Ar ôl i chi fynegi pryder i ni

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn drwy wirio’r dystiolaeth sydd gennym. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau’r arolwg hyfforddi cenedlaethol, i weld a dynnwyd sylw eisoes at y materion rydych yn cwyno amdanynt.

Os ydym yn fodlon bod y materion yn cael eu monitro drwy’r systemau presennol a bod camau priodol yn cael eu cymryd, byddwn yn anfon yr wybodaeth berthnasol atoch.

Os bydd eich cwyn yn mynegi pryder newydd nad ydym yn ymwybodol ohono, byddwn yn cysylltu â’r ysgol feddygol berthnasol neu’r sefydliad hyfforddiant ôl-raddedig perthnasol. Byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r pryder ac yn cymryd camau priodol. Os ydym yn fodlon bod hyn yn cael ei wneud, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Os nad ydym yn fodlon â’r camau sy’n cael eu cymryd, byddwn yn monitro’r pryder drwy ein System Adrodd ar Ansawdd neu fonitro uwch. Yn y ddau achos, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi.