Dyletswyddau cyfrinachedd moesegol a chyfreithiol
Mae ymddiriedaeth yn rhan hanfodol o’r berthynas rhwng meddyg a chlafcleifion a gweithwyr meddygol proffesiynol ac mae cyfrinachedd yn ganolog i hyn. Efallai y bydd cleifion yn osgoi ceisio help meddygol neu efallai na fyddant yn rhoi disgrifiad llawn o’u symptomau os byddant yn credu y bydd meddygon yn datgelu caiff eu gwybodaeth bersonol ei datgelu2 heb eu cydsyniad, neu os na fyddant yn cael y cyfle i gael rhywfaint o reolaeth dros yr amseru neu swm y wybodaeth a rennir.
Yn yr arweiniad hwn, mae ‘gwybodaeth bersonol’ yn golygu gwybodaeth y mae modd adnabod unigolion ohoni ar ei phen ei hun neu thrwy ei chyfuno â gwybodaeth arall sydd ar gael. Mae ‘datgelu’ yn golygu darparu neu drosglwyddo gwybodaeth ynghylch claf i unrhyw un ac eithrio’r claf beth bynnag fo’r diben. Mae rhannu gwybodaeth o fewn timau gofal iechyd yn fath o ddatgelu, yn yr un modd â chynnig mynediad i gofnodion cleifion.
Mae dyletswyddau moesegol a chyfreithiol ar weithwyr meddygol proffesiynol i ddiogelu gwybodaeth cleifion rhag cael ei datgelu mewn ffordd amhriodol. Ond mae rhannu gwybodaeth briodol yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Gall cleifion fod mewn perygl os na fydd modd i’r rhai sy’n darparu eu gofal droi at wybodaeth berthnasol a manwl, a’r wybodaeth ddiweddaraf, amdanynt.
Yn ogystal, ceir defnydd pwysig o wybodaeth cleifion at ddibenion ac eithrio dibenion gofal uniongyrchol. Mae rhai o’r rhain yn gysylltiedig â gofal cleifion mewn ffordd anuniongyrchol gan eu bod yn galluogi gwasanaethau iechyd i weithredu mewn ffordd effeithlon a diogel. Er enghraifft, defnyddir symiau mawr o wybodaeth cleifion at ddibenion megis gwaith ymchwil meddygol, cynllunio gwasanaethau ac archwilio ariannol. Nid yw mathau eraill o ddefnydd yn gysylltiedig â darparu gofal iechyd yn uniongyrchol, ond maent yn cynnig budd ehangach i’r cyhoedd, megis datgeliadau am resymau sy’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd.
Mae gofal iechyd yn parhau i esblygu a newid. Mae’n debygol y bydd yn fwy heriol sicrhau bod sail gyfreithiol a moesegol dros ddefnyddio gwybodaeth cleifion mewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth nag yng nghyd-destun perthynas broffesiynol gyda chlaf unigol.
Yn y canllawiau hyn, ein nod yw cynorthwyo gweithwyr meddygol proffesiynol i gyflawni eu cyfrifoldebau wrth weithio o fewn y systemau cymhleth hyn.
Gweithredu yn unol â’r gyfraith
Rhaid i weithwyr meddygol proffesiynol, fel pawb arall, gydymffurfio â’r gyfraith pan fyddant yn defnyddio, yn troi at neu’n datgelu gwybodaeth bersonol. Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol yn gymhleth, fodd bynnag, ac mae’n amrywio ar draws pedair gwlad y DU.
Yn atodiad cyfreithiol yr arweiniad hwn, rydym yn rhoi crynodeb o rai o elfennau allweddol y gyfraith berthnasol, gan gynnwys gofynion y gyfraith gyffredin, cyfraith diogelu data a chyfraith hawliau dynol. Ym mhrif gorff yr arweiniad, rydym yn rhoi cyngor ynghylch sut i weithredu egwyddorion moesegol a chyfreithiol mewn sefyllfaoedd go iawn, ond ni fyddwn yn cyfeirio at ddarnau penodol o’r gyfraith oni bai bod angen gwneud hynny.
Os nad ydych yn siŵr sut y mae’r gyfraith yn berthnasol mewn sefyllfa benodol, dylech ymgynghori â gwarcheidwad data neu Caldicott, swyddog diogelu data, eich corff amddiffyn neu gymdeithas broffesiynol, neu geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.