Siarter i gleifion, perthnasau a gofalwyr

Gallwch ddarganfod mwy am godi pryder am feddyg ar ein tudalennau cymorth i gleifion.

Gallwn ymchwilio i bryderon difrifol am feddygon yn unig. Pan godir pryder am ymddygiad meddyg neu'r ffordd y mae'n gwneud ei waith, rydym yn asesu os oes angen i ni ymchwilio iddo. Fel arfer byddwn yn ymchwilio i achosion lle mae'r meddyg yn peryglu diogelwch cleifion, neu hyder y cyhoedd mewn meddygon.

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar yr hyn rydym yn ei wneud i gadw’r addewidion hyn a beth arall yr hoffem ei wneud.

Byddwn yn: 

Eich trin ag urddas a pharch

Byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn rhoi digon o amser i chi egluro eich sefyllfa. Rydym yn deall y gallech fod yn mynd drwy gyfnod anodd a gallwn drefnu cymorth cyfrinachol drwy ein Gwasanaeth Cymorth Annibynnol. Byddwn yn cymryd eich pryderon o ddifrif.

Eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o fynegi eich pryder

Rydym am eich helpu i fynegi eich pryder i'r sefydliad cywir. Weithiau ni yw hwnnw, ond mewn achosion eraill gall fod sefydliad gwahanol mewn sefyllfa well i’ch helpu. Os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ddelio ag ef, byddwn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i’r lle iawn. 

Eich diweddaru

Byddwn yn esbonio sut y byddwn yn ymchwilio i'ch pryder a sut y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd oedi ac yn darparu manylion cyswllt fel eich bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw am wybodaeth ychwanegol neu ddiweddariadau.

Cyfathrebu mewn ffordd sy’n gweithio i chi

Byddwn yn addasu ein dulliau cyfathrebu er mwyn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau. Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ddeall yr wybodaeth a roddwn i chi a'r penderfyniadau a wnawn. Gallwch siarad â ni dros y ffôn, ysgrifennu atom neu anfon e-bost. Mae ein Gwasanaeth Cyswllt Addasrwydd i Ymarfer yn cynnig cyfarfodydd rhithiol neu dros y ffôn os byddwn yn penderfynu agor ymchwiliad i'ch pryderon.

Trin eich gwybodaeth yn ofalus

Byddwn yn cadw cyfrinachedd cyn belled ag y bod modd. Os credwn fod angen i ni rannu eich gwybodaeth neu fanylion ag eraill y tu allan i’n sefydliad i’n helpu i ymdrin â’ch pryder, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn am eich barn.

Dysgu o’ch profiad gyda ni

Efallai na fyddwn bob amser yn gallu darparu'r canlyniad neu'r ateb sydd  ei eisiau arnoch, ond rydym am ddysgu o'ch profiad o godi pryder gyda ni. Os ydym wedi gwneud camgymeriad byddwn yn ymddiheuro. Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella ein gwasanaethau.