Gwybodaeth am ‘Reol 12’
- Crynodeb
- Gwybodaeth am ‘Reol 12’
- Ystadegau a ffigurau
Beth yw ‘Rheol 12’?
Os ydych eisoes wedi mynegi pryder am addasrwydd meddyg i ymarfer ond rydych yn meddwl ein bod wedi gwneud camgymeriad sylweddol yn y penderfyniad, neu fod gennych wybodaeth newydd i'w darparu, gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad o dan ein proses adolygu fewnol (‘rheol 12’).
Nid ffordd o apelio yn erbyn penderfyniad os ydych yn anghytuno ag ef yw rheol 12.
Beth allwn ni eu hadolygu?
Gallwn ni adolygu’r penderfyniadau canlynol o dan reol 12 yn ein Rheolau Addasrwydd i Ymarfer.
- Pan fyddwn wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i'r pryderon a godwyd gennych.
- Pan na fyddwn wedi cymryd unrhyw gamau ar ddiwedd ymchwiliad.
- Pan fyddwn wedi cau ymchwiliad drwy roi cyngor, cytuno ar ymgymeriadau neu roi rhybudd i'r meddyg.
Dysgwch am y camau y gallwn eu cymryd ar ôl i feddyg gofrestru.
Sylwch na allwn adolygu penderfyniadau yn ymwneud ag unigolion nad ydynt yn feddygon (er enghraifft, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anaesthesia (AA), neu feddygon nad ydynt ar ein cofrestr mwyach). Os yw'r penderfyniad yn ymwneud â PA neu AA, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymchwilio neu gallwch gysylltu â feedback@gmc-uk.org.
Pryd fyddwn yn adolygu penderfyniad?
Dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y gallwn adolygu penderfyniad o dan reol 12:
- ei bod yn bosibl bod y penderfyniad yn sylweddol wallus,
- mae yna wybodaeth newydd a allai fod wedi arwain at benderfyniad gwahanol,
- cafodd y penderfyniad ei wneud lai na dwy flynedd yn ôl (oni bai fod yr amgylchiadau’n eithriadol).
Hyd yn oed pan fydd un o’r rhain yn berthnasol, dim ond os oes angen adolygiad er budd y cyhoedd y gallwn fwrw ymlaen. Ni allwn adolygu penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef.
Gwall Sylweddol
Camgymeriad yn y penderfyniad gwreiddiol yw ‘gwall’. Gwall sylweddol yw camgymeriad a allai – petai wedi cael ei gywiro – fod wedi arwain at benderfyniad gwahanol.
Enghreifftiau o’r hyn a allai fod yn wall sylweddol:
- anwybyddwyd tystiolaeth bwysig
- roedd y penderfyniad yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r ffeithiau
- roedd y sawl a wnaeth y penderfyniad wedi cymhwyso’r gyfraith yn anghywir.
Enghreifftiau na fyddai’n ddigon fel arfer:
- rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad
- rydych chi’n anhapus gyda'r canlyniad
- rydych chi’n meddwl y dylai’r meddyg gael ei ddal yn atebol
Gwybodaeth newydd
Mae gwybodaeth newydd yn golygu gwybodaeth nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cofnodion meddygol nad oeddent ar gael yn gynharach, neu dystiolaeth a ddaeth i’r amlwg yn ystod cwest neu ymchwiliad troseddol.
Er mwyn i ni ei ystyried, ni all gwybodaeth newydd:
- fod yn wybodaeth a oedd gennym yn flaenorol, ond sydd wedi’i mynegi mewn ffordd wahanol.
- fod yn ddadleuon neu esboniadau pellach o’ch pryderon
- fod yn wybodaeth a ailadroddir ac rydym wedi’i hystyried eisoes
- fod yn dadansoddiad gan ddeallusrwydd artiffisial o’r dystiolaeth
Amserlen Dwy Flynedd
Mae ein rheolau’n datgan bod yn rhaid i ni benderfynu a ddylem adolygu penderfyniad gwreiddiol o fewn dwy flynedd ar ôl iddo gael ei wneud, oni bai fod amgylchiadau eithriadol.
Nid yw’n ddigon cyflwyno cais cyn y terfyn amser o ddwy flynedd. Rhaid i ninnau hefyd gael digon o amser i ystyried y cais a gwneud penderfyniad yr adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw. Felly, rydym yn argymell eich bod yn anfon unrhyw gais atom cyn gynted â phosibl. Mae’r trothwy ar gyfer ystyried adolygiad y tu allan i’r cyfnod o ddwy flynedd yn uchel, felly mae’n arbennig o bwysig bod ceisiadau’n cael eu cyflwyno’n brydlon.
Pwy all ofyn am adolygiad?
Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y penderfyniad ofyn am adolygiad, fel claf, y sawl a wnaeth y gŵyn, neu gyflogwr y meddyg.
Sylwch, dim ond ar gyfer pryderon y mae'r GMC eisoes yn ymwybodol ohonynt y mae’r adolygiad hwn. Os ydych yn dymuno mynegi pryder newydd am feddyg cofrestredig, gallwch roi gwybod am bryder newydd.
Gallwch ddarllen mwy am ein proses yn ein dogfen Cwestiynau Cyffredin am Reol 12.