Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion

Datgelu gwybodaeth bersonol cleifion: fframwaith

Pryd y gallwch ddatgelu gwybodaeth bersonol

9

Mae cyfrinachedd yn ddyletswydd foesegol a chyfreithiol bwysig, ond nid yw’n un absoliwt. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb dorri dyletswyddau cyfrinachedd pan fydd unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol.

  1. Mae’r claf yn rhoi eu caniatâd, boed hynny mewn ffordd ddealledig neu benodol er mwyn eu gofal eu hunain neu at ddibenion archwilio clinigol lleol (gweler paragraphs 13 - 15).
  2. Mae’r claf wedi rhoi eu caniatâd penodol i’r datgeliad at ddibenion eraill (gweler paragraphs 13 - 15 ).
  3. Mae’r datgeliad o fudd cyffredinol4 i glaf heb alluedd i roi eu cydsyniad a gwneir y datgeliad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran galluedd (gweler paragraphs 41 - 49).
  4. Mae angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19),  neu caniateir y datgeliad neu mae wedi cael ei gymeradwyo dan broses statudol sy’n rhoi dyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin o’r neilltu (gweler paragraphs 20 - 21).
  5. Mae modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 22 - 23).
13

Mae gofyn i glaf am eu cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth yn dangos parch, ac mae’n rhan o drefniadau cyfathrebu da rhwng weithwyr meddygol proffesiynol a chleifion. Dan gyfraith gyffredin dyletswydd cyfrinachedd, gall caniatâd fod yn benodol neu’n ddealledig.6

  1. Rhoddir cydsyniad penodol (a elwir yn ganiatâd datganedig hefyd) pan fydd claf yn cytuno mewn ffordd weithredol, ar lafar neu’n ysgrifenedig, i’r cam o ddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth.
  2. Mae cydsyniad dealledig yn cyfeirio at amgylchiadau lle y byddai’n rhesymol casglu bod y claf yn cytuno i’r cam o ddefnyddio’r wybodaeth, er nad yw hyn wedi cael ei fynegi mewn ffordd uniongyrchol.
14

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  1. bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
  2. rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7 
  3. nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
  4. mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
  5. byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
  6. rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
  7. nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
  8. rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
15

Os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd bod y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth wedi cael eu bodloni (gweler paragraph 10).

41

Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.

42

Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.

43

Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14 

44

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:

  1. sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
  2. parchu urddas a phreifatrwydd y claf
  3. cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
45

Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:

  1. a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
  2. unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
  3. safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
  4. safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
  5. yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
46

Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.

47

Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15 

48

Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).

49

Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14 

17

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol gan statud neu os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys barn yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny (gweler paragraphs 87 - 94).

18

Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith a dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei datgelu. Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech ddweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath, oni bai y byddai hynny’n tanseilio’r diben, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.

19

Weithiau, mae cyfreithiau a rheoliadau’n caniatáu datgelu gwybodaeth bersonol, ond nid ydynt yn mynnu bod hynny yn digwydd.8 Os caniateir datgeliad ond nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd y bodlonir y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth (gweler paragraph 10).

20

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd os caniateir neu os cymeradwyir y datgeliad dan adran 251 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (sy’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr) neu Health and Social Care (Control of Data Processing) Act (Northern Ireland) 2016. Mae’r darnau hyn o’r gyfraith yn caniatáu i ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin gael ei rhoi o’r neilltu at ddibenion diffiniedig pan na fydd modd defnyddio gwybodaeth ddienw a phan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd. Ni cheir fframwaith cyfreithiol cymharol yn yr Alban.

21

Os ydych yn gwybod bod claf wedi gwrthwynebu i’r cam o ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth fel arfer oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny dan y rheoliadau. Mae modd i chi weld rhagor o arweiniad am ddatgeliadau gyda chefnogaeth statudol benodol ym paragraphs 103 - 105.

22

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth os yw’r budd i unigolyn neu gymdeithas yn drech na’r budd i’r cyhoedd a’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Er enghraifft, efallai y gellir cyfiawnhau datgeliad er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol. Mae modd i chi weld arweiniad ynghylch datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd er mwyn atal marwolaeth neu niwed difrifol ym paragraphs 63 - 70.

23

Efallai y bydd amgylchiadau hefyd pan fydd modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd heb sicrhau caniatâd, ar gyfer budd pwysig i’r cyhoedd, ac eithrio er mwyn atal marwolaeth neu niwed difrifol, os na cheir dewis amgen rhesymol ymarferol i ddefnyddio gwybodaeth bersonol. Mae’r amgylchiadau lle y byddai’r budd i’r cyhoedd yn cyfiawnhau datgeliadau o’r fath yn ansicr, fodd bynnag, felly dylech chi geisio cyngor gwarcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd cyfreithiol nad ydynt yn gysylltiedig â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer yn uniongyrchol cyn gwneud y datgeliad. Mae modd i chi weld arweiniad pellach ym paragraphs 106 - 112.

4

Rydym yn defnyddio’r term ‘budd cyffredinol’ er mwyn disgrifio’r sail foesegol y gwneir penderfyniadau arni ynghylch triniaeth a gofal ar gyfer cleifion sy’n oedolion heb alluedd I wneud y penderfyniad. Mae’n harweiniad ynghylch budd cyffredinol yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i ystyried a yw triniaeth ‘o fudd’ i glaf (fel y defnyddir y term yn Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000, neu er ‘budd pennaf’ y claf (fel y defnyddir y term yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 yng Nghymru a Lloegr, ac yn y gyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon). Yn ogystal, mae’r defnydd o’r term yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol i weithredu’r egwyddorion eraill a nodir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 ac Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.

10

Wrth ddatgelu gwybodaeth am glaf, rhaid i chi:

  1. ddefnyddio gwybodaeth ddienw os yw hi’n ymarferol i chi wneud hynny ac os bydd hynny’n cyflawni’r diben
  2. teimlo’n fodlon:
    1. bod modd i’r claf droi at wybodaeth sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth ar gyfer eu gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol, a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu
    2. nad yw’r claf wedi gwrthwynebu
  3. cael caniatâd penodol y claf os caiff gwybodaeth adnabyddadwy ei datgelu at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith neu os oes modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd
  4. sicrhau eich bod yn datgelu cyn lleied o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben
  5. dilyn yr holl ofynion cyfreithiol, gan gynnwys y gyfraith gyffredin a chyfraith diogelu data.5 
5

Bydd gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd a reolir yn gwneud hyn trwy ddeall a dilyn y canllawiau hyn a pholisïau cyfrinachedd a llywodraethu gwybodaeth corfforaethol yn bennaf. Os ydych chi’n rheolydd data, chi eich hun sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros ddeall a chyflawni eich cyfrifoldebau dan gyfraith diogelu data. Gweler atodiad cyfreithiol y canllawiau hyn am ragor o wybodaeth. 

11

Pan fyddwch yn teimlo’n fodlon y dylid datgelu gwybodaeth, dylech weithredu’n ddi-oed er mwyn datgelu’r holl wybodaeth berthnasol. Dylech gadw cofnod o’ch penderfyniad a’ch camau gweithredu.

12

Dylech ddweud wrth gleifion am ddatgeliadau yr ydych yn eu gwneud na fyddai’n rhesymol iddynt ddisgwyl y byddent yn cael eu gwneud, neu sicrhau eu bod wedi cael gwybodaeth am ddatgeliadau o’r fath, oni bai bod hynny’n anymarferol neu y byddai’n tanseilio diben y datgeliad – er enghraifft, trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol. 

Datgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd claf

13

Mae gofyn i glaf am eu cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth yn dangos parch, ac mae’n rhan o drefniadau cyfathrebu da rhwng weithwyr meddygol proffesiynol a chleifion. Dan gyfraith gyffredin dyletswydd cyfrinachedd, gall caniatâd fod yn benodol neu’n ddealledig.6

  1. Rhoddir cydsyniad penodol (a elwir yn ganiatâd datganedig hefyd) pan fydd claf yn cytuno mewn ffordd weithredol, ar lafar neu’n ysgrifenedig, i’r cam o ddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth.
  2. Mae cydsyniad dealledig yn cyfeirio at amgylchiadau lle y byddai’n rhesymol casglu bod y claf yn cytuno i’r cam o ddefnyddio’r wybodaeth, er nad yw hyn wedi cael ei fynegi mewn ffordd uniongyrchol.
6

Nid yw caniatâd dealledig yn debygol o fod yn ddigonol er mwyn rhannu data personol danErthygl 6 GDPR ac nid yw’n ddigonol er mwyn rhannu ‘data categori arbennig’ megis data iechyd dan Erthygl 9 GDPR. Fodd bynnag, mae amodau eraill er mwyn prosesu data iechyd yndebygol o fod yn berthnasol. Gweler yr atodiad cyfreithiol am ragor o fanylion.

14

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth ar sail caniatâd dealledig ar gyfer gofal uniongyrchol pan fodlonir yr amodau ym paragraphs 28 and 29, ac ar gyfer gwaith archwilio clinigol lleol pan fodlonir yr amodau ym paragraph 96. Mewn achosion eraill, dylech ofyn am ganiatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn amhriodol neu’n anymarferol i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  1. bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19)
  2. rydych yn fodlon bod caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys eisoes wedi cael ei sicrhau gan unigolyn addas7 
  3. nad yw’r claf yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad. Mewn achos o’r fath, dylech ddilyn yr arweiniad ynghylch cleifion heb alluedd i roi eu caniatâd (gweler paragraphs 41 - 49)
  4. mae gennych reswm dros gredu y byddai ceisio caniatâd yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol
  5. byddai ceisio caniatâd yn debygol o danseilio diben y datgeliad, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.
  6. rhaid gweithredu’n gyflym, er enghraifft wrth ddarganfod neu reoli achosion o rai clefydau trosglwyddadwy lle nad oes amser digonol ar gael i gysylltu â’r claf
  7. nad yw ceisio caniatâd yn gam ymarferol o ystyried nifer neu oedran y cofnodion, neu’r tebygolrwydd y gellir olrhain cleifion
  8. rydych chi wedi penderfynu datgelu gwybodaeth yn barod er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 63 - 70).
28

Y sail arferol dros rannu gwybodaeth at ddibenion gofal uniongyrchol yw caniatâd y claf, boed hwnnw’n ganiatâd penodol neu ddealledig (gweler paragraph 13 am ddiffiniadau). Mae modd i chi ddibynnu ar ganiatâd dealledig er mwyn troi at wybodaeth berthnasol am y claf neu er mwyn ei rhannu gyda’r rhai sy’n darparu (neu sy’n cynorthwyo darpariaeth) gofal uniongyrchol i’r claf os bodlonir yr holl amodau canlynol.

  1. Rydych yn troi at y wybodaeth er mwyn darparu neu gynorthwyo gofal uniongyrchol y claf unigol, neu rydych yn fodlon bod yr unigolyn yr ydych yn rhannu’r wybodaeth gyda nhw yn troi ati neu’n ei chael at y diben hwn.
  2. Mae gwybodaeth ar gael yn hawdd i gleifion sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu. Mae modd darparu’r wybodaeth hon mewn taflenni a phosteri, ar wefannau, a thrwy siarad â nhw wyneb yn wyneb. Dylid ei theilwra i ofynion cyfathrebu cleifion a nodwyd i’r graddau ag y bo hynny’n ymarferol.
  3. Nid oes gennych chi unrhyw reswm dros gredu bod y claf wedi gwrthwynebu.
  4. Rydych yn teimlo’n fodlon bod unrhyw un yr ydych yn datgelu gwybodaeth bersonol iddynt yn deall eich bod yn ei rhoi iddynt mewn ffordd gyfrinachol, a bod yn rhaid iddynt barchu hynny.
29

Os ydych yn amau y byddai claf yn synnu cael gwybod sut yr ydych chi’n troi at neu’n datgelu eu gwybodaeth bersonol, dylech ofyn am ganiatâd penodol oni bai ei bod hi’n anymarferol gwneud hynny (gweler paragraph 14). Er enghraifft, efallai na fydd claf yn disgwyl bod modd i chi droi at wybodaeth gan asiantaeth neu ddarparwr gofal iechyd arall mewn cofnod a rennir.

96

Mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol sy’n gwneud gwaith clinigol ddyletswydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch archwilio clinigol35 ac i gyfrannu at raglenni adolygu canlyniadau clinigol.36 Os cynhelir archwiliad gan y tîm a ddarparodd y gofal, neu’r rhai sy’n gweithio i’w cynorthwyo, megis staff archwilio clinigol, mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol ar sail caniatâd dealledig, ar yr amod eich bod yn fodlon nad yw hi’n ymarferol defnyddio gwybodaeth ddienw:

  1. a bod y claf yn gallu troi’n hawdd at wybodaeth sy’n esbonio y gallai eu gwybodaeth bersonol gael ei datgelu at ddibenion archwilio clinigol lleol, a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu
  2. nad yw’r claf wedi gwrthwynebu.
17

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol gan statud neu os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys barn yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny (gweler paragraphs 87 - 94).

18

Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith a dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei datgelu. Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech ddweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath, oni bai y byddai hynny’n tanseilio’r diben, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.

19

Weithiau, mae cyfreithiau a rheoliadau’n caniatáu datgelu gwybodaeth bersonol, ond nid ydynt yn mynnu bod hynny yn digwydd.8 Os caniateir datgeliad ond nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd y bodlonir y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth (gweler paragraph 10).

41

Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.

42

Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.

43

Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14 

44

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:

  1. sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
  2. parchu urddas a phreifatrwydd y claf
  3. cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
45

Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:

  1. a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
  2. unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
  3. safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
  4. safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
  5. yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
46

Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.

47

Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15 

48

Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).

49

Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14 

63

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23 

64

Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

65

Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.

66

Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26 

68

Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
  4. y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth 
  5. natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
  6. a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.

Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.

70

Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.

69

Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.

7

Gweler paragraff 115 yr arweiniad hwn a’n harweiniad esboniadol Dirprwyo a chyfeirio (2012). Mae modd i chi weld holl ganllawiau'r GMC am safonau proffesiynol a moeseg ar ein gwefan.   

15

Os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd bod y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth wedi cael eu bodloni (gweler paragraph 10).

9

Mae cyfrinachedd yn ddyletswydd foesegol a chyfreithiol bwysig, ond nid yw’n un absoliwt. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb dorri dyletswyddau cyfrinachedd pan fydd unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol.

