Sut mae mynegi pryder i ni
Pan fyddwch wedi mynegi pryder ynghylch ein safonau i’ch ysgol feddygol, eich corff ôl-raddedig neu ddarparwr eich cwrs cymdeithion meddygol neu gwrs cymdeithion anesthesia, ac nad ydynt wedi mynd i'r afael â’ch pryderon, gallwn ni ymchwilio iddynt.
Bydd rhaid i chi:
- gadarnhau eich bod wedi mynegi’r pryder yn lleol, a darparu tystiolaeth o hyn lle bo modd – er enghraifft, copi o’r ohebiaeth
- darparu tystiolaeth yn amlinellu pam eich bod yn teimlo na ddeliwyd yn briodol â’ch pryder.
Gallwch anfon eich pryder atom yn education@gmc-uk.org. Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn pum diwrnod gwaith.