Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi wyth egwyddor cyfrinachedd y dylech eu defnyddio wrth ymarfer. Maent yn darparu fframwaith i’ch helpu i benderfynu pryd y gallwch rannu gwybodaeth. Ac yn eich helpu i feddwl pam eich bod yn rhannu’r wybodaeth.

Mae’r canllawiau’n cynnwys adran ar reoli a diogelu gwybodaeth. Yno, cewch gyngor defnyddiol ar gyfrifoldebau personol meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia o ran diogelu gwybodaeth cleifion.  Mae hefyd yn rhoi cyngor ar bryd y gallwch rannu gwybodaeth ar ôl i glaf farw.

Daeth y canllawiau hyn i rym ar 25 Ebrill 2017.

Cawsant eu diweddaru ar 25 Mai 2018 i adlewyrchu gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 ac ar 13 Rhagfyr 2024 pan ddechreuodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.

Mae gennym hefyd chwe set o ganllawiau byrrach sy’n esbonio sut i gymhwyso egwyddorion Cyfrinachedd i sefyllfaoedd y gwyddom sy’n gallu bod yn anodd yn ymarferol, sef: