaeth drostynt. Rydym wedi diffodd y rhain lle bo modd, ond efallai y byddwch yn gallu analluogi’r cwcis hyn drwy ddilyn cyngor y trydydd partïon hyn, er enghraifft Google. Os byddwch yn clicio ar unrhyw ddolenni ar ein gwefan sydd wedi’u cysylltu â darparwyr trydydd parti, YouTube a Soundcloud er enghraifft, mae’n bosibl y bydd gan y trydydd parti hwnnw set o gwcis. Ni allwn reoli hyn, a thrwy ddewis dilyn dolen neu wasanaeth trydydd parti, rydych yn derbyn eu telerau a’u hamodau nhw. Rydym wedi cyfeirio at hyn lle bo hynny’n bosibl.

Cwcis sesiwn

Mae cwcis sesiwn yn para dros gyfnod eich sesiwn ar-lein a byddant yn diflannu ar ôl i chi gau eich porwr (fel Safari, Firefox).

Cwcis parhaus

Bydd cwcis parhaus yn aros ar eich dyfais ar ôl i chi gau eich porwr ac yn para am yr amser a bennir gan y cwci. Rydym wedi egluro hyd pob cwci yn y tabl isod. Bydd y GMC yn defnyddio cwcis parhaus pan fydd angen i ni gofio eich dewisiadau ar gyfer eich ymweliad nesaf.

Cwcis a osodir wrth ymweld â’n gwefan

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
ASP.NET_SessionId Diwedd y sesiwn Parti cyntaf Dynodwr sesiwn unigryw dienw wedi’i greu i gasglu manylion gosodiad neu wybodaeth a roddwyd ar y wefan. Mae’n hanfodol ar gyfer gweithrediad gwefan gan fod y cwci hwn yn caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo rhwng ein tudalennau gwe.
__cfduid Sesiwn Parti cyntaf Mae’n casglu ac yn gwneud cyfeiriadau IP defnyddwyr yn ddienw. Mae’n helpu Cloudflare i ganfod ymwelwyr maleisus â’n gwefan ac i rwystro llai o ddefnyddwyr dilys.
_cf_bm 1 diwrnod Parti cyntaf Diogelwch - mae’r cwci hwn yn helpu i atal cwcis y gellid eu defnyddio mewn ymosodiad seiber, er enghraifft ymosodiad gwrthod gwasanaeth.
__RequestVerificationToken Diwedd y sesiwn Parti cyntaf Cwci gwrth-ffugio i gadarnhau bod cais wedi dod o ddyfais y defnyddiwr ac nad yw’n cael ei ddynwared.
GRECAPTCHA 180 diwrnod Parti cyntaf Defnyddir y cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiau. Mae hyn o fudd i’r wefan wneud adroddiadau dilys ar y defnydd o’r wefan.
BIGipServer# Sesiwn Parti cyntaf Gwneud yn siŵr bod galwadau neu draffig rhwydwaith sy’n dod i mewn yn cael eu dosbarthu’n effeithlon ar draws ein gweinyddion.
Cf_chl_1 1 diwrnod Parti cyntaf Mae’r cwci hwn yn rhan o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Cloudflare - sy’n cynnwys cydbwyso llwyth, darparu cynnwys gwefan a gwasanaethu cysylltiad DNS ar gyfer gweithredwyr gwefannau.
Cf_chl_rc_i 1 diwrnod Parti cyntaf Mae’r cwci hwn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Cloudflare. Mae’n cynnwys cydbwyso llwyth, darparu cynnwys gwefan a gwasanaethu cysylltiad DNS ar gyfer gweithredwyr gwefannau.
CsrfToken Sesiwn Parti cyntaf Mae’n helpu i atal ymosodiadau Ffugio Ceisiadau ar draws gwefannau (CSRF).
Ts Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer diogelwch y wefan.
CookieConsent 12 mis Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i gofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar wefan y GMC.
Shell#lang Sesiwn Parti cyntaf Mae’n storio iaith gyd-destun y wefan bresennol. Defnyddir gan Sitecore.
Cookies_policy 12 mis Parti cyntaf Rydym yn defnyddio hwn i gofnodi eich dewisiadau o ran a ydych am dderbyn cwcis yn ein categorïau Perfformiad neu Farchnata. Ar ôl blwyddyn byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n fodlon parhau â’ch dewisiadau neu eu newid. Gallwch hefyd newid eich gosodiadau unrhyw bryd yn yr adran dewisiadau cwcis
Gmcwebsite#lang Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Gymraeg ar ein gwefan.
Rc::a Parhaus Parti cyntaf Mae Google yn defnyddio’r cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiau. Mae hyn o fudd i’r wefan wneud adroddiadau dilys ar y defnydd o’n gwefan.
Rc::b Sesiwn Parti cyntaf Mae Google yn defnyddio’r cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiau.
Rc::c Sesiwn Parti cyntaf Mae Google yn defnyddio’r cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiau.
Rc::f Parhaus Parti cyntaf Mae Google yn defnyddio’r cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiau.
Sc_anonymous_id 10 mlynedd Parti cyntaf Soundcloud sy’n gosod y cwci hwn i alluogi chwaraewr Soundcloud.
CONSENT 15 mis Trydydd parti Cwci YouTube mewn fideos YouTube.

