Mynegi pryder ynghylch addysg a hyfforddiant meddygol
Gallai'r pryderon fod ynghylch unrhyw agwedd ar addysg a hyfforddiant meddygol, neu addysg cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, lle mae tystiolaeth nad yw ein safonau'n cael eu bodloni.
Cyn i chi fynegi pryder i ni
Yn gyntaf, ceisiwch ddatrys y broblem yn lleol drwy eich ysgol feddygol, darparwr eich cwrs cymdeithion meddygol neu gwrs cymdeithion anesthesia, neu'ch corff ôl-raddedig. Bydd proses gwyno ar waith gan bob un ohonynt i ddelio â materion sy’n codi.