Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni i fynegi pryder
Pan fyddwch yn mynegi pryder, byddwn yn ei adolygu’n ofalus i weld a yw’n fater sydd angen bod yn destun ymchwiliad.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall mynegi pryder fod yn straen, felly byddwn yn ymchwilio iddo a chysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. Po fwyaf o wybodaeth berthnasol y byddwch yn ei darparu, y cyflymaf y byddwn yn gallu ystyried eich pryder.
Ar ôl i ni orffen ystyried eich pryder, byddwn yn eich gwahodd i gyfarfod er mwyn cael sgwrs gyda chi am y canlyniad.
Dweud wrth y meddyg, y cydymaith meddygol (PA) neu’r cydymaith anaesthesia (AA) a’u cyflogwr
Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond os byddwn yn bwrw ymlaen ag ymchwiliad llawn y byddwn yn rhoi gwybod i’r meddyg, y cydymaith meddygol neu'r cydymaith anaesthesia a’i gyflogwr am eich cwyn. Rydym yn rhoi gwybod i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ein bod yn ymchwilio iddynt. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr bod gennym gymaint o wybodaeth â phosibl i gynnal ymchwiliad. Efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom gan gyflogwr y meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia, gan gynnwys a oes pryderon tebyg wedi cael eu mynegi o’r blaen.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses, er mwyn i chi wybod beth sy’n cael ei rannu a gyda phwy.
Pa gymorth sydd ar gael i chi
Rydym yn gwybod o siarad â phobl sydd wedi cwyno wrthym ein bod chi'n gallu cael profiad pryderus. Os oes angen cymorth arnoch, mae sefydliadau y gallant eich helpu chi.
Er enghraifft, mae'r Gwasanaeth Cymorth Annibynnol yn llinell gymorth gyfrinachol am ddim i gleifion, tystion ac aelodau o'r teulu ar unrhyw adeg yn ystod ein ymchwiliad.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i’n tudalennau cymorth lleol.
Os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio i’ch pryder
Os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio i’ch pryder, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro ein rhesymau. Mae’n bosibl y byddwn yn dangos copi o’ch pryder i’r meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia er mwyn iddo allu ei ddefnyddio i gael dysgu. Dim ond os ydych chi’n gyfforddus yn rhannu’r wybodaeth y byddwn ni’n gwneud hyn.
Os ydych eisoes wedi mynegi pryder am addasrwydd meddyg i ymarfer ond nad ydych yn meddwl ein bod wedi dod i'r penderfyniad iawn, neu fod gennych wybodaeth newydd i'w darparu, gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad o dan ein proses adolygu fewnol (‘Rheol 12’). Sut mae gwneud cais o dan Reol 12. Os yw'r penderfyniad yn ymwneud â chydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia, gallwch gysylltu â feedback@gmc-uk.org.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn ymchwilio i’ch pryder
Wrth i ni ymchwilio i’ch pryder, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith rydym yn ei wneud. Dysgwch beth fydd yn digwydd drwy gydol y broses.
Cymorth pellach
Mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni i fynegi pryder. Byddem yn eich annog i ddewis y ffordd rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd mynegi pryder, ond dylech deimlo’n hyderus yn y ffordd rydym yn trin pob pryder sy’n cael eu mynegi i ni. Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.
Rydym yn un o nifer o sefydliadau sy’n gyfrifol am gadw cleifion yn ddiogel yn y DU. Rhagor o wybodaeth am bwy all eich helpu os nad yw eich pryder yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo.