Wrth i’r GIG ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yn 2023, roedd wedi wynebu heriau difrifol. Dywedodd mwy o feddygon nag erioed o’r blaen wrthym eu bod mewn perygl o orweithio, eu bod wedi cymryd camau pendant i adael eu gwaith yn y DU a’u bod yn ei chael hi’n anodd darparu digon o ofal i gleifion yn rheolaidd, sy’n destun pryder mawr.
Roedd hyn yn tynnu sylw at angen brys i wella amodau gwaith i sicrhau bod y gweithlu’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac, yn hollbwysig, i ddiogelu gofal cleifion.
Mae gan ein gwasanaethau iechyd ragor o flynyddoedd heriol o’u blaenau. Mae angen gweithredu i ddod o hyd i atebion i broblemau’r gweithlu a gwella profiadau yn y gweithle i bob meddyg sy’n ymarfer yn y DU. Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan ond mae angen ymdrechion cydweithredol i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gofal diogel o’r ansawdd uchaf, nawr ac yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am ein cynnydd ac am effeithiau cadarnhaol ein gwaith.