- Uniondeb – rydyn ni’n onest ac yn rhannu’r hyn rydyn ni’n ei weld. Rydyn ni’n gwrando ar ein partneriaid, ond yn parhau i fod yn annibynnol.
- Rhagoriaeth – rydyn ni’n sefydliad sy’n dysgu, ac wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel.
- Cydweithio – rydyn ni’n gweithio gydag eraill i ategu gofal diogel o ansawdd uchel.
- Tegwch – rydyn ni’n parchu pobl ac yn eu trin heb ragfarn.
- Tryloywder – rydyn ni’n agored ac yn atebol am ein gweithredoedd.
Ein diwylliant
Mae ein stori ni’n mynd yr holl ffordd yn ôl i 1858, ac rydyn ni wedi dysgu llawer ar hyd y daith hon.
Mae ein gweledigaeth wedi ei gwreiddio yn y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer, ac mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n ymdrechu i fod yn effeithiol, yn berthnasol ac yn dosturiol – i gleifion ac i’r cyhoedd, fel rheoleiddiwr, ac fel cyflogwr.
Gweld y swyddi diweddaraf
Ein gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn.
Ein hymddygiad
Mae ein hymddygiadau UnGMC yn nodi sut rydyn ni’n disgwyl i bawb yn y GMC a’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MTPS) weithio gyda’i gilydd.
Maent yn seiliedig ar bedair thema:
- Bod yn gynhwysol.
- Dysgu’n barhaus.
- Fynnu gyda’n gilydd.
- Arwain y ffordd.
Arweinyddiaeth
Mae sgiliau arwain yn sail i lwyddiant ein strategaeth ac yn darparu sylfeini cryf ar gyfer ein dyfodol.
Rydyn ni’n gwybod mai dim ond os byddwn ni’n arbrofi gyda ffyrdd newydd o feddwl, ymddwyn a chyfathrebu y bydd twf a newid yn parhau ac yn cael eu cynnal. Mae ein harweinwyr yn annog hyn gan bobl eraill, ond rydyn ni’n credu ein bod ni i gyd yn arweinwyr ac yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Enghreifftiau o ymddygiadau arwain rydyn ni’n buddsoddi ynddynt:
- Cau’r bwlch rhwng gwybod a gwneud.
- Dilysrwydd ac ymgysylltu.
- Cydbwyso nodau ac ymwybyddiaeth tîm.
- Strategaethau gwneud penderfyniadau.
- Trin newid, o fewn y GMC a’r byd ehangach.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
- Ein nod yw trin unrhyw un rydyn ni’n rhyngweithio â nhw’n deg, heb ragfarn na gwahaniaethu
- Rydyn ni’n defnyddio ein safonau i gefnogi tegwch wrth addysgu a hyfforddi meddygon ac mewn triniaeth a gofal i gleifion
- Ein nod yw gwneud yn siŵr bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu trin yn deg ac yn gynhwysol yn eu haddysg a’u hyfforddiant.
Fel rheoleiddiwr, mae hyn yn golygu chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gynorthwyo systemau gofal iechyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Fel cyflogwr, mae’n golygu creu a datblygu amgylchedd gwaith teg a chynhwysol, lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae ganddynt lais, a lle gallant fod y gorau y gallant fod – o’r broses recriwtio a dethol ymlaen, i gynefino, hyfforddi, dysgu a datblygu gyrfa.
Fel rhan o hyn, rydyn ni’n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sydd wedi ymrwymo i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o newid a gwella agweddau, diwylliannau ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Rhagor o wybodaeth am ein proses ymgeisio.
Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Rydyn ni’n buddsoddi yn ein pobl ac yn creu amgylchedd cynhwysol, er mwyn i ni allu cyflawni ein huchelgeisiau. Rydyn ni’n gweithio gydag eraill i wneud penderfyniadau cymdeithasol gyfrifol, gan gefnogi amgylchedd cynaliadwy a chymunedau iach
Rydyn ni’n gweithio’n galed i fod yn deg ac yn gynhwysol ym mhob agwedd ar ein gwaith ac rydyn ni’n ceisio gwreiddio cynaliadwyedd, effaith gymdeithasol a moeseg ym mhopeth a wnawn.
Mae ein hymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn cynnwys:
- bod yn eco-gyfeillgar – sut rydyn ni’n dod yn sefydliad sero net ac yn dysgu gan eraill sut i osgoi’r peryglon
- cefnogi ein cymunedau drwy gynlluniau gwirfoddoli y gall pawb gymryd rhan ynddynt, lle bynnag y bônt
- arferion caffael moesegol ac adolygiadau rheolaidd o'n dewisiadau buddsoddi moesegol yn ein cynlluniau pensiwn
- hyfforddiant a mentora a chynnig prentisiaethau i bobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Rhagor o wybodaeth am ein hymagwedd at gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Iechyd a llesiant
Rydyn ni’n gwybod nad oes ‘un ateb sy’n addas i bawb’ o ran iechyd a llesiant yn y gwaith. Dyna pam rydyn ni’n grymuso ein pobl i reoli eu hiechyd a’u llesiant personol yn dibynnu ar eu hanghenion, mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Rhagor o wybodaeth am y buddion rydyn ni’n eu cynnig.
Diogelu
Mae diogelu yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae gennym drefniadau cadarn i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl. Rydyn ni’n dweud bod ‘diogelu yn fusnes i bawb’: mae’n gyfrifoldeb ar y cyd i bawb sy’n gweithio yn y GMC neu ar ran y corff, gan gynnwys cydweithwyr, contractwyr ac aelodau’r cyngor.
Gallwch ddarllen ein datganiad polisi diogelu.
Dewch o hyd i ble rydych chi’n perthyn.
Byddwch yn rhan o rywle lle gallwch chi ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli eich hunan. Lle gallwch gysylltu a bod yn rhan o rywbeth mwy.
Ein diwylliant Ein timau Ein pobl Ein cynnig Lleoliadau