Ein ffocws
Rhwng 2026 a 2030, bydd pedair thema yn siapio ein holl waith, gan ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol, a thosturiol.
Dyma'r ail o ddwy strategaeth i gyflawni ein gweledigaeth deng mlynedd.
Rhwng 2026 a 2030, bydd pedair thema yn siapio ein holl waith, gan ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol, a thosturiol.
Byddwn yn gweithio gydag eraill i greu amgylcheddau gofal iechyd sy'n gynhwysol, cefnogol a theg.
Byddwn yn moderneiddio ein prosesau i'w gwneud yn gyflymach, yn decach ac mewn sefyllfa well i gefnogi arferion da.
Byddwn yn buddsoddi yn ein pobl a'n diwylliant, ac yn defnyddio adnoddau’n gyfrifol, er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Byddwn yn gwneud ein gwasanaethau'n hygyrch ac yn trin pawb â charedigrwydd, parch, ac effeithlonrwydd.
Mae ein gweledigaeth yn canolbwyntio ar y bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu rhan. Byddwn yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol a thosturiol ar gyfer cleifion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol, ac fel cyflogwr.
Byddwn yn meithrin diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, fel rheoleiddiwr ac fel cyflogwr.
Byddwn yn gweithio i gyflawni nodau ehangach y system iechyd drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill. Bydd tystiolaeth yn llywio ein penderfyniadau.
Byddwn yn rheoleiddiwr amlbroffesiwn sy'n canolbwyntio ar gefnogi gweithwyr proffesiynol yn y mannau lle maent yn gweithio. Mae hyn yn gofyn am weithredu unedig gan bob un ohonom – rheoleiddwyr, cyflogwyr ac addysgwyr.
Mae ein gwerthoedd yn ein helpu i wireddu ein strategaeth. Byddwn yn meithrin diwylliant o gydweithio, tosturi a gonestrwydd. A bydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o’n gwaith fel rheoleiddiwr, ac fel cyflogwr. Darllenwch ein hasesiad effaith cydraddoldeb i weld sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi siapio ein strategaeth 2026–30.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fersiwn darllen hawdd o'n strategaeth gorfforaethol yn ein cyhoeddiadau Darllen Hawdd.