Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion

Datgeliadau er mwyn diogelu cleifion ac eraill

Datgelu gwybodaeth er mwyn diogelu cleifion

50

Mae gan bob claf yr hawl i gael gwasanaeth meddygol cyfrinachol. Mae sefyllfaoedd heriol yn gallu codi, fodd bynnag, pan fydd yn rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau cyfrinachedd a dyletswyddau i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a lles cleifion nad ydynt yn gallu diogelu eu hunain efallai.

Datgelu gwybodaeth am blant y gallent fod mewn perygl oddioddef niwed

51

Am arweiniad penodol am gyfrinachedd yng nghyd-destun amddiffyn plant, gweler ein canllawiau Diogelu plant a phobl ifanc.16 Am gyngor cyffredinol ynghylch cyfrinachedd wrth ddefnyddio, troi at neu ddatgelu gwybodaeth am blant a phobl ifanc, gweler ein canllawiau 0-18 oed.17 

16

Diogelu plant a phobl ifanc (Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2012). Mae modd i chi weld holl arweiniad CMC am safonau proffesiynol a moeseg ar ein gwefan.

17

0–18 oed (Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2007). Mae modd i chi weld holl ganllawiau’r GMC am safonau proffesiynol a moeseg ar ein gwefan.

Datgelu gwybodaeth am oedolion y gallent fod mewn perygl oddioddef niwed

52

Fel rheol, dylech wneud penderfyniadau am y ffordd orau o gynorthwyo a diogelu cleifion sy’n oedolion mewn partneriaeth â nhw, a dylid canolbwyntio ar rymuso cleifion i wneud penderfyniadau er eu budd eu hunain. Rhaid i chi gynorthwyo ac annog cleifion i gymryd rhan, i’r graddau ag y maent yn dymuno ac yn gallu gwneud hynny, mewn penderfyniadau a wneir ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.

Gofynion cyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth am oedolion mewnperygl

53

Ceir gofynion cyfreithiol amrywiol i ddatgelu gwybodaeth am oedolion y mae’n hysbys eu bod neu y bernir eu bod mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod, neu y maent wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.18 Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw’n ofynnol yn unol â’r gyfraith.

Dylech:

  1. deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith
  2. datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais yn unig, a dim ond yn y ffordd sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith
  3. dweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, oni bai y byddai gwneud hynny’n tanseilio diben y datgeliad.
18

Rhoddir crynodeb o ofynion y Deddfau perthnasol – Adult Support and Protection (Scotland) Act 2007, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Gofal 2014 – yn y Cyfrinachedd: taflen ffeithiau am ddeddfwriaeth allweddol.

54

Mae modd i chi weld cyngor am ddatgeliadau a ganiateir ond nad ydynt yn ofynnol yn unol â’r gyfraith ym paragraphs 17 - 19.

17

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol gan statud neu os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys barn yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny (gweler paragraphs 87 - 94).

18

Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith a dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei datgelu. Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech ddweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath, oni bai y byddai hynny’n tanseilio’r diben, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.

19

Weithiau, mae cyfreithiau a rheoliadau’n caniatáu datgelu gwybodaeth bersonol, ond nid ydynt yn mynnu bod hynny yn digwydd.8 Os caniateir datgeliad ond nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd y bodlonir y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth (gweler paragraph 10).

Datgelu gwybodaeth er mwyn diogelu oedolion heb alluedd

55

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol am oedolyn y gallent fod mewn perygl o ddioddef niwed difrifol os yw hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith (gweler paragraff 53). Hyd yn oed os nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wneud hynny, rhaid i chi roi gwybodaeth yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod cyfrifol priodol os ydych o’r farn bod claf heb alluedd i roi eu caniatâd yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef esgeulustod neu gamdriniaeth gorfforol, rhywiol neu emosiynol, neu unrhyw fath arall o niwed difrifol, oni bai na fyddai gwneud hynny o fudd cyffredinol i’r claf.

56

Os ydych o’r farn nad yw datgelu gwybodaeth bersonol claf o fudd cyffredinol iddynt (ac nid yw hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith), dylech drafod y materion gyda chydweithiwr profiadol. Os byddwch yn penderfynu peidio datgelu gwybodaeth, rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau yng nghofnodion y claf a’r rhesymau dros benderfynu peidio datgelu. Rhaid bod modd i chi gyfiawnhau’ch penderfyniad.

Hawliau oedolion sy’n meddu ar alluedd i wneud eupenderfyniadau eu hunain

57

Fel egwyddor, mae gan oedolion sy’n meddu ar alluedd yr hawl i wneud penderfyniadau er eu budd eu hunain, hyd yn oed os bydd eraill o’r farn bod y penderfyniadau hynny’n rhai afresymol neu annoeth. Fel arfer, dylech ofyn am ganiatâd cyn datgelu gwybodaeth bersonol am glaf os nad yw’r datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith, ac mae’n ymarferol gwneud hynny. Ym paragraph 14, mae modd i chi weld enghreifftiau o adegau pan na fydd hi’n ymarferol gofyn am ganiatâd efallai.

14

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  1. bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
  2. rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7 
  3. nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
  4. mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
  5. byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
  6. rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
  7. nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
  8. rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
58

Os bydd claf sy’n oedolyn ac sy’n meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad yn gwrthod rhoi eu caniatâd i’r cam o ddatgelu gwybodaeth sy’n angenrheidiol yn eich barn chi er mwyn eu diogelu, dylech ystyried eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwn. Efallai y bydd hi’n briodol annog y claf i roi eu caniatâd i’r datgeliad a’u rhybuddio o beryglon gwrthod rhoi eu caniatâd.

59

Dylech, fodd bynnag, gydymffurfio â phenderfyniad y claf i wrthod rhoi eu caniatâd i’r datgeliad fel arfer, hyd yn oed os bydd eu penderfyniad yn golygu eu bod nhw (ond neb arall) mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth.19, 20 Dylech wneud eich gorau i roi’r wybodaeth a’r cymorth i’r claf y mae angen iddynt ei chael er mwyn gwneud penderfyniadau er eu budd eu hunain – er enghraifft, trwy drefnu cyswllt ag asiantaethau eraill er mwyn cynorthwyo pobl sy’n dioddef trais domestig.21 Gallai oedolion sy’n gwrthod cymorth a gynigir yn y lle cyntaf, newid eu penderfyniad gydag amser.

19

Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, efallai bod modd datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd er mwyn atal trosedd ddifrifol fel llofruddiaeth, dynladdiad neu ymosodiad difrifol, hyd yn oed pan na fydd unrhyw un ac eithrio’r claf mewn perygl. Dim ond pan geir tystiolaeth glir o risg sydd ar fin digwydd y bydd yr unigolyn yn dioddef niwed difrifol, a phan na cheir dulliau amgen (a llai ymwthiol) o atal y niwed hwnnw, y mae’n debygol y bydd modd cyfiawnhau hyn. Mae hwn yn faes ansicr yn y gyfraith, ac os yw hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud datgeliad o’r fath heb sicrhau caniatâd.

20

Mae’r Adran Iechyd yn Lloegr wedi cyhoeddi Information sharing and suicide prevention: consensus statement (2014), sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion yn yr arweiniad hwn. 

21

Mae Safelives wedi cyhoeddi arweiniad ynghylch datgelu gwybodaeth i gynadleddau amlasiantaeth asesu risg (MARACs), sef cyfarfodydd lleol a sefydlwyd er mwyn trafod sut i helpu unigolion sydd mewn perygl uchel o ddioddef niwed difrifol neu lofruddiaeth. Mae’r arweiniad ar gael ar wefan Safelives. Gellir datgelu gwybodaeth bersonol i MARAC ar ôl sicrhau caniatâd, neu os oes modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd (gweler paragraffau 63–70 yn yr arweiniad hwn).

Datgelu gwybodaeth er mwyn diogelu eraill

60

Mae gan weithwyr meddygol proffesiynol ddyletswydd cyfrinachedd tuag at eu cleifion, ond hefyd, mae ganddynt ddyletswydd ehangach i ddiogelu ac i hyrwyddo iechyd cleifion a’r cyhoedd.22 

22

Gweler ‘Dyletswyddau gweithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol’ yn nhu blaen yr arweiniad hwn.

Gofynion cyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth at ddibeniondiogelu’r cyhoedd

61

Mae rhai cyfreithiau’n mynnu bod gwybodaeth cleifion yn cael ei datgelu at ddibenion megis hysbysu am glefydau heintus ac er mwyn atal terfysgaeth. Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith, gan gynnwys gan y llysoedd (gweler paragraphs 87 - 94).

87

Ceir nifer fawr o gyfreithiau sy’n mynnu bod gwybodaeth cleifion yn cael ei datgelu – at ddibenion mor amrywiol â hysbysu am glefydau trosglwyddadwy, darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, atal terfysgaeth ac ymchwilio i ddamweiniau ffordd.

88

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw’n ofynnol gwneud hynny yn unol â’r gyfraith. Dylech:

  1. deimlo’n fodlon bod angen gwybodaeth bersonol, a bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith
  2. datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais yn unig, a dim ond yn y ffordd sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith
  3. dweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, oni bai y byddai gwneud hynny’n tanseilio diben y datgeliad
  4. cydymffurfio â gwrthwynebiadau’r claf pan geir darpariaeth i wneud hynny.32 
89

Mae modd i chi weld cyngor am ddatgeliadau a ganiateir ond nad ydynt yn ofynnol yn unol â’r gyfraith ym paragraph 19.

90

Mae gan y llysoedd troseddol a sifil rymoedd i orchymyn bod gwybodaeth yn cael ei datgelu mewn amgylchiadau amrywiol. Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny.

91

Dim ond gwybodaeth sy’n ofynnol gan y llys y dylech ei datgelu. Dylech nodi’r gwrthwynebiad i’r barnwr neu i’r swyddog gweinyddol os gwneir ymdrechion i’ch cymell i ddatgelu’r hyn sy’n ymddangos yn wybodaeth amherthnasol i chi, megis gwybodaeth am berthynas claf nad ydynt yn gysylltiedig â’r sefyllfa. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y barnwr neu’r swyddog gweinyddol os ydych o’r farn y gallai datgelu’r wybodaeth roi rhywun mewn perygl o ddioddef niwed.

92

Os gorchmynnir datgeliad, ac os na fyddwch yn deall y sail dros hyn, dylech ofyn i’r llys neu i gynghorwr cyfreithiol i’w hesbonio i chi. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y claf y mae’r llys wedi gofyn am eu gwybodaeth, pa wybodaeth y byddwch yn ei datgelu wrth ymateb i’r gorchymyn, oni bai bod hynny’n anymarferol neu y byddai’n tanseilio’r diben y ceisiwyd y datgeliad ar ei gyfer.

93

Ni ddylech ddatgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti megis cyfreithiwr, heddwas neu swyddog llys barn heb sicrhau caniatâd penodol y claf, oni bai bod hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith, neu’n cael ei orchymyn gan lys barn, neu bod modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd i’ch cynghorydd cyfreithiol chi er mwyn cael eu cyngor.

94

Yn yr Alban, o dan y broses ragholi, os byddwch yn derbyn cais rhagholi bydd dyletswydd gyfreithiol arnoch i rannu gwybodaeth, ac mewn achosion eraill mater gwirfoddol fyddai datgelu a byddai’n ddarostyngedig i’r arweiniad ym mharagraff 9.33 

Datgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd

62

Dylech ofyn am ganiatâd claf i ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu eraill oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i chi wneud hynny (gweler paragraph 14), neu os yw’r wybodaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Dylech ystyried unrhyw resymau a roddir dros wrthod rhoi caniatâd.

14

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  1. bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
  2. rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7 
  3. nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
  4. mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
  5. byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
  6. rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
  7. nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
  8. rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).

Datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd

63

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23 

23

Ni cheir diffiniad cytunedig o ‘drosedd ddifrifol’. Mae Confidentiality: NHS Code of Practice Supplementary Guidance: Public Interest Disclosures (Adran Iechyd, 2003) yn rhoi rhai enghreifftiau o drosedd ddifrifol. Mae’r rhain yn cynnwys troseddau sy’n peri niwed corfforol neu seicolegol difrifol i unigolion (megis llofruddiaeth, dynladdiad, trais a chamdrin plant); a throseddau sy’n peri niwed difrifol i ddiogelwch y wladwriaeth a threfn gyhoeddus; a chyfeirir at ‘droseddau sy’n ymwneud ag elw neu golled ariannol sylweddol’ yn yr un categori hefyd. Yn ogystal, mae’n cynnig enghreifftiau o droseddau nad ydynt fel arfer yn ddigon difrifol er mwyn sicrhau bod angen datgelu heb ganiatâd (gan gynnwys dwyn, twyll, a niwed i eiddo pan fo’r golled neu’r difrod yn llai sylweddol).

64

Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

65

Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.

66

Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26 

24

Rydym yn rhoi cyngor penodol am adrodd pryderon ynghylch addasrwydd cleifion i yrru yn ein canllawiau esboniadol Cyfrinachedd: Addasrwydd cleifion i yrru ac adrodd pryderon i DVLA neu i DVA. Mae’r canllawiau hynny’n delio’n benodol â gyrwyr ar y ffyrdd, ond mae’r un egwyddorion yn berthnasol i yrwyr a pheilotiaid mathau eraill o drafnidiaeth rheoledig, gan gynnwys ar y rheilffyrdd, ar y dŵr ac yn yr awyr. Mae modd i chi weld holl ganllawiau’r GMC ynghylch safonau proffesiynol a moeseg trwy droi at ein gwefan.

67

Cyn penderfynu a fyddai modd cyfiawnhau datgeliad er budd y cyhoedd, dylech ystyried a yw hi’n ymarferol neu’n briodol i chi geisio caniatâd (gweler paragraph 14). Ni ddylech ofyn am ganiatâd os ydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd yn barod, ond dylech ddweud wrth y claf eich bod yn bwriadu datgelu gwybodaeth bersonol, oni bai nad yw hi’n ddiogel neu’n ymarferol i chi wneud hynny. Os bydd y claf yn gwrthwynebu i’r datgeliad, dylech ystyried unrhyw resymau y byddant yn eu rhoi dros wrthwynebu.

14

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  1. bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
  2. rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7 
  3. nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
  4. mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
  5. byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
  6. rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
  7. nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
  8. rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
68

Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
  4. y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth 
  5. natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
  6. a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.

Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.

69

Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.

70

Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.

Ymateb i geisiadau am wybodaeth

71

Rhaid i chi ystyried yr holl geisiadau am wybodaeth berthnasol am gleifion y gallent fod yn peri risg niwed difrifol i eraill mewn ffordd ddifrifol. Er enghraifft, rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithdrefnau a sefydlwyd er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar, megis trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a threfniadau diogelu’r cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon (PPANI).27  Yn ogystal, rhaid i chi ystyried yr holl geisiadau am wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer adolygiadau ffurfiol (megis cwestau ac ymchwiliadau, adolygiadau achos difrifol neu arwyddocaol, adolygiadau rheoli achosion, ac adolygiadau dyn-laddiadau trais domestig) a sefydlir er mwyn dysgu gwersi a gwella systemau a gwasanaethau.

27

Dylech ystyried yr asesiad o’r risg a achosir gan gleifion a wneir gan weithwyr proffesiynol eraill a chan grwpiau a sefydlwyd at y diben hwnnw, ond rhaid i chi ffurfio’ch asesiad eich hun a gwneud eich penderfyniad eich hun ynghylch a oes modd cyfiawnhau’r datgeliad. Mae’ch asesiad o risg yn fater o farn broffesiynol lle y bydd ymddygiad troseddwr yn y gorffennol yn ffactor. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cyhoeddi arweiniad i seiciatryddion ynghylch rhannu gwybodaeth yng nghyd-destun diogelu’r cyhoedd, gan gynnwys cymryd rhan mewn paneli a threfniadau diogelu’r cyhoedd amlasiantaeth (MAPPA). Mae modd i chi weld hwn yn Good Psychiatric Practice: Confidentiality and Information Sharing (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ail rifyn, 2010).

