Eich cefnogi gyda’ch pryder
Fel un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU, rydym eisiau eich helpu i ddod o hyd i’r lle iawn i fynegi eich pryder.
Rydym yn ymchwilio i bryderon am feddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), sy’n gweithio yn y DU, yn y GIG neu yn y sector annibynnol neu breifat.
Yma fe gewch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fwrw ymlaen â’ch pryder.
Rydym yn ymchwilio i bryderon pan fyddwn yn credu bod meddyg yn peri risg ddifrifol i gleifion neu wedi methu â chyrraedd ein safonau. Edrychwch i weld a yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.
Rydym yn un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU. Rhagor o wybodaeth am bwy all eich helpu os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.
Mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni i fynegi pryder. Byddem yn eich annog i ddewis y ffordd rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.
Mynegi pryder
Mynegwch eich pryder i ni a chael rhagor o wybodaeth am y broses gan ddefnyddio ein hadnodd ar-lein.
Os byddwch yn mynegi pryder
Rydym yn deall y gall fod yn anodd mynegi pryder, ond dylech deimlo’n hyderus yn y ffordd rydym yn trin pob pryder sy’n cael eu mynegi i ni. Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.
Ar ôl i ni gasglu darnau allweddol o wybodaeth gennych, byddwn yn adolygu eich pryder yn ofalus i weld a yw hwn yn fater y mae angen i ni ymchwilio iddo.
Os byddwn yn canfod bod y meddyg wedi methu â chyrraedd ein safonau, mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd.
Llwythwch ein canllawiau i lawr
Eich cynorthwyo gyda’ch pryder
Hawdd eu deall Anhapus gyda meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia?
Gallwch anfon e-bost atom i ofyn am fformat neu iaith arall os nad yw’r un sydd ei angen arnoch wedi’i restru.