Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Defnyddio data personol sy’n benodol i destunau data

Meddyg cofrestredig neu ddarpar feddyg cofrestredig

Mae meddyg cofrestredig yn golygu meddyg sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd, cyn feddyg neu ddarpar feddyg cofrestredig.

Gwybodaeth cofrestru

Pam rydym yn dal yr wybodaeth

Mae’r gyfraith, gan gynnwys Deddf Meddygaeth 1983, yn mynnu bod yn rhaid i ni gadw cofrestr o ymarferwyr meddygol. Rydym yn sicrhau bod meddygon ar y gofrestr yn meddu ar gymwysterau addas. Rydym yn dal gwybodaeth gyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â meddygon ynghylch eu cofrestriad, ailddilysu, talu ffioedd cadw blynyddol a materion sy’n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer. Rydym hefyd yn cysylltu â meddygon gyda newyddion perthnasol, fel canllawiau neu safonau newydd.

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

Rydym yn dal gwybodaeth am ymarferwyr sydd wedi cofrestru gyda ni. Rydym hefyd yn dal gwybodaeth am ymarferwyr sy’n gwneud cais i gofrestru, a’r rhai nad ydynt wedi cofrestru mwyach.

At ddibenion cofrestru ailddilysu, rydym yn dal gwybodaeth am genedligrwydd, cymwysterau, hanes cyflogaeth a thystiolaeth berthnasol arall am feddygon i gefnogi eu cais i gofrestru. Rydym yn prosesu argymhellion, ffurflenni blynyddol a chanlyniadau asesiadau ailddilysu mewn perthynas ag ailddilysu meddygon.

Rydym yn dal data am iechyd meddygon ac euogfarnau troseddol os ydynt wedi rhoi’r wybodaeth hon i ni fel rhan o’u cais neu arfarniad.

Pan fydd darpar feddyg cofrestredig yn gwneud cais i gofrestru fel myfyriwr graddedig meddygol rhyngwladol, rydym yn gwirio ei gymhwyster meddygol sylfaenol ac, os yw'n berthnasol, ei gymhwyster ôl-raddedig. Mae’r broses ddilysu’n cael ei chynnal ar ein rhan gan sefydliad allanol ac mae’n bosibl y bydd angen trosglwyddo data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Rydym yn cael cadarnhad o’r dilysiad, neu wybodaeth am unrhyw bryderon a godir drwy’r broses. 

Os yw ymarferydd wedi sefyll unrhyw brawf gyda’r Bwrdd Asesu Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB), byddwn yn dal gwybodaeth am hanes ei asesiad a’i sgoriau.

Rydym yn dal gwybodaeth gyswllt am feddygon, ac yn dibynnu ar sut maen nhw’n talu eu Ffioedd Cadw Blynyddol, fe allem hefyd ddal gwybodaeth am gyfrif banc neu gerdyn credyd. 

Rydym yn dal gwybodaeth am ddigwyddiadau addasrwydd i ymarfer sy’n digwydd pan fydd myfyriwr mewn ysgol feddygol yn y DU. Caiff yr wybodaeth hon ei darparu gan fyfyrwyr a phrifysgolion pan fydd y myfyriwr yn gwneud cais am gofrestriad dros dro.

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Rhaid i ni sicrhau bod rhywfaint o’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd ar y gofrestr feddygol. Gall sefydliadau danysgrifio i lwytho’r gofrestr feddygol i lawr (Saesneg yn unig) a gweld rhestr lawn o’r meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil llwytho i lawr (Saesneg yn unig). Nid yw’r gofrestr feddygol a gyhoeddir na’r ffeil sy’n cael ei llwytho i lawr yn cynnwys manylion cyswllt meddygon.

Rydym yn rhannu gwybodaeth cofrestru nad yw’n gyhoeddus â thrydydd partïon perthnasol pan fydd angen eu helpu gyda’u swyddogaethau neu eu buddiannau cyfreithlon. Mae trydydd partïon yn cynnwys adrannau iechyd y DU, cyflogwyr, cyrff dynodedig, swyddogion cyfrifol, personau addas a chyrff eraill lle bo hynny’n briodol. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys dyddiad geni, ffotograff, manylion pasbort, cyfeiriad e-bost cofrestredig, cyfeiriad cofrestredig ac a yw meddyg yn destun ymchwiliad dan ein gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer. 

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac Archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth cofrestru ar gael yn ein Polisi cyhoeddi a datgelu ar gyfer cofrestru ac ailddilysu.

Gwiriadau adnabod digidol

Pam ydym yn cynnal gwiriadau adnabod?

Rydym yn gwirio pwy yw unrhyw un sydd am ymuno â’n cofrestr neu gael eu hadfer i’n cofrestr er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol yn Neddf Meddygaeth 1983. Rydym yn gwneud hyn i ddiogelu manylion hunaniaeth meddygon, i wneud yn siŵr nad oes neb yn gallu defnyddio eu gwybodaeth ar gam, ac i ddiogelu’r cyhoedd.

Beth yw Digidentity?

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Digidentity i gynnal Gwiriadau Adnabod Digidol ar ein rhan.

Yn ystod eich Gwiriad Adnabod Digidol gyda Digidentity, gofynnir i chi ddefnyddio ap Digidentity i sganio dogfen hunaniaeth ddilys gan ddefnyddio eich ffôn clyfar. Os byddai’n well gennych beidio â defnyddio ap Digidentity, gallwch ddewis cael gwiriad adnabod wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yn Llundain. Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda rhagor o wybodaeth am drefnu apwyntiad.

Pa fath o ddata fydd yn cael ei gasglu yn ystod eich Gwiriad Adnabod Digidol?

Yn ystod eich Gwiriad Adnabod Ddigidol gyda Digidentity, gofynnir i chi dynnu llun o’ch dogfen adnabod (neu ddarllen y sglodyn NFC os yw’n bresennol) gan ddefnyddio ap Digidentity.

Byddwn yn derbyn y dogfennau adnabod canlynol ar gyfer eich Gwiriad Adnabod Digidol:

  • Pasbort
  • Trwydded yrru lawn y DU

Bydd Digidentity yn defnyddio’r data o’r llun a’r sglodyn NFC os yw eich dogfen yn cynnwys sglodyn.

Gofynnir i chi hefyd dynnu lluniau o’ch wyneb, a elwir yn ‘wiriad byw’.

Mae Digidentity yn ‘rheolydd data’ ynddo’i hun, sy’n golygu y byddwch chi'n cofrestru ac yn cwblhau eich gwiriad hunaniaeth gyda nhw, a bydd ganddynt gyfrifoldeb a rheolaeth dros y data rydych chi’n ei ddarparu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddatganiad preifatrwydd Digidentity.

Ochr yn ochr â’r data a ddarperir i ni gan Digidentity, bydd y GMC hefyd yn prosesu eich enw, eich cyfeirnod gyda’r GMC, a’r cyfeiriad e-bost sydd gennym yn ein cofnodion.

Sut mae cadarnhau pwy ydych chi?

Mae dau gam i'r broses:

  1. Gwiriad Adnabod Digidol gan Digidentity
  2. Gwiriad â llaw gan y GMC

Ar ôl i chi gwblhau eich Gwiriad Adnabod Digidol, bydd angen i chi roi caniatâd yn yr ap i Digidentity rannu’r data a rannwyd gennych â’r GMC. Yn ogystal â’r gwiriad awtomataidd a wneir gan Digidentity, bydd y GMC yn cynnal gwiriad adnabod â llaw ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd. Byddwn hefyd yn gwirio bod y data’n cyfateb i’ch cais cofrestru.

Os na allwn ni ddilysu eich dogfennau, neu os nad yw eich lluniau’n glir, mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau Gwiriad Adnabod Digidol arall. Os felly, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda rhagor o wybodaeth. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ymweld â’n swyddfa’n bersonol, er enghraifft os nad ydym wedi gallu cadarnhau pwy ydych chi ar ôl sawl ymgais. Os byddwn yn gofyn i chi ymweld â’n swyddfa, byddwn yn rhoi esboniad clir ynghylch pam mae angen gwneud hyn.

Pwy fydd yn cael gweld eich gwybodaeth adnabod?

Er mwyn adolygu a gwirio eich data â llaw, bydd y data a gesglir yn ystod eich gwiriad adnabod yn cael ei rannu â’r GMC ac yn cael ei storio’n ddiogel yn ein cronfa ddata fewnol. Dim ond aelodau o staff y GMC sydd ei angen ar gyfer eu rôl fydd yn cael mynediad at eich data.

Mae’n bosibl y bydd data ynghylch a ydych chi wedi cwblhau eich gwiriad ai peidio yn cael ei rannu â’ch swyddog cyfrifol. Os ydych chi’n fyfyriwr meddygol neu wedi graddio mewn meddygaeth yn y DU, byddwn ni’n rhannu data ynghylch a ydych chi wedi cwblhau gwiriad adnabod gyda’ch ysgol feddygol ai peidio.

Ni fydd eich data’n cael ei rannu â neb arall, ac eithrio’r llun a gymerwyd yn ystod eich gwiriad byw, y gallwn ei ddatgelu, ar gais, i gyflogwyr fel rhan o wiriadau cyn cyflogi.

Am faint y byddwn yn cadw eich gwybodaeth adnabod?

Bydd y GMC yn cadw gwybodaeth y gwiriad adnabod a chanlyniad eich gwiriad adnabod yn barhaol, yn unol â’n polisi cadw a gwaredu.

