Perfformiad yn erbyn ein siarter cleifion
Mae ein siarter yn nodi chwe ymrwymiad y gall cleifion, perthnasau a gofalwyr eu disgwyl gennym pan fyddant yn mynegi pryder am feddyg. Mae’r dudalen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydym yn ei wneud i gadw’r addewidion hyn a beth arall yr hoffem ei wneud.
Pam cael siarter?
Fe wnaethom ni lansio’r siarter ym mis Tachwedd 2019 i:
- helpu cleifion i ddeall yr hyn y gallan nhw ei ddisgwyl gennym ni
- i’n helpu i ganfod sut gallwn ni wella ein gwasanaeth i gleifion.
Mae cleifion eisiau gallu mynegi pryderon yn rhwydd ac mae angen iddynt ymddiried y byddant yn cael eu cymryd o ddifri. Er na fyddwn bob amser yn gallu darparu’r canlyniad neu’r ateb y mae cleifion ei eisiau; rydym ni eisiau gwneud y profiad o fynegi pryder mor hawdd, teg ac empathig â phosibl.
Rydym wedi edrych ar ein prosesau a’n data i weld sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau ac i ganfod unrhyw fylchau. Rydym yn awyddus i ddysgu mwy sut beth yw’r profiad o fynegi pryder gyda ni, a sut gallwn ni wella’r profiad hwnnw.
Beth rydym wedi’i ganfod hyd yma?
Beth sy’n digwydd nesaf?
Drwy werthuso’r siarter rydym wedi gallu dysgu sut gallwn wella profiadau cleifion pan fyddant yn mynegi pryder wrthym ynglŷn â meddyg. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau’n barod, fel y gwaith a wnaethpwyd i'w gwneud hi’n haws mynegi pryder ar-lein.
Mae ein strategaeth gorfforaethol yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod pawb sy’n rhyngweithio â ni – drwy ein prosesau neu ein dulliau cyfathrebu – yn cael empathi ac effeithlonrwydd. Mae’r ymrwymiad hwn, o’r enw ‘mae pob rhyngweithiad yn bwysig’, yn gyfle i ni barhau i wella’r profiad a gaiff cleifion o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Rydym yn dymuno edrych ar ffyrdd newydd o fesur bodlonrwydd cleifion â’n gwasanaethau a defnyddio’r adborth i wneud gwelliannau. Byddwn yn parhau i ymgorffori’r addewidion a wnaed yn y siarter yn ein dogfennau a’n gohebiaeth â chleifion.