Perfformiad

Cookie name Retention Set by Purpose
_ga 2 flynedd Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio gan Google Analytics. Mae’n cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_ga_# 2 flynedd Parti cyntaf Mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i gasglu data ar nifer y troeon y mae defnyddiwr wedi ymweld â’r wefan yn ogystal â dyddiadau’r ymweliad cyntaf a’r un diweddaraf.
_gid 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_gat 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i arafu cyfradd ceisiadau i reoli ceisiadau gweinydd.
collect Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i anfon data at Google Analytics am ddyfais ac ymddygiad yr ymwelydd. Mae’n olrhain yr ymwelydd ar draws dyfeisiau a sianelau marchnata.
td Sesiwn Parti cyntaf Google tag manager. Mae’n cofrestru data ystadegol ar ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Mae’n cael ei ddefnyddio gan weithredwr y wefan ar gyfer dadansoddi mewnol.
_hjSession_# 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Hotjar yn casglu ystadegau am ymweliadau’r ymwelydd â’r wefan, fel nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreuliwyd ar y wefan a pha dudalennau a ddarllenwyd.
_hjSessionUser_# Blwyddyn Parti cyntaf Mae Hotjar yn casglu ystadegau am ymweliadau’r ymwelydd â’r wefan, fel nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreuliwyd ar y wefan a pha dudalennau a ddarllenwyd.
_hjTLDTest Sesiwn Parti cyntaf Mae Hotjar yn cofrestru data ystadegol ar ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Mae’n cael ei ddefnyddio gan weithredwr y wefan ar gyfer dadansoddi mewnol.
hjActiveViewportIds Parhaus Parti cyntaf Cwci Hotjar sy’n cynnwys llinyn adnabod ar y sesiwn bresennol. Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth nad yw’n bersonol am ba is-dudalennau y mae’r ymwelydd yn mynd iddynt – defnyddir yr wybodaeth hon i wneud y gorau o brofiad yr ymwelydd.
hjViewportId Sesiwn Parti cyntaf Mae Hotjar yn cadw maint sgrin y defnyddiwr i addasu maint y delweddau ar y wefan.
iU5q-!O9@$ Sesiwn Trydydd parti Mae’n cofrestru rhif adnabod unigryw i gadw ystadegau o ba fideos o YouTube mae’r defnyddiwr wedi’u gweld.

LAST_RESULT_ENTRY_KEY,

nextId, requests

Sesiwn Trydydd parti Mae’n cael ei ddefnyddio i olrhain sut mae’r defnyddiwr yn rhyngweithio â chynnwys sydd wedi’i blannu.
remote_sid Sesiwn Trydydd parti Angenrheidiol ar gyfer gweithrediad a swyddogaeth cynnwys fideo YouTube ar y wefan.
ServiceWorkerLogs
Database#SWHealthLog
Parhaus Trydydd parti Angenrheidiol ar gyfer gweithrediad a swyddogaeth cynnwys fideo YouTube ar y wefan.
TESTCOOKIESENABLED 1 diwrnod Trydydd parti Mae’n cael ei ddefnyddio i olrhain sut mae’r defnyddiwr yn rhyngweithio â chynnwys sydd wedi’i blannu.
WIDGET::local::assignments Parhaus Trydydd parti Mae’n cael ei ddefnyddio gan y llwyfan sain, SoundCloud, i weithredu, mesur a gwella’r gwasanaeth/cynnwys sydd wedi’i blannu ar y wefan. Mae casglu data hefyd yn cynnwys sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â gwasanaeth/cynnwys sydd wedi’i blannu. Gellir defnyddio hwn at ddibenion ystadegau neu farchnata.
ytidb::LAST_RESULT_ENTRY_KEY
YtIdbMeta#databases
Parhaus Trydydd parti Mae YouTube yn ei ddefnyddio i olrhain sut mae’r defnyddiwr yn rhyngweithio â chynnwys sydd wedi’i blannu.
yt-remote-connected-devices
yt-remote-device-id
Parhaus Trydydd parti Mae’n storio dewisiadau chwaraewyr fideo’r defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube sydd wedi’i blannu.
yt-remote-cast-available
yt-remote-cast-installed
yt-remote-fast-check-period
yt-remote-session-app
yt-remote-session-name
Sesiwn Trydydd parti Mae’n storio dewisiadau chwaraewyr fideo’r defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube sydd wedi’i blannu.

Marchnata

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
_gcl_au 3 mis Trydydd parti Mae Google AdSense yn ei ddefnyddio i arbrofi ag effeithlonrwydd hysbysebion ar draws gwefannau sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Cwcis a osodir wrth ymweld â GMC Connect a GMC Online

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
..AspNetCore.Cookies Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i adnabod a chynnal y sesiwn B2C.
ef270529b84d369ff5b39af64d5d1df8 15 munud Parti cyntaf Mae’n cadw golwg ar pryd mae’r sesiwn i fod i ddod i ben er mwyn ailgyfeirio ar ddyfais symudol os bydd y defnyddiwr yn dod yn ôl i mewn ar ôl i’r cwci ddod i ben.
GMCSignInUrlRedirect
ResolveGMCSignInUrlRedirect
2 awr Parti cyntaf Mae'n storio URL i ailgyfeirio ato ar ôl mewngofnodi i B2C. Mae'n cael ei ddefnyddio i wybod a oes angen i ni ailgyfeirio'r defnyddiwr ar ôl iddo fewngofnodi, er enghraifft ar ôl ailosod cyfrinair.
JSESSIONID Sesiwn Parti cyntaf Defnyddir ar gyfer rheoli sesiwn.
OpenIdConnect.nonce. 15 munud Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i ddilysu’r sesiwn B2C ac i ddiogelu rhag ymosodiadau ailchwarae.
_sn_ecustomer_enu Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i adnabod a chynnal sesiwn Siebel y defnyddwyr ar GMC Online.
_sn_gmcconnect_enu Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i adnabod a chynnal sesiwn Siebel y defnyddwyr ar GMC Connect.
_sn_gmcconnect_enu Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i adnabod a chynnal sesiwn Siebel y defnyddwyr ar GMC Connect.
x-ms-cpim-admin
x-ms-cpim-cache:{id}_n
x-ms-cpim-csrf
x-ms-cpim-ctx
x-ms-cpim-dc
x-ms-cpim-rc
x-ms-cpim-rp
x-ms-cpim-slice
x-ms-cpim-sso:{Id}
x-ms-cpim-trans
Sesiwn Parti cyntaf Mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan Azure Active Directory B2C (Azure AD B2C). Mae Azure AD B2C yn wasanaeth rheoli hunaniaeth sy'n galluogi ein defnyddwyr i gofrestru, mewngofnodi a rheoli proffil. Rydym yn defnyddio’r llwyfan hwn ar gyfer ein cymwysiadau GMC Online a GMC Connect. Mae rhagor o wybodaeth am y Cwcis hyn ar gael yn: diffiniadau Cwcis - Azure AD B2C.
ai_user 1 Blwyddyn Parti cyntaf Mae Microsoft PowerBI yn ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth ystadegol am ddefnydd a thelemetreg. Mae’r cwci yn storio dynodwr unigryw i adnabod defnyddwyr sy’n dychwelyd dros amser.
ai_session 1 diwrnod Parti cyntaf Mae'n cadw cyflyrau defnyddiwr ar draws ceisiadau tudalen.

Perfformiad

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
_gid 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_gat 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i arafu cyfradd ceisiadau i reoli ceisiadau gweinydd.
_ga 2 flynedd Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio gan Google Analytics. Mae’n cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_hjSession_# 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Hotjar yn casglu ystadegau am ymweliadau’r ymwelydd â’r wefan, fel nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreuliwyd ar y wefan a pha dudalennau a ddarllenwyd.
_hjSessionUser_# 1 Blwyddyn Parti cyntaf Mae Hotjar yn casglu ystadegau am ymweliadau’r ymwelydd â’r wefan, fel nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreuliwyd ar y wefan a pha dudalennau a ddarllenwyd.
_hjTLDTest Sesiwn Parti cyntaf Mae Hotjar yn cofrestru data ystadegol ar ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Mae’n cael ei ddefnyddio gan weithredwr y wefan ar gyfer dadansoddi mewnol.
hjActiveViewportIds Parhaus Parti cyntaf Cwci Hotjar sy’n cynnwys llinyn adnabod ar y sesiwn bresennol. Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth nad yw’n bersonol am ba is-dudalennau y mae’r ymwelydd yn mynd iddynt – defnyddir yr wybodaeth hon i wneud y gorau o brofiad yr ymwelydd.
hjViewportId Sesiwn Parti cyntaf Mae Hotjar yn cadw maint sgrin y defnyddiwr i addasu maint y delweddau ar y wefan.

Cwcis a osodir wrth ymweld â’n gwefan recriwtio

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Cookie Name Retention Set by Purpose
sessionid2965 Sesiwn Parti cyntaf Mae’n gadael i ddefnyddiwr ddewis derbyn hysbysiadau swyddi drwy e-bost.
lastaccesstime2965 Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cofnodi dyddiad ac amser yr ymweliad.
Ccp_user2965 Sesiwn Parti cyntaf Mae'n cofnodi enw defnyddiwr ymgeisydd - ni fydd yn cael ei osod oni bai fod defnyddiwr yn cofrestru i ddefnyddio'r wefan, ac mae’n galluogi defnyddiwr i wneud ceisiadau am swyddi.
Ccp_name2965 Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cofnodi enw ymgeisydd - ni fydd yn cael ei osod oni bai fod defnyddiwr yn cofrestru i ddefnyddio’r wefan, ac mae’n galluogi defnyddiwr i wneud ceisiadau am swyddi.
Wedeputy_reg_email_3552 Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cofnodi cyfeiriad e-bost ymgeisydd - ni fydd yn cael ei osod oni bai fod defnyddiwr yn cofrestru i ddefnyddio’r wefan, ac mae’n galluogi defnyddiwr i wneud ceisiadau am swyddi.

Perfformiad

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
_ga 2 flynedd Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio gan Google Analytics. Mae’n cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_ga_# 2 flynedd Parti cyntaf Mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i gasglu data ar nifer y troeon y mae defnyddiwr wedi ymweld â’r wefan yn ogystal â dyddiadau’r ymweliad cyntaf a’r un diweddaraf.
_gid 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn cofrestru rhif adnabod unigryw sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae’r ymwelydd yn defnyddio’r wefan.
_gat 1 diwrnod Parti cyntaf Mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i arafu cyfradd ceisiadau i reoli ceisiadau gweinydd.

Cwcis a osodir wrth ymweld â GMC Data Explorer ac Education Data Tool

Cwcis sy’n gwbl angenrheidiol

Enw’r cwci Cadw Gosodwyd gan Pwrpas
__cfduid Sesiwn Parti cyntaf Mae’n casglu ac yn gwneud cyfeiriadau IP defnyddwyr yn ddienw. Mae’n helpu Cloudflare i ganfod ymwelwyr maleisus â’n gwefan ac i rwystro llai o ddefnyddwyr dilys.
_cf_bm 1 diwrnod Parti cyntaf Diogelwch - mae’r cwci hwn yn helpu i atal cwcis y gellid eu defnyddio mewn ymosodiad seiber, er enghraifft ymosodiad gwrthod gwasanaeth.
__RequestVerificationToken Diwedd y sesiwn Parti cyntaf Cwci gwrth-ffugio i gadarnhau bod cais wedi dod o ddyfais y defnyddiwr ac nad yw’n cael ei ddynwared.
AI_buffer
AI_sentBuffer
Sesiwn Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i gyfyngu ar nifer y diweddariadau-gweinydd-data (Azure). Mae'r synergedd hwn hefyd yn caniatáu i'r wefan ganfod unrhyw ddiweddariadau-gweinydd-data dyblyg.
ai_user Blwyddyn Parti cyntaf Used by Microsoft PowerBI to collect statistical usage and telemetry information. The cookie stores a unique identifier to recognise users on returning visits over time.
ARRAffinitySameSite Sesiwn Parti cyntaf Mae Microsoft PowerBI Insights yn neilltuo rhif adnabod unigryw i chi er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol am ddefnydd a thelemetreg i’n helpu i wella perfformiad a defnyddioldeb.
ASP.NET_SessionId Diwedd y sesiwn Parti cyntaf Dynodwr sesiwn unigryw dienw wedi’i greu i gasglu manylion y gosodiad neu’r wybodaeth a roddwyd ar y wefan. Mae’n hanfodol ar gyfer gweithrediad gwefan gan fod y cwci hwn yn caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo rhwng ein tudalennau gwe.
BIGipServer# Sesiwn Parti cyntaf Gwneud yn siŵr bod galwadau neu draffig rhwydwaith sy’n dod i mewn yn cael eu dosbarthu’n effeithlon ar draws ein gweinyddion.
CookieConsent 12 mis Parti cyntaf Mae’n cael ei ddefnyddio i gofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar wefan y GMC.
Cookies_policy 12 mis Parti cyntaf Rydym yn defnyddio hwn i gofnodi eich dewisiadau o ran a ydych am dderbyn cwcis yn ein categorïau Perfformiad neu Farchnata. Ar ôl blwyddyn byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n fodlon parhau â’ch dewisiadau neu eu newid. Gallwch hefyd newid eich gosodiadau unrhyw bryd yn yr adran dewisiadau cwcis.
cookies_preference_set
(gde.gmc-uk.org only)
Blwyddyn
Parti cyntaf Mae’n cofnodi dewisiadau caniatâd cwcis y defnyddiwr. Mae’n storio gwybodaeth am y categorïau o gwcis y mae’r wefan yn eu defnyddio ac a yw ymwelwyr wedi rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl ar gyfer pob categori.
cookietest Sesiwn Parti cyntaf Defnyddir y cwci hwn i benderfynu a yw’r ymwelydd wedi derbyn y blwch caniatáu cwcis.
manifests.artifacts
manifests.products
manifests.tabs
Parhaus Parti cyntaf Mae llwyfan Microsoft Power BI yn ei ddefnyddio i ddangos graffeg ar y wefan.
Shell#lang Sesiwn Parti cyntaf Mae’n storio iaith gyd-destun y wefan bresennol. Defnyddir gan Sitecore.
WFESessionId Sesiwn Parti cyntaf Cwci PowerBI sy’n ofynnol er mwyn i’r adroddiadau weithio.

Perfformiad

Cookie name Retention Set by Purpose
_ga_# Blwyddyn First party Caiff ei ddefnyddio gan Google Analytics i wahaniaethu rhwng defnyddwyr drwy neilltuo rhif a gynhyrchir ar hap fel dynodwr cleient. Mae wedi'i gynnwys ym mhob cais tudalen ar wefan ac yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo data ymwelwyr, sesiynau ac ymgyrchoedd ar gyfer adroddiadau dadansoddeg y wefan.
_ga_KGWWQL4MM1 Blwyddyn First party Amrywiad i’r cwci _ga cookie sy’n cael ei osod gan Google Analytics a Google Tag Manager i alluogi perchnogion gwefannau i dracio ymddygiad ymwelwyr a mesur perfformiad y wefan. Mae’r elfen patrwm yn yr enw yn cynnwys rhif adnabod unigryw’r cyfrif neu’r wefan dan sylw.
_hjSessionUser_3680533 Blwyddyn First party Defnyddir gan Hotjar i nodi sesiwn gyntaf defnyddiwr newydd. Mae’n storio gwerth gwir/anwir, gan nodi ai dyma’r tro cyntaf i Hotjar weld y defnyddiwr hwn. Mae’n cael ei ddefnyddio gan hidlyddion Cofnodi i adnabod sesiynau defnyddwyr newydd.
_hjSession_3680533 Blwyddyn First party Mae’r cwci Hotjar hwn yn cynnal cyflwr y sesiwn ar draws ceisiadau tudalennau. Mae’n sicrhau bod yr un ID defnyddiwr yn cael ei briodoli i ymddygiad ar ymweliadau dilynol â’r un wefan.

Cwcis cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio nifer o safleoedd cyfryngau cymdeithasol a chymwysiadau i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith ac i hyrwyddo arferion meddygol da.

Sylwch y bydd eich defnydd o’r safleoedd hyn yn amodol ar delerau ac amodau pob un. Darllenwch eu hysbysiad preifatrwydd a hysbysiad cwcis yn ofalus, a gwiriwch eich gosodiadau personol lle bo hynny'n briodol i wneud yn siŵr eich bod yn hapus ynglŷn â sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y safle cyfryngau cymdeithasol.

Nid ydym yn mynd ati i gasglu data rydych yn ei gyflwyno i unrhyw wefannau trydydd parti, ond mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth gyfunol (nad yw’n eich adnabod chi) i’n helpu i fonitro mynediad at ein cynnwys.

Data a dadansoddeg ein gwefan

Google Analytics

Mae cwcis Google Analytics yn cael eu dosbarthu fel cwcis perfformiad. Nid ydynt yn gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithrediad gwefan y GMC. Os ydych chi’n cydsynio i gwcis Google Analytics drwy ein baner cwcis, byddwn yn defnyddio Google Analytics i fonitro’r defnydd o’r safle.

Fel rhan o Google Analytics, rydym wedi galluogi nodweddion Google Advertising. Mae’r nodweddion hyn yn ein galluogi i weld gwybodaeth ddemograffig gyfunol am ein defnyddwyr, fel grŵp oedran, rhywedd, categorïau diddordeb, ac ati.

Rydym hefyd yn defnyddio cwcis ar gyfer ailfarchnata, sy’n golygu y gallwn ni ddangos cynnwys am ein swyddogaethau rheoleiddio a allai, yn ein barn ni, fod o ddiddordeb i chi pan fyddwch yn ymweld â gwefannau eraill. Gall gwerthwyr trydydd parti, gan gynnwys Google, ddefnyddio cwcis i gyflwyno hysbysebion ar sail eich ymweliadau blaenorol â’n gwefannau. 

Hotjar

Ystyrir bod cwcis Hotjar yn gwcis perfformiad, felly mae angen eich cydsyniad arnom drwy’r faner Cwcis er mwyn gallu eu defnyddio ar eich dyfais wrth ymweld â’n gwefan. Rydym yn defnyddio Hotjar i ddeall yn well beth yw anghenion ein defnyddwyr ac i wneud y gorau o’u gwasanaeth a’u profiad. Mae Hotjar yn wasanaeth technolegol sy’n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (er enghraifft, faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni maen nhw’n dewis clicio arnynt, beth mae defnyddwyr yn ei wneud a ddim yn ei hoffi, ac ati). Mae hyn yn ein helpu i adeiladu a chynnal ein gwasanaeth gydag adborth gan ddefnyddwyr.

Mae Hotjar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data am ymddygiad ein defnyddwyr a’u dyfeisiau, yn benodol, cyfeiriad IP dyfais (a fydd yn cael ei gofnodi a’i storio ar ffurf ddienw yn unig), maint sgrin dyfais, math o ddyfais (dynodwyr dyfais unigryw), gwybodaeth am y porwr, lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), a’r dewis iaith a ddefnyddir i arddangos ein gwefan. Mae Hotjar yn storio’r wybodaeth hon mewn proffil defnyddiwr â ffugenw. Ni fydd Hotjar na’r GMC byth yn defnyddio’r wybodaeth hon i adnabod defnyddwyr unigol na'i chyfateb i ragor o ddata am ddefnyddiwr unigol. I gael rhagor o fanylion, edrychwch ar bolisi preifatrwydd Hotjar.

Newidynnau sesiwn

Mae rhai o’n microwefannau’n defnyddio newidynnau sesiwn i gofnodi eich ymatebion. Mae newidynnau sesiwn yn wahanol i gwcis oherwydd eu bod yn cael eu storio ar y gweinydd mewn perthynas â'r sesiwn, yn hytrach nag ar eich dyfais. Mae newidynnau sesiwn yn ffeiliau data lled-barhaol sy'n bodoli tra bydd eich sesiwn gyda rhaglen yn weithredol yn unig. Mae newidynnau sesiwn yn benodol i bob ymwelydd ac yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau'r porwr.

Rydym yn monitro’r broses o gyflwyno cwcis newydd ar ein gwefannau ac yn diweddaru gwybodaeth am gwcis preifatrwydd lle bo hynny’n briodol.