Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Eich hawliau gwybodaeth

Mae gennych chi hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data i gael mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch ac i’w rheoli, er bod eithriadau i’r hawliau hynny hefyd. Isod mae rhagor o fanylion am eich hawliau gwybodaeth a phwy y gallwch chi gysylltu â nhw os oes gennych chi gwestiwn.

Cael gafael ar eich data

Mae gennych chi hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch. I wneud hyn, gallwch chi anfon e-bost i foi@gmc-uk.org. Byddwn yn ymateb o fewn mis fel arfer, ond os yw’r cais yn gymhleth neu’n cynnwys llawer iawn o ddata, gall gymryd hyd at dri mis i ni ymateb.

Nid oes ffi am wneud cais fel arfer. Ond mae gennym ni hawl i ofyn am ffi os yw’r cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol.

Mewn rhai achosion, nid oes rhaid i ni ddarparu copi o’r data oherwydd bod eithriad yn berthnasol. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd y canlynol:

  • mae'r data hefyd yn ddata personol i berson arall ac ni fyddai'n rhesymol ei ddatgelu i chi heb gydsyniad y person hwnnw.
  • byddai datgelu’r data yn niweidio ein swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft drwy ei gwneud yn anodd i ni gynnal ymchwiliad teg i addasrwydd i ymarfer.
  • byddai datgelu eich data yn amharu ar gynnal ymchwil gan y GMC neu ar ei ran. 

Rheoli'r modd rydym yn defnyddio eich data

Mae gennych hawl o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GPDR y DU) i reoli’r modd rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydym yn ei ddefnyddio. 

Ond mae rhai eithriadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Nid oes rhaid i ni gydymffurfio â chais i ddileu neu roi’r gorau i ddefnyddio eich data personol os, er enghraifft:

  • mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ddefnyddio eich data personol mewn ffordd benodol.
  • rydym yn defnyddio eich data i gyflawni ein swyddogaethau statudol, oherwydd mae sail gref o ran budd y cyhoedd a diogelwch cleifion i ni brosesu data personol sydd ei angen arnom i gyflawni ein rôl.
  • rydym yn prosesu eich data at ddibenion ymchwil a byddai dileu'r data yn amharu ar ein nodau ymchwil.

Os na allwn ddarparu gwybodaeth i chi oherwydd bod eithriad yn berthnasol, byddwn yn dweud wrthych pam. 

I wneud cais am hawliau gwybodaeth, gallwch afon e-bost i dpo@gmc-uk.org