Ar gyfer meddygon dan hyfforddiant
Ni fyddwn yn ymyrryd i ddatrys pryderon ynghylch cynnydd unigolion dan hyfforddiant na chanlyniadau asesiadau. Nid oes gennym y pŵer i herio unrhyw benderfyniadau mae sefydliad hyfforddi ôl-raddedig wedi eu gwneud. Trowch at eu systemau apelio a chwyno eu hunain.
Os oes pryderon hyfforddi difrifol ynghylch amgylchedd dysgu, y deon ôl-raddedig ar gyfer y rhanbarth neu’r wlad honno fydd yn delio â’r rhain. Yna gellir eu huwchgyfeirio at ein proses fonitro uwch.