Ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia
- Ar gyfer cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia
- Ar gyfer myfyrwyr meddygol
- Mynegi pryderon am feddyg
Ni fyddwn yn ymyrryd i ddatrys pryderon y dylid eu codi'n lleol gyda darparwr eich cwrs cymdeithion meddygol neu gwrs cymdeithion anesthesia. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried materion os byddant yn effeithio ar ddiogelwch cleifion neu fyfyrwyr, neu os byddwn yn penderfynu bod y mater yn golygu nad yw ein safonau'n cael eu bodloni.
Ni allwn ymyrryd mewn unrhyw gwynion unigol na herio unrhyw benderfyniadau a wneir gan ddarparwr y cwrs cymdeithion meddygol neu’r cwrs cymdeithion anesthesia. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd mae darparwyr eich cwrs wedi ymateb i’ch cwyn, efallai yr hoffech ei huwchgyfeirio i'ch prifysgol, neu roi gwybod i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch.