Siarad â’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia am eich gofal

Gall siarad â'ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia fod yn frawychus. Ond mae’n bwysig eu bod nhw’n eich cefnogi chi pan fyddwch chi’n gwneud penderfyniadau am eich gofal. 

Mae ein canllawiau Gwneud penderfyniadau a chydsynio yn nodi sut y dylai meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia gael sgyrsiau â chleifion.

Wrth siarad â chi, dylai eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wneud y canlynol: 

  • siarad â chi mewn ffordd sy’n hawdd i chi ei deall
  • esbonio’n glir yr holl driniaethau sydd ar gael a beth fyddai pob un yn ei olygu
  • mynd drwy fanteision a risgiau pob triniaeth - dylai hyn gynnwys yr opsiwn i wneud dim
  • eich helpu i ddeall eich opsiynau a’u cofio
  • cael gwybod beth sy'n bwysig i chi a dweud wrthych sut y gallai gwahanol driniaethau effeithio ar eich bywyd
  • gofyn pa risgiau rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn eu hwynebu.

Rhaid i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wrando arnoch chi, rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau ac ymateb yn onest pan fyddwch chi’n gwneud hynny. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ysgrifennu rhai cwestiynau i lawr cyn i chi siarad â nhw, os ydych chi’n gallu gwneud hynny. 

Ni ddylent fyth eich rhuthro i wneud penderfyniad, a dylent eich annog i feddwl am yr opsiynau sydd ar gael i chi. Dylent hefyd roi amser i chi siarad am eich opsiynau gyda theulu, ffrindiau neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo. 

Eich helpu chi i siarad â’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia 

Mae Choosing Wisely UK yn fudiad sy’n ceisio gwella sgyrsiau rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion. Mae wedi creu dull defnyddiol i’ch helpu wrth siarad â’ch meddygon, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia am driniaethau. Gofynnwch bedwar cwestiwn: 

  • Beth yw’r manteision? 
  • Beth yw’r risgiau?
  • Beth yw’r dewisiadau eraill?
  • Beth os na fyddaf yn gwneud dim? 

Y dull pedwar cwestiwn ar wefan Choosing Wisely UK.

Hawdd ei ddeall

Siarad â’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia am eich gofal