Herio penderfyniad a wnaed ynghylch addasrwydd meddyg i ymarfer

Os ydych eisoes wedi mynegi pryder am addasrwydd meddyg i ymarfer ond rydych yn meddwl bod camgymeriad sylweddol yn y penderfyniad a wnaed gennym, neu fod gennych wybodaeth newydd i'w darparu, gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad o dan ein proses adolygu fewnol (‘rheol 12’). 

Gallwn adolygu’r penderfyniadau canlynol o dan reol 12 yn ein Rheolau Addasrwydd i Ymarfer.

  • Pan fyddwn wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i'r pryderon a godwyd gennych
  • Pan nad ydym wedi cymryd unrhyw gamau ar ddiwedd ymchwiliad
  • Pan fyddwn wedi cau ymchwiliad drwy roi cyngor, cytuno ar ymgymeriadau neu roi rhybudd i'r meddyg

Sylwch, nid proses apelio yw rheol 12. Nid cyfle i ofyn i rywun arall ailystyried penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef, ac mae angen i ni ddefnyddio profion llym. 

Dim ond os oes camgymeriad sylweddol gyda'r penderfyniad (‘gwall sylweddol’), neu os oes gwybodaeth newydd, y gallwn adolygu penderfyniad o dan y broses hon. Dylai'r penderfyniad fod wedi cael ei wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond gallwn adolygu rhai penderfyniadau hŷn mewn amgylchiadau eithriadol. 

Beth fydd y canllaw hwn yn eich helpu i’w ateb: 
Pryd a sut i ofyn i ni adolygu penderfyniad o dan Reol 12.
Pam y bydd angen i chi ddarllen y ddogfen hon: 
I gael rhagor o wybodaeth am ein proses adolygu fewnol, a elwir hefyd yn ‘Rheol 12’.