‘Mae ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â’n gilydd.’
Swyddi
Dyma eich cyfle i ysbrydoli a chael eich ysbrydoli. Lle gallwch greu cysylltiadau a bod yn rhan o rywbeth mwy.
Rydyn ni’n gweithio gyda meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), y rhai sydd dan eu gofal a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y Deyrnas Unedig.
Gall y gwerth mae pob un ohonom yn ei gyfrannu wneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl.
Gweld y swyddi diweddaraf
Mae gennym ni straeon i’w dweud
‘Rydyn ni’n sefydliad sy’n ymrwymo i wrando, dysgu ac ymdrechu. Rydyn ni’n trin pobl yn deg ac yn dosturiol.’
‘Rydw i wrth fy modd bod y GMC yn amgylchedd croesawgar gyda phobl sy'n meddwl yn gadarnhaol ac sydd i gyd yn groesawgar.’
‘Yr hyn sy’n fy nghymell yw fy nhîm a sut mae ein gwaith yn cyfrannu at ddylanwadu ar wasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i feddyg.’
Rydyn ni’n gwneud pethau diddorol
O brofi sgiliau meddygon cyn iddynt ymuno â’r gofrestr, i oruchwylio ansawdd addysg, gosod safonau, ymchwilio i bryderon, cynnal gwrandawiadau tribiwnlys, dehongli’r data sydd gennym, neu ddatblygu systemau newydd, mae’n debygol iawn y gwnewch chi ddod o hyd i rywbeth diddorol i’w wneud os dewch chi i weithio yma.
Rydyn ni’n parchu ein gilydd
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiantRydyn ni’n cael ein gwerthfawrogi
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, 15% o gyfraniad y cyflogwr at ein cynllun pensiwn, benthyciadau teithio tocyn tymor, cymorth iechyd a llesiant a mwy – sy’n cyfateb i waith caled ac ymrwymiad ein staff i gyrraedd ein nodau a’u potensial.
Dewch o hyd i ble rydych chi’n perthyn.
Byddwch yn rhan o rywle lle gallwch chi ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli eich hunan. Lle gallwch gysylltu a bod yn rhan o rywbeth mwy.