Mae rolau gyrfaoedd cynnar gyda ni yn cynnig cyfle gwych i greu dechrau ystyrlon a gwerth chweil i daith broffesiynol gyda ni.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud: Drwy raglenni wedi eu teilwra, byddwch yn datblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol – ac ar y ffordd i fod yn rhan o’n dyfodol.
Mae prentisiaethau yn adeiladu’r sgiliau ar gyfer rôl gyntaf gyda ni neu ar gyfer newid gyrfa. Mae prentisiaid sy’n cymhwyso gyda ni fel arfer yn sicrhau swydd gynnar barhaol yn eu maes arbenigedd ac yn mynd ymlaen i ddatblygu eu taith broffesiynol gyda ni.
Mae interniaid yn datblygu amrywiaeth sylweddol o sgiliau cyflogadwyedd. Os ydych chi yn eich dwy flynedd olaf yn y brifysgol mewn unrhyw bwnc gradd (neu gyfwerth) ac yn awyddus i ddeall sut beth yw gweithio i reoleiddiwr gofal iechyd, mae’n bosibl mai dyma'r dewis iawn i chi.
Bydd angen i chi fod â brwdfrydedd a diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth, bod yn drefnus a gallu gweithio mewn tîm, a bod yn gyfforddus wrth feithrin perthynas ag amrywiaeth eang o bobl.
Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n darparu:
- mentora
- mynediad at ddysgu ar-lein a hyfforddiant wyneb yn wyneb
- cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch rheolwr i drafod eich cynnydd a’ch anghenion datblygu
- adborth a chydnabyddiaeth o’ch cyfraniadau
- cymorth gan gymheiriaid a llawer mwy.