72

Os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Yn ogystal, rhaid i chi deimlo’n fodlon y bodlonir y gofynion perthnasol eraill er mwyn datgelu gwybodaeth (gweler paragraph 10).

9

Mae cyfrinachedd yn ddyletswydd foesegol a chyfreithiol bwysig, ond nid yw’n un absoliwt. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb dorri dyletswyddau cyfrinachedd pan fydd unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol.

  1. Mae’r claf yn rhoi eu caniatâd, boed hynny mewn ffordd ddealledig neu benodol er mwyn eu gofal eu hunain neu at ddibenion archwilio clinigol lleol (gweler paragraphs 13 - 15).
  2. Mae’r claf wedi rhoi eu caniatâd penodol i’r datgeliad at ddibenion eraill (gweler paragraphs 13 - 15 ).
  3. Mae’r datgeliad o fudd cyffredinol4 i glaf heb alluedd i roi eu cydsyniad a gwneir y datgeliad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran galluedd (gweler paragraphs 41 - 49).
  4. Mae angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19),  neu caniateir y datgeliad neu mae wedi cael ei gymeradwyo dan broses statudol sy’n rhoi dyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin o’r neilltu (gweler paragraphs 20 - 21).
  5. Mae modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 22 - 23).
10

Wrth ddatgelu gwybodaeth am glaf, rhaid i chi:

  1. ddefnyddio gwybodaeth ddienw os yw hi’n ymarferol i chi wneud hynny ac os bydd hynny’n cyflawni’r diben
  2. teimlo’n fodlon:
    1. bod modd i’r claf droi at wybodaeth sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth ar gyfer eu gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol, a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu
    2. nad yw’r claf wedi gwrthwynebu
  3. cael caniatâd penodol y claf os caiff gwybodaeth adnabyddadwy ei datgelu at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith neu os oes modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd
  4. sicrhau eich bod yn datgelu cyn lleied o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben
  5. dilyn yr holl ofynion cyfreithiol, gan gynnwys y gyfraith gyffredin a chyfraith diogelu data.5 

Datgelu gwybodaeth enetig a gwybodaeth arall a rennir

73

Gallai gwybodaeth enetig a rhai mathau eraill o wybodaeth am eich claf fod yn wybodaeth am eraill y mae’r claf yn rhannu cysylltiadau genetig neu gysylltiadau eraill gyda nhw hefyd. Gallai diagnosis salwch claf, er enghraifft, bwyntio at sicrwydd neu debygolrwydd yr un salwch mewn perthynas trwy waed.

74

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn barod i rannu gwybodaeth am eu hiechyd eu hunain gyda’u plant a pherthnasau eraill, yn enwedig os dywedir wrthynt y gallai hynny helpu’r perthnasau hynny:

  1. i gael proffylacsis neu driniaethau neu ymyriadau ataliol eraill
  2. i wneud defnydd o oruchwyliaeth uwch neu ymchwiliadau eraill
  3. i baratoi am broblemau iechyd posibl.28 
28

Am ragor o wybodaeth, gweler Consent and confidentiality in clinical genetic practice: Guidance on genetic testing and sharing genetic information – A report of the Joint Committee on Medical Genetics (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ail rifyn, 2011).

75

Os bydd claf yn gwrthod rhoi eu caniatâd i’r cam o ddatgelu gwybodaeth a fyddai o fudd i eraill, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd er budd y cyhoedd os bydd methu datgelu’r wybodaeth yn rhoi eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth (gweler paragraphs 63 - 70). Os bydd claf yn gwrthod rhoi eu caniatâd i ddatgeliad, bydd angen i chi sicrhau cydbwysedd rhwng eich dyletswydd i roi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf, a’ch dyletswydd i helpu i ddiogelu’r unigolyn arall rhag niwed difrifol.

63

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23 

64

Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

65

Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.

66

Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26 

68

Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
  4. y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth 
  5. natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
  6. a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.

Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.

70

Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.

69

Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.

76

Os yw hynny’n ymarferol, ni ddylech ddatgelu manylion personol y claf wrth gysylltu ag eraill a’u cynghori am y risgiau y maent yn eu hwynebu.