  1. Mae’r claf yn rhoi eu caniatâd, boed hynny mewn ffordd ddealledig neu benodol er mwyn eu gofal eu hunain neu at ddibenion archwilio clinigol lleol (gweler paragraphs 13 - 15).
  2. Mae’r claf wedi rhoi eu caniatâd penodol i’r datgeliad at ddibenion eraill (gweler paragraphs 13 - 15 ).
  3. Mae’r datgeliad o fudd cyffredinol4 i glaf heb alluedd i roi eu cydsyniad a gwneir y datgeliad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran galluedd (gweler paragraphs 41 - 49).
  4. Mae angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19),  neu caniateir y datgeliad neu mae wedi cael ei gymeradwyo dan broses statudol sy’n rhoi dyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin o’r neilltu (gweler paragraphs 20 - 21).
  5. Mae modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 22 - 23).
10

Wrth ddatgelu gwybodaeth am glaf, rhaid i chi:

  1. ddefnyddio gwybodaeth ddienw os yw hi’n ymarferol i chi wneud hynny ac os bydd hynny’n cyflawni’r diben
  2. teimlo’n fodlon:
    1. bod modd i’r claf droi at wybodaeth sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth ar gyfer eu gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol, a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu
    2. nad yw’r claf wedi gwrthwynebu
  3. cael caniatâd penodol y claf os caiff gwybodaeth adnabyddadwy ei datgelu at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith neu os oes modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd
  4. sicrhau eich bod yn datgelu cyn lleied o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben
  5. dilyn yr holl ofynion cyfreithiol, gan gynnwys y gyfraith gyffredin a chyfraith diogelu data.5 

Datgelu gwybodaeth pan fydd claf heb alluedd i roi eu caniatâd

16

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol berthnasol am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd os yw hynny o fudd cyffredinol i’r claf a gwneir y datgeliad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran galluedd. Mae paragraphs 41 - 49yn cynnwys rhagor o arweiniad am hyn.

41

Rhaid i chi weithio ar sail y dybiaeth bod pob claf sy’n oedolyn yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol. Ni ddylech gymryd bod claf heb alluedd i wneud penderfyniad oherwydd eu hoedran, eu hanabledd, eu hymddangosiad, eu hymddygiad, eu cyflwr meddygol (gan gynnwys salwch meddwl), eu credoau, eu hanallu ymddangosiadol i gyfathrebu, neu oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad nad ydych chi’n cytuno ag ef, yn unig.

42

Rhaid i chi asesu galluedd claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud, gan gydnabod y gallai amrywiadau yng nghyflwr claf effeithio ar eu gallu i ddeall, cofio neu bwyso a mesur gwybodaeth, neu gyfathrebu eu dymuniadau.

43

Rydym yn rhoi cyngor manwl ynghylch asesu galluedd meddyliol claf yn ein harweiniad Gwneud penderfyniadau a chaniatâd. Yn ogystal, rhoddir arweiniad ymarferol yng nghodau ymarfer Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.14 

44

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o fudd cyffredinol i glaf heb alluedd i roi eu caniatâd. Wrth wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datgelu gwybodaeth am glaf heb alluedd i roi eu caniatâd, rhaid i chi:

  1. sicrhau eich bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eich claf
  2. parchu urddas a phreifatrwydd y claf
  3. cynorthwyo ac annog y claf i gymryd rhan, gymaint ag y maent yn ei ddymuno a chymaint ag y gallant, mewn penderfyniadau ynghylch datgelu eu gwybodaeth bersonol.
45

Yn ogystal, rhaid i chi ystyried:

  1. a yw diffyg galluedd y claf yn sefyllfa barhaol neu’n sefyllfa dros dro, ac os yw’n sefyllfa dros dro, a fyddai’n rhesymol aros nes iddynt adennill galluedd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch datgelu
  2. unrhyw dystiolaeth o ddewisiadau’r claf a fynegwyd yn flaenorol
  3. safbwyntiau unrhyw un y mae’r claf yn gofyn i chi ymgynghori â nhw, neu y mae ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eu rhan, neu y maent wedi cael eu penodi i’w cynrychioli
  4. safbwyntiau pobl sy’n agos i’r claf ynghylch dewisiadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf, ac a ydynt o’r farn bod y datgeliad arfaethedig o fudd cyffredinol i’r claf
  5. yr hyn yr ydych chi a gweddill y tîm gofal iechyd yn ei wybod am ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y claf.
46

Efallai y bydd angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda pherthnasau, ffrindiau neu ofalwyr claf er mwyn eich galluogi i asesu’r budd cyffredinol i’r claf. Ond nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl cyffredinol i droi at gofnodion y claf neu i gael gwybodaeth amherthnasol am ofal iechyd y claf yn y gorffennol, er enghraifft.

47

Rhaid i chi rannu gwybodaeth berthnasol gydag unrhyw un sydd wedi cael eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ran claf heb alluedd i roi eu caniatâd, neu unrhyw un a benodir i gynorthwyo a chynrychioli claf o’r fath. Gallai hwn/hon fod yn atwrnai lles, yn ddirprwy neu’n warcheidwad a benodir gan lys neu’n eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Dylech rannu gwybodaeth gydag eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol mewn rhai amgylchiadau hefyd.15 

48

Os bydd claf yn gofyn i chi beidio datgelu gwybodaeth bersonol am eu cyflwr neu eu triniaeth, ac os ydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, dylech geisio’u perswadio i ganiatáu i unigolyn priodol gael gwybodaeth berthnasol am eu gofal. Mewn rhai achosion, bydd gofyn neu bydd angen datgelu gwybodaeth, er enghraifft dan ddarpariaethau cyfreithiau iechyd meddwl a galluedd meddyliol (gweler paragraff 47).

