Datganiad diogelu
Ein rôl
Rydym yn gweithio gyda meddygon, cleifion a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon a’r rhai sy’n eu hyfforddi eu bodloni, ac yn eu helpu i’w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.
Mae gennym gyfrifoldeb hefyd i gael trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae hwn yn gyfrifoldeb i bawb sy’n gweithio yn y GMC neu sy’n gweithio ar ran y GMC.
Mae ein hagwedd at ddiogelu yn berthnasol i unrhyw un rydym yn dod i gysylltiad â nhw, gan gynnwys cleifion, aelodau o’r cyhoedd, meddygon a’n cydweithwyr.
Mae’n ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar ddiogelu yn ogystal â deddfwriaeth a chanllawiau statudol sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Beth yw diogelu?
Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn hawliau oedolion a phlant i fyw’n ddiogel ac yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Dylai pob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn perygl neu sy’n dod i gysylltiad â nhw fod â pholisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith. Mae sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu da yn helpu i leihau’r tebygolrwydd y bydd niwed yn digwydd i blant ac i oedolion mewn perygl.
Ein hymrwymiad
Mae pawb yn y GMC yn gyfrifol am ddiogelu. Bydd pawb sy’n gweithio gyda ni ac ar ein rhan yn gallu adnabod pryderon diogelu a rhoi gwybod amdanynt yn amserol.
Mae ein strategaeth hyfforddi yn cefnogi ein polisi a’n gweithdrefnau. Ein nod yw creu diwylliant lle gall pawb adnabod, cofnodi ac adrodd ar bryderon diogelu a’u bod yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses.
Gweithredu ar niwed posibl i feddygon, i gleifion ac i aelodau o’r cyhoedd
Drwy ein gweithgareddau rheoleiddio, efallai y byddwn yn dod i gysylltiad â’r rheini sy’n agored i niwed, gan gynnwys meddygon, cleifion ac aelodau o’r cyhoedd.
Os byddwn yn cael gwybod y gallai plentyn neu oedolyn mewn perygl gael ei niweidio, efallai y byddwn yn penderfynu rhannu’r wybodaeth hon â’r awdurdod lleol neu’r heddlu perthnasol, gyda’r unig ddiben o’u diogelu. Os ydym yn credu bod oedolyn neu blentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, hunan-niweidio neu hunanladdiad, byddwn yn cysylltu â’r gwasanaethau brys.
Mae gennym hefyd ganllawiau a gweithdrefnau os oes angen i ni atgyfeirio i’r DBS/Disclosure Scotland.
Os bydd gweithredoedd meddyg wedi achosi’r niwed, y cam-drin neu’r esgeulustod i rywun, byddwn hefyd yn ystyried a oes angen i ni ymchwilio fel rhan o’n proses pryderon.
Gweithredu ar niwed posibl i gydweithwyr ac i’r rheini sy’n gweithio gyda ni
Mae gennym bolisïau sy’n egluro ein nod o ddarparu a chynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i’n holl gydweithwyr, er mwyn iddynt fod yn ddiogel a chael eu cefnogi yn y gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys ein:
- Polisi iechyd a diogelwch
- Polisi urddas yn y gwaith
- Polisi bwlio ac aflonyddu
Os byddwn yn cael pryder diogelu am unrhyw weithiwr proffesiynol cofrestredig arall rydym yn ei gyflogi, byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â’r rheoleiddiwr perthnasol i’w hystyried.
Sut mae codi pryder diogelu
Gallwch godi pryder diogelu am un o aelodau staff y GMC drwy gysylltu â ni yn gmc@gmc-uk.org.
Os ydych chi’n poeni am ymddygiad, iechyd neu berfformiad meddyg, darllenwch ein canllawiau pryderon am feddygon. Maen nhw’n cynnwys manylion am y math o bryderon y gallwn ymchwilio iddynt, a'r camau y gallwn eu cymryd i sicrhau diogelwch y cyhoedd a sicrhau hyder mewn meddygon.
Ar gyfer ymholiadau diogelu cyffredinol neu i gael gwybodaeth am ein polisi diogelu, anfonwch neges i safeguarding@gmc-uk.org.
Byddwn yn adolygu’r wybodaeth hon a’n polisi diogelu bob blwyddyn i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn addas i’r diben.