Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion

Gwybodaeth am ein callawiau Cyfrinachedd

Mae ein canllawiau craidd ar gyfer meddygon, Arfer meddygol da, yn nodi’n eglur bod gan gleifion yr hawl i ddisgwyl y bydd eu meddygon yn cadw gwybodaeth amdanyntbersonol yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae’r canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn nodi’r egwyddorion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a pharchu preifatrwydd cleifion, y disgwylir i chi eu deall a’u dilyn.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer ystyried pryd i ddatgelu gwybodaeth bersonol cleifion, yna mae’n cymhwyso’r fframwaith hwnnw i:

  1. datgeliadau er mwyn cynorthwyo gofal uniongyrchol claf unigo
  2. datgeliadau er mwyn diogelu cleifion ac eraill
  3. datgeliadau at bob diben arall.

Yn ogystal, mae’r canllawiau hwn yn nodi cyfrifoldebau pob meddyg cydymaith meddygol, chydymaith anesthesia i reoli a diogelu gwybodaeth cleifion.

Yn yr canllawiau hwn, defnyddir y termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech’ yn y ffyrdd canlynol.

  • Caiff ‘rhaid i chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
  • Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
    • ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
    • na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth.

Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er lles cleifion byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer, ar ddechrau Arfer meddygol da.

Os bydd gennych chi unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor cydweithiwr profiadol, gwarcheidwad data neu Caldicott 1 neu rywun cyfatebol, eich corff amddiffyn neu gymdeithas broffesiynol, neu dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

1

Mae gwarcheidwaid data neu Caldicott yn bobl uwch o fewn GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, a sefydliadau partner, sy’n gyfrifol am ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth cleifion a galluogi trefniadau priodol er mwyn rhannu gwybodaeth. Mae gan swyddogion diogelu data swyddogaeth statudol dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i fonitro cydymffurfiaeth rheolwr data gyda GDPR.

Deunyddiau eraill sydd ar gael

Mae canllawiau pellach ar gael ar ein gwefan sy’n esbonio sut y mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd y gwyddom sy’n gallu bod yn anodd yn ymarferol. Ar adeg cyhoeddi’r canllawiau hyn, rydym yn cyhoeddi canllawiau ynghylch y canlynol hefyd:

  1. addasrwydd cleifion i yrru ac adrodd pryderon i DVLA neu i DVA
  2. datgelu gwybodaeth am glefydau trosglwyddadwy difrifol
  3. datgelu gwybodaeth at ddibenion cyflogaeth, yswiriant neu ddibenion tebyg
  4. datgelu gwybodaeth at ddibenion addysg a hyfforddian
  5. adrodd am anafiadau saethu a thrywanu
  6. ymateb i feirniadaeth yn y cyfryngau.