Pa hawliau sydd gennych gyda’r data?

Cewch fwy o wybodaeth am eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) am yr wybodaeth sydd gan y GMC amdanoch yn ein polisi preifatrwydd.

Gyda phwy ddylech chi gysylltu os oes gennych chi gwestiynau am Wiriadau Adnabod Digidol?

Gallwch chi anfon e-bost i’n Canolfan Gyswllt neu siarad ag un o’n cynghorwyr.

Gwybodaeth am ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer a sancsiynau

Pam rydym yn dal yr wybodaeth

Mae gennym gylch gwaith statudol sy’n rhoi grym i ni ymchwilio pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau yn sylweddol neu fwy nag unwaith. 

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

Rydym yn dal gwybodaeth am bryderon addasrwydd i ymarfer, ymchwiliadau i bryderon, cofnodion gwrandawiadau, a chofnodion canlyniad ein hymchwiliadau, gan gynnwys sancsiynau a rhybuddion.

Rydym yn dal gwybodaeth am gleifion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o gŵyn neu pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein hymchwiliad.

Rydym yn dal gwybodaeth am iechyd meddygon ac euogfarnau troseddol pan fo hynny’n berthnasol i’r pryder rydym yn ei ystyried.

Mae gennym y pŵer i fynnu bod gwybodaeth, gan gynnwys cofnodion meddygol, yn cael eu datgelu os oes angen.

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Meddygaeth yn rhoi grym i ni rannu gwybodaeth am ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer gyda chyflogwyr, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau sy’n goruchwylio ein gwaith.

Yn ystod ymchwiliad, gallwn ddatgelu manylion yr ymchwiliad i sefydliadau neu unigolion eraill pan fo raid i ni gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Cyhoeddir cosbau addasrwydd i ymarfer ar gofnod meddyg ar y gofrestr feddygol ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am wrandawiadau a sancsiynau a roddir gan dribiwnlys yn cael ei chyhoeddi ar wefan MPTS. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, yn ein Polisi ar gyhoeddi a datgelu addasrwydd i ymarfer.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio achosion at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Disclosure Scotland (DS) os bodlonir y meini prawf naill ai o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007. Mae hyn yn cynnwys datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys a, lle bo angen, gwybodaeth berthnasol arall i alluogi’r DBS neu DS i ystyried yr atgyfeiriad. Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i roi unrhyw wybodaeth y mae’r DBS neu DS yn gofyn amdani o dan y ddeddfwriaeth hon. 

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac Archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn rhannu gwybodaeth am sancsiynau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon.

Achwynydd

Ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer 

Pam rydym yn dal yr wybodaeth

Mae gennym gylch gwaith statudol sy’n rhoi grym i ni ymchwilio pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau yn sylweddol neu fwy nag unwaith. 

Os byddwch yn mynegi pryderon am feddyg gyda ni, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth a roddwch i ymchwilio i’r pryderon hynny. Rydym yn rhoi rhagor o fanylion ar sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon yn Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth wrth ystyried pryderon.

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

Rydym yn dal gwybodaeth am bryderon addasrwydd i ymarfer, ymchwiliadau i bryderon, cofnodion gwrandawiadau, a chofnodion canlyniad ein hymchwiliadau, gan gynnwys sancsiynau a rhybuddion.

Rydym yn dal gwybodaeth am gleifion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o gŵyn neu’n pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein hymchwiliad. 

Mae gennym y pŵer i fynnu bod cofnodion meddygol yn cael eu datgelu os oes angen. Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn ein Cynllun cyfarfodydd cyswllt cleifion, gallwn gadw cofnod o unrhyw gyfarfodydd neu ymgysylltu yn ogystal ag unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig ag ad-dalu costau teithio rhesymol.

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Meddygaeth yn rhoi grym i ni rannu gwybodaeth am ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer gan gynnwys cyflogwyr, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau sy’n goruchwylio ein gwaith.

Yn ystod ymchwiliad, gallwn ddatgelu manylion yr ymchwiliad i sefydliadau neu unigolion eraill pan fo raid i ni gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Mae rhagor o wybodaeth am wrandawiadau a sancsiynau a roddir gan dribiwnlys yn cael ei chyhoeddi ar wefan MPTS.  

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rybuddion ac ymgymeriadau a roddir gan arholwyr achos (Saesneg yn unig). Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, yn ein Polisi ar gyhoeddi a datgelu addasrwydd i ymarfer (Saesneg yn unig).

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio achosion at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Disclosure Scotland (DS) os bodlonir y meini prawf naill ai o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007. Mae hyn yn cynnwys datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys a, lle bo angen, gwybodaeth berthnasol arall i alluogi’r DBS neu DS i ystyried yr atgyfeiriad.  Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r DBS neu DS yn gofyn amdani o dan y ddeddfwriaeth hon.

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac Archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn rhannu gwybodaeth am sancsiynau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon.

Cyflogwr neu Swyddog Cyfrifol

Gwybodaeth Cofrestru ac Ailddilysu

Pam rydym yn dal yr wybodaeth

Mae’r gyfraith, gan gynnwys Deddf Meddygaeth 1983, yn mynnu bod yn rhaid i ni gadw cofrestr o ymarferwyr meddygol. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod meddygon ar y gofrestr yn meddu ar y cymwysterau priodol a’u bod yn diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Fel cyflogwr neu Swyddog Cyfrifol, rydym yn dal eich gwybodaeth gyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â chi am feddyg sy’n gysylltiedig â chi neu eich sefydliad. Gall hyn ymwneud â chofrestru, ailddilysu, talu ffioedd cadw blynyddol neu bryderon addasrwydd i ymarfer. Rydym hefyd yn cysylltu â chyflogwyr neu Swyddogion Cyfrifol gyda newyddion perthnasol, fel canllawiau neu safonau newydd.

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

Rydym yn dal manylion cyswllt gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhifau ffôn. 

Rydym yn prosesu argymhellion, ffurflenni blynyddol a chanlyniadau asesiadau ailddilysu mewn perthynas ag ailddilysu meddygon.

Rydym yn dal gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni sy’n ymwneud â meddyg sy’n gysylltiedig â chi neu eich sefydliad. 

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Rhaid i ni sicrhau bod rhywfaint o’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd ar y gofrestr feddygol. Mae hyn yn cynnwys eich enw a gyhoeddir ar gofnod cofrestr feddygol meddyg fel swyddog cyfrifol ar gyfer ei gorff dynodedig. Gall sefydliadau danysgrifio i lwytho’r gofrestr feddygol i lawr (Saesneg yn unig) a gweld rhestr lawn o’r meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil llwytho i lawr (Saesneg yn unig). Bydd y ffeil sy’n cael ei llwytho i lawr yn cynnwys eich enw chi fel swyddog cyfrifol a chorff dynodedig. 

Rydym yn rhannu gwybodaeth cofrestru nad yw’n gyhoeddus â thrydydd partïon perthnasol pan fydd angen eu helpu gyda’u swyddogaethau neu eu buddiannau cyfreithlon. Mae trydydd partïon yn cynnwys adrannau iechyd y DU, cyflogwyr, cyrff dynodedig, swyddogion cyfrifol, personau addas a chyrff eraill lle bo hynny’n briodol. 

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac Archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer

Pam rydym yn dal yr wybodaeth

Mae gennym gylch gwaith statudol sy’n rhoi grym i ni ymchwilio pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau yn sylweddol neu fwy nag unwaith. 

Os byddwch yn mynegi pryderon am feddyg gyda ni, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth a roddwch i ymchwilio i’r pryderon hynny. 

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

Rydym yn dal gwybodaeth am bryderon addasrwydd i ymarfer, ymchwiliadau i bryderon, cofnodion gwrandawiadau, a chofnodion canlyniad ein hymchwiliadau, gan gynnwys sancsiynau a rhybuddion.

Os yw meddyg sy’n gysylltiedig â chi wedi cael penderfyniad mewn tribiwnlys cyhoeddus, mae’n bosibl y bydd eich enw neu’ch sefydliad yn cael ei gofnodi mewn penderfyniad cyhoeddus.

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Meddygaeth yn rhoi grym i ni rannu gwybodaeth am ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer â chyflogwyr eraill, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau sy’n goruchwylio ein gwaith.

Yn ystod ymchwiliad, gallwn ddatgelu manylion yr ymchwiliad i sefydliadau neu unigolion eraill pan fo raid i ni gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Mae rhagor o wybodaeth am wrandawiadau a sancsiynau a roddir gan dribiwnlys yn cael ei chyhoeddi ar wefan MPTS.  

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rybuddion ac ymgymeriadau a roddir gan arholwyr achos (Saesneg yn unig). Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, yn ein Polisi ar gyhoeddi a datgelu addasrwydd i ymarfer.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio achosion at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Disclosure Scotland (DS) os bodlonir y meini prawf naill ai o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007. Mae hyn yn cynnwys datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys a, lle bo angen, gwybodaeth berthnasol arall i alluogi’r DBS neu DS i ystyried yr atgyfeiriad.  Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r DBS neu DS yn gofyn amdani o dan y ddeddfwriaeth hon. Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r DBS neu DS yn gofyn amdani o dan y ddeddfwriaeth hon.

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac Archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. 

Rydym yn rhannu gwybodaeth am sancsiynau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon.

Staff neu Gymdeithion y GMC

Recriwtio

Mae hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer staff a Chymdeithion presennol y GMC ar gael ar ein tudalen we fewnol.