49

Os nad yw’r claf yn dymuno i chi ddatgelu gwybodaeth o hyd, ond rydych chi o’r farn y byddai hynny o fudd cyffredinol i’r claf ac rydych o’r farn nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gallwch ddatgelu gwybodaeth berthnasol i unigolyn neu awdurdod priodol. Mewn achosion o’r fath, dylech ddweud wrth y claf cyn datgelu’r wybodaeth ac os yw hynny’n briodol, dylech geisio safbwyntiau eiriolwr neu ofalwr a’u hystyried yn ofalus. Rhaid i chi gofnodi’ch trafodaethau a’r rhesymau dros benderfynu datgelu’r wybodaeth yng nghofnodion y claf.14 

Datgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu a ganiateir gan ygyfraith

17

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ofynnol gan statud neu os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys barn yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny (gweler paragraphs 87 - 94).

87

Ceir nifer fawr o gyfreithiau sy’n mynnu bod gwybodaeth cleifion yn cael ei datgelu – at ddibenion mor amrywiol â hysbysu am glefydau trosglwyddadwy, darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, atal terfysgaeth ac ymchwilio i ddamweiniau ffordd.

88

Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os yw’n ofynnol gwneud hynny yn unol â’r gyfraith. Dylech:

  1. deimlo’n fodlon bod angen gwybodaeth bersonol, a bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith
  2. datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais yn unig, a dim ond yn y ffordd sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith
  3. dweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, oni bai y byddai gwneud hynny’n tanseilio diben y datgeliad
  4. cydymffurfio â gwrthwynebiadau’r claf pan geir darpariaeth i wneud hynny.32 
89

Mae modd i chi weld cyngor am ddatgeliadau a ganiateir ond nad ydynt yn ofynnol yn unol â’r gyfraith ym paragraph 19.

90

Mae gan y llysoedd troseddol a sifil rymoedd i orchymyn bod gwybodaeth yn cael ei datgelu mewn amgylchiadau amrywiol. Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth os bydd barnwr neu swyddog gweinyddol llys yn rhoi gorchymyn i chi wneud hynny.

91

Dim ond gwybodaeth sy’n ofynnol gan y llys y dylech ei datgelu. Dylech nodi’r gwrthwynebiad i’r barnwr neu i’r swyddog gweinyddol os gwneir ymdrechion i’ch cymell i ddatgelu’r hyn sy’n ymddangos yn wybodaeth amherthnasol i chi, megis gwybodaeth am berthynas claf nad ydynt yn gysylltiedig â’r sefyllfa. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y barnwr neu’r swyddog gweinyddol os ydych o’r farn y gallai datgelu’r wybodaeth roi rhywun mewn perygl o ddioddef niwed.

92

Os gorchmynnir datgeliad, ac os na fyddwch yn deall y sail dros hyn, dylech ofyn i’r llys neu i gynghorwr cyfreithiol i’w hesbonio i chi. Yn ogystal, dylech ddweud wrth y claf y mae’r llys wedi gofyn am eu gwybodaeth, pa wybodaeth y byddwch yn ei datgelu wrth ymateb i’r gorchymyn, oni bai bod hynny’n anymarferol neu y byddai’n tanseilio’r diben y ceisiwyd y datgeliad ar ei gyfer.

93

Ni ddylech ddatgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti megis cyfreithiwr, heddwas neu swyddog llys barn heb sicrhau caniatâd penodol y claf, oni bai bod hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith, neu’n cael ei orchymyn gan lys barn, neu bod modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth heb sicrhau caniatâd i’ch cynghorydd cyfreithiol chi er mwyn cael eu cyngor.

94

Yn yr Alban, o dan y broses ragholi, os byddwch yn derbyn cais rhagholi bydd dyletswydd gyfreithiol arnoch i rannu gwybodaeth, ac mewn achosion eraill mater gwirfoddol fyddai datgelu a byddai’n ddarostyngedig i’r arweiniad ym mharagraff 9.33 

18

Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith a dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais y dylech ei datgelu. Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech ddweud wrth gleifion am ddatgeliadau o’r fath, oni bai y byddai hynny’n tanseilio’r diben, er enghraifft trwy niweidio’r broses o atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol.

19

Weithiau, mae cyfreithiau a rheoliadau’n caniatáu datgelu gwybodaeth bersonol, ond nid ydynt yn mynnu bod hynny yn digwydd.8 Os caniateir datgeliad ond nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod sail gyfreithiol dros dorri amodau cyfrinachedd (gweler paragraph 9). Rhaid i chi deimlo’n fodlon hefyd y bodlonir y gofynion perthnasol eraill ynghylch datgelu gwybodaeth (gweler paragraph 10).

9

Mae cyfrinachedd yn ddyletswydd foesegol a chyfreithiol bwysig, ond nid yw’n un absoliwt. Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb dorri dyletswyddau cyfrinachedd pan fydd unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol.

  1. Mae’r claf yn rhoi eu caniatâd, boed hynny mewn ffordd ddealledig neu benodol er mwyn eu gofal eu hunain neu at ddibenion archwilio clinigol lleol (gweler paragraphs 13 - 15).
  2. Mae’r claf wedi rhoi eu caniatâd penodol i’r datgeliad at ddibenion eraill (gweler paragraphs 13 - 15 ).
  3. Mae’r datgeliad o fudd cyffredinol4 i glaf heb alluedd i roi eu cydsyniad a gwneir y datgeliad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran galluedd (gweler paragraphs 41 - 49).
  4. Mae angen gwneud y datgeliad yn unol â’r gyfraith (gweler paragraphs 17 - 19),  neu caniateir y datgeliad neu mae wedi cael ei gymeradwyo dan broses statudol sy’n rhoi dyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin o’r neilltu (gweler paragraphs 20 - 21).
  5. Mae modd cyfiawnhau’r datgeliad er budd y cyhoedd (gweler paragraphs 22 - 23).
10

Wrth ddatgelu gwybodaeth am glaf, rhaid i chi:

  1. ddefnyddio gwybodaeth ddienw os yw hi’n ymarferol i chi wneud hynny ac os bydd hynny’n cyflawni’r diben
  2. teimlo’n fodlon:
    1. bod modd i’r claf droi at wybodaeth sy’n esbonio sut y defnyddir eu gwybodaeth ar gyfer eu gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol, a bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu
    2. nad yw’r claf wedi gwrthwynebu
  3. cael caniatâd penodol y claf os caiff gwybodaeth adnabyddadwy ei datgelu at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw neu at ddibenion archwilio clinigol lleol oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn unol â’r gyfraith neu os oes modd ei gyfiawnhau er budd y cyhoedd
  4. sicrhau eich bod yn datgelu cyn lleied o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y diben
  5. dilyn yr holl ofynion cyfreithiol, gan gynnwys y gyfraith gyffredin a chyfraith diogelu data.5 
8

Mae Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 yn enghraifft. Mae adran 115 yn caniatáu datgelu I sefydliadau megis yr heddlu, awdurdodau lleol neu wasanaethau prawf, ond nid yw’n creu hwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny.

Datgeliadau a gymeradwyir dan broses gyfreithiol

20

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd os caniateir neu os cymeradwyir y datgeliad dan adran 251 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (sy’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr) neu Health and Social Care (Control of Data Processing) Act (Northern Ireland) 2016. Mae’r darnau hyn o’r gyfraith yn caniatáu i ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin gael ei rhoi o’r neilltu at ddibenion diffiniedig pan na fydd modd defnyddio gwybodaeth ddienw a phan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd. Ni cheir fframwaith cyfreithiol cymharol yn yr Alban.

21

Os ydych yn gwybod bod claf wedi gwrthwynebu i’r cam o ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ac eithrio’u gofal uniongyrchol nhw, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth fel arfer oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny dan y rheoliadau. Mae modd i chi weld rhagor o arweiniad am ddatgeliadau gyda chefnogaeth statudol benodol ym paragraphs 103 - 105.

103

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae trefniadau statudol mewn grym er mwyn ystyried a fyddai datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd at ddibenion iechyd a gofal cymdeithasol o fudd i gleifion neu’r cyhoedd mewn ffordd ddigonol er mwyn bod yn drech na hawl cleifion i breifatrwydd. Mae enghreifftiau o’r dibenion hyn yn cynnwys ymchwil meddygol, a rheoli gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ni cheir fframwaith statudol cymharol yn yr Alban.

104

Mae Adran 251 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (sy’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr) a Health and Social Care (Control of Data Processing) Act (Northern Ireland) 2016 yn caniatáu i ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin gael ei rhoi o’r neilltu at ddibenion diffiniedig pan na fydd modd defnyddio gwybodaeth ddienw a phan na fydd hi’n ymarferol ceisio caniatâd. Mae modd i chi weld mwy o fanylion am y trefniadau statudol hyn yn yr atodiad cyfreithiol.

105

Mae modd i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd os caniateir y datgeliad neu os yw’r datgeliad wedi cael ei gymeradwyo dan adran 251 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu dan Health and Social Care (Control of Data Processing) Act (Northern Ireland) 2016. Os ydych yn gwybod bod claf wedi gwrthwynebu i’r cam o ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ac eithrio gofal uniongyrchol, ni ddylech ddatgelu’r wybodaeth fel arfer oni bai ei bod yn ofynnol yn unol â’r rheoliadau.40 

Datgeliadau er budd y cyhoedd

22

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth os yw’r budd i unigolyn neu gymdeithas yn drech na’r budd i’r cyhoedd a’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Er enghraifft, efallai y gellir cyfiawnhau datgeliad er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol. Mae modd i chi weld arweiniad ynghylch datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd er mwyn atal marwolaeth neu niwed difrifol ym paragraphs 63 - 70.

63

Mae’r gyfraith yn cydnabod bod gofal meddygol cyfrinachol er budd y cyhoedd. Mae’r ffaith bod pobl yn cael eu hannog i geisio cyngor a thriniaeth o fudd i gymdeithas gyfan ac i’r unigolyn. Ond gellir bod budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth er mwyn diogelu unigolion neu gymdeithas rhag risgiau niwed difrifol, megis clefydau trosglwyddadwy difrifol neu drosedd ddifrifol.23 

64

Os nad yw hi’n ymarferol i chi geisio caniatâd, ac mewn achosion eithriadol pan fo claf wedi gwrthod rhoi eu caniatâd, efallai bod modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd os allai methu gwneud hynny olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth. Rhaid i’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu’r wybodaeth fod yn drech na’r budd i’r cyhoedd ac i’r claf o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

65

Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, os byddai datgeliad yn debygol o fod yn angenrheidiol er mwyn atal, datrys neu erlyn trosedd ddifrifol, yn enwedig troseddau yn erbyn yr unigolyn. Pan fydd dioddefwyr trais yn gwrthod cymorth yr heddlu, efallai y bydd modd cyfiawnhau datgeliad o hyd os bydd eraill yn parhau i fod mewn perygl, er enghraifft, gan rywun sy’n barod i ddefnyddio arfau, neu gan drais domestig pan allai plant neu eraill fod mewn perygl.

66

Mae enghreifftiau eraill o sefyllfaoedd lle y gallai methu datgelu gwybodaeth olygu bod eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth yn cynnwys pan na fydd claf yn ffit i yrru,24 neu pan fyddant wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef clefyd trosglwyddadwy difrifol,25 neu pan fyddant yn peri risg difrifol i eraill o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn ffit i weithio.26 

68

Wrth benderfynu a yw’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu gwybodaeth yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol, rhaid i chi ystyried:

  1. y niwed neu’r gofid posibl i’r claf yn deillio o’r datgeliad – er enghraifft, o ran eu cyswllt gyda thriniaeth a’u hiechyd cyffredinol yn y dyfodol
  2. y niwed posibl i ymddiriedaeth mewn gweithwyr meddygol proffesiynol yn gyffredinol – er enghraifft, os yw’n cael ei dybio yn eang bod meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn barod i ddatgelu gwybodaeth am gleifion heb sicrhau eu caniatâd
  3. y niwed posibl i eraill (boed hynny’n unigolyn penodol neu’n bobl, neu i’r cyhoedd yn ehangach) os na ddatgelir y wybodaeth
  4. y budd posibl i unigolyn neu i gymdeithas sy’n deillio o’r cam o ryddhau’r wybodaeth 
  5. natur y wybodaeth i’w datgelu, ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf
  6. a oes modd osgoi niwed neu sicrhau budd heb dorri cyfrinachedd y claf, neu os na, beth yw’r ymyriad lleiaf y gellir ei wneud.

Os ydych o’r farn y byddai methu datgelu’r wybodaeth yn golygu bod unigolion neu gymdeithas mewn perygl mor ddifrifol fel ei fod yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gynnal cyfrinachedd, dylech ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn ddi-oed i unigolyn neu awdurdod priodol. Dylech hysbysu’r claf cyn datgelu’r wybodaeth, os yw’n ymarferol ac yn ddiogel i chi wneud hynny, hyd yn oed os ydych yn bwriadu datgelu heb sicrhau eu caniatâd.

70

Mae penderfyniadau ynghylch a oes modd cyfiawnhau datgelu heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Pan fo hynny’n ymarferol, dylech geisio cyngor gan warcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd arbenigol tebyg nad ydynt yn gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer. Os oes modd, dylech wneud hyn heb ddatgelu manylion y claf.

69

Rhaid i chi gofnodi yng nghofnod y claf eich rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth ar ôl sicrhau caniatâd neu heb sicrhau caniatâd. Yn ogystal, rhaid i chi gofnodi unrhyw gamau yr ydych wedi’u cymryd i geisio caniatâd y claf, i’w hysbysu o’r datgeliad, neu’ch rhesymau dros beidio gwneud hynny.

23

Efallai y bydd amgylchiadau hefyd pan fydd modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol er budd y cyhoedd heb sicrhau caniatâd, ar gyfer budd pwysig i’r cyhoedd, ac eithrio er mwyn atal marwolaeth neu niwed difrifol, os na cheir dewis amgen rhesymol ymarferol i ddefnyddio gwybodaeth bersonol. Mae’r amgylchiadau lle y byddai’r budd i’r cyhoedd yn cyfiawnhau datgeliadau o’r fath yn ansicr, fodd bynnag, felly dylech chi geisio cyngor gwarcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd cyfreithiol nad ydynt yn gysylltiedig â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer yn uniongyrchol cyn gwneud y datgeliad. Mae modd i chi weld arweiniad pellach ym paragraphs 106 - 112.

106

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd budd i’r cyhoedd o’r pwys mwyaf mewn datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd at ddibenion iechyd a gofal cymdeithasol pwysig os nad oes dewis amgen rhesymol ymarferol ar gael i ddefnyddio gwybodaeth bersonol, ac nid yw hi’n ymarferol ceisio caniatâd. Rhaid i’r budd i gymdeithas sy’n deillio o’r datgeliad fod yn drech na budd y claf a’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

107

Ni ddylech ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd os bydd y datgeliad o fewn cwmpas unrhyw rai o’r rheoliadau a ddisgrifiwyd ym paragraphs 103 - 105, ac ni chaniateir y datgeliad neu nid yw wedi cael ei gymeradwyo dan y rheoliadau hynny.

108

Os nad yw’r rheoliadau a ddisgrifiwyd ym paragraphs 103 - 105 yn berthnasol, efallai y bydd angen i chi wneud eich penderfyniad eich hun ynghylch a oes modd cyfiawnhau’r cam o ddatgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd. Mae’r amgylchiadau lle y byddai’r budd i’r cyhoedd yn cyfiawnhau datgeliadau o’r fath yn ansicr, fodd bynnag, felly dylech geisio cyngor gwarcheidwad data neu Caldicott neu gynghorydd cyfreithiol nad yw’n gysylltiedig mewn ffordd uniongyrchol â’r defnydd yr ystyrir y datgeliad ar ei gyfer cyn gwneud y datgeliad.41 

109

Cyn ystyried a fyddai modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd, rhaid i chi deimlo’n fodlon bod angen defnyddio gwybodaeth adnabyddadwy neu nad yw hi’n rhesymol mewn ffordd ymarferol i wneud y wybodaeth yn ddienw. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i chi deimlo’n fodlon nad yw hi’n rhesymol ymarferol ceisio caniatâd.42 

110

Wrth ystyried a fyddai modd cyfiawnhau datgelu gwybodaeth bersonol heb sicrhau caniatâd er budd y cyhoedd, rhaid i chi ystyried y ffactorau a nodwyd ym paragraph 67. Yn ogystal, rhaid i chi deimlo’n fodlon:

  1. y byddai’r datgeliad yn cydymffurfio â gofynion cyfraith diogelu data ac na fyddai’n torri unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n atal datgelu gwybodaeth am gleifion (gweler yr atodiad cyfreithiol am enghreifftiau)
  2. bod y datgeliad yn cynrychioli’r cam lleiaf sy’n angenrheidiol at y diben
  3. y bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu mewn amgylchedd diogel ac a reolir, ac y mae’n meddu ar y gallu ac y mae’n addas fel arall i brosesu’r wybodaeth (gweler paragraph 86)
  4. bod gwybodaeth ar gael mewn ffordd hwylus i gleifion am unrhyw ddata a ddatgelwyd heb sicrhau caniatâd, y sawl y’i datgelwyd iddynt, a diben y datgeliad.
111

Os ydych yn gwybod bod claf wedi gwrthwynebu i’r cam lle y caiff gwybodaeth ei datgelu at ddibenion ac eithrio gofal uniongyrchol, ni ddylech ddatgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd oni bai y byddai methu gwneud hynny yn rhoi eraill mewn perygl o ddioddef niwed difrifol neu farwolaeth (gweler paragraphs 63 - 70).

112

Rhaid i chi gadw cofnod o’r wybodaeth a ddatgelwyd gennych, eich rhesymau ac unrhyw gyngor yr oeddech wedi’i geisio.

Datgeliadau a waharddir gan y gyfraith

24

Mae cyfreithiau penodol yn mynnu bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfyngu ar yr arfer o ddatgelu rhai mathau o wybodaeth. Mae modd i chi weld enghreifftiau o ddatgeliadau a waharddir gan y gyfraith yn yr atodiad cyfreithiol.

Cyfraith diogelu data

25

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar ddyletswyddau moesegol a chyfreithiol cyfrinachedd gweithwyr meddygol proffesiynol. Ond rhaid i’r gwaith o brosesu data personol fodloni gofynion cyfraith diogelu data hefyd, sy’n gosod dyletswyddau amrywiol ar reolwyr data. Gall gweithwyr meddygol proffesiynol unigol fod yn rheolwyr data eu hunain (er enghraifft os ydynt yn bartneriaid mewn practis cyffredinol, neu’n dal data am gleifion y maent yn eu trin yn breifat), ond mewn nifer o achosion, y rheolydd data fydd cyflogwr y gweithiwr meddygol proffesiynol. Nod y canllawiau hyn yw cyd-fynd â chyfraith diogelu data, ond nid yw’n arweiniad am y gyfraith. Gallwch, fodd bynnag, weld trosolwg o gyfraith diogelu data a’i pherthynas gyda dyletswydd cyfrinachedd cyfraith gyffredin yn yr atodiad cyfreithiol. 

Offer Penderfyniad

Confidentiality decision tool
Decide whether personal information needs to be disclosed and, if so, what the justification is for doing so