Beth i’w ddisgwyl os bydd eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn poeni am ddiogelwch eich plentyn
Os yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn poeni bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, rhaid iddynt gymryd camau i sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei amddiffyn. Mae’n gallu peri gofid a straen mawr i deuluoedd pan fydd hyn yn digwydd, ac yn aml mae gan rieni gwestiynau am yr hyn y gall eu meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia ei wneud neu beidio. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i ateb y cwestiynau hynny.
Mae’n bosibl fod gennych gwestiynau eraill nad ydynt yn cael sylw yma, felly ar ddiwedd y canllawiau hyn rydym wedi awgrymu ffynonellau eraill o arweiniad a chefnogaeth.
Beth fydd y meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn ei wneud os bydd yn credu bod diogelwch fy mhlentyn mewn perygl?
Bydd y camau a fydd yn eu cymryd yn dibynnu ar y sefyllfa. Pan fo’n bosibl, rhaid i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia weithio gyda chi i sicrhau bod eich plentyn yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arno.
Os nad yw’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn siŵr a ddylai godi ei bryderon gydag asiantaeth amddiffyn plant neu beidio, bydd yn gofyn i gydweithiwr profiadol am gymorth a chyngor e.e. meddyg, cydymaith meddygol, cydymaith anesthesia neu nyrs arall. Os yw’n bosibl, bydd yn gwneud hyn heb ddweud pwy ydych chi na’ch plentyn.
Os yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn poeni bod plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu’n dioddef hynny, rhaid iddo ddweud wrth asiantaeth sy’n gyfrifol am amddiffyn plant, fel y gwasanaethau plant yn yr awdurdod lleol neu’r NSPCC.
A fydd y meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn siarad gyda fi cyn gwneud unrhyw beth?
Fel arfer, bydd eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn dweud wrthych a yw’n poeni am ddiogelwch eich plentyn, a bydd yn siarad â chi am yr hyn y bydd yn ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Yr unig reswm pam na fyddai’n dweud wrthych chi yw os yw’n meddwl y byddai gwneud hynny’n cynyddu’r risg o niwed i’ch plentyn.
Dylech chi gael cyfle i ofyn cwestiynau, a dylai eich cwestiynau gael eu hateb yn agored ac yn onest. Rhaid i’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wrando a chadw meddwl agored am yr hyn a allai fod wedi achosi anaf neu am rywbeth arall a allai fod yn arwydd o gam-drin neu esgeuluso.
A fydd y meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn siarad gyda fy mhlentyn am ei bryderon?
Dylai eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia siarad yn uniongyrchol gyda’ch plentyn a gwrando arno, gan ystyried ei oedran a’i aeddfedrwydd. Dylai bob amser ystyried barn eich plentyn wrth wneud penderfyniadau. Mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn siarad gyda’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia heb i chi fod yno os gallai hynny helpu’r plentyn i siarad am unrhyw broblemau sydd ganddo.
A oes angen i’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia gael fy nghydsyniad er mwyn dweud wrth unrhyw un arall am ei bryderon?
Fel arfer, bydd angen i’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia gael cydsyniad er mwyn rhannu gwybodaeth amdanoch chi a’ch plentyn gydag unrhyw un y tu allan i’w dîm gofal iechyd. Bydd yn gofyn am hyn oni bai bod rheswm cryf dros beidio â gwneud hynny – er enghraifft, oherwydd ei fod yn meddwl y byddai gwneud hyn yn cynyddu'r risg i'ch plentyn. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, gall y meddyg rannu gwybodaeth heb ofyn am eich cydsyniad chi yn gyntaf.
Gall eich plentyn roi cydsyniad i’r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia rannu gwybodaeth amdano os oes ganddo’r aeddfedrwydd a’r ddealltwriaeth i wneud y penderfyniad. Os nad oes, gofynnir i chi roi cydsyniad drosoch chi a’ch plentyn.
Wrth ofyn am gydsyniad, dylai eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia esbonio pa wybodaeth y mae am ei rhannu, gyda phwy y mae am ei rhannu a pham, a sut y caiff yr wybodaeth ei defnyddio.
Beth os byddaf fi neu fy mhlentyn yn gwrthod rhoi cydsyniad?
Bydd y meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn ystyried y rhesymau pam gwrthodwyd rhoi cydsyniad. Bydd hefyd yn meddwl am y niwed posibl a allai gael ei achosi i’ch plentyn drwy beidio â rhannu’r wybodaeth.
Os bydd eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn credu bod eich plentyn mewn perygl o niwed sylweddol, bydd fel arfer yn rhannu'r wybodaeth â rhywun sy'n gyfrifol am amddiffyn plant, a bydd fel arfer yn esbonio i chi pam mae wedi gwneud hynny.
Onid oes rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia barchu cyfrinachedd?
Mae gan blant a phobl ifanc a’u teuluoedd hawl i dderbyn gofal a chyngor meddygol cyfrinachol. Ond weithiau mae’n rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia rannu gwybodaeth ag eraill er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Ble ydw i’n gallu mynd i gael rhagor o gymorth a chyngor?
Mae’r NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n ymgyrchu ar ran plant a phobl ifanc. Mae gan yr NSPCC linellau cymorth y gall plant ac oedolion eu ffonio i gael cyngor a chefnogaeth.
Mae’r Grŵp Hawliau'r Teulu (FRG) yn darparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddim i deuluoedd y mae eu plant yn gysylltiedig â gwasanaethau plant awdurdodau lleol. Gall teuluoedd alw ar ei wasanaeth cyngor am ddim. Yn ogystal, mae gan FRG amrediad o daflenni cynghori am ddim ar ei wefan.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Coram (CCLC) yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd, ac i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Mae Cyngor ar Bopeth yn sefydliad annibynnol sy’n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob pwnc i unrhyw un. Mae cyngor a gwybodaeth ar gael ar ei wefan hefyd.
Mae Family Lives yn elusen genedlaethol sy’n darparu cymorth a chefnogaeth ar bob agwedd ar fywyd teuluol. Mae ganddo wasanaeth cyfrinachol o'r enw Parentline i gael gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar unrhyw agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol.
Mae Home-Start UK yn elusen genedlaethol sy’n cefnogi plant a theuluoedd drwy rwydwaith o wirfoddolwyr.
Mae Family Action yn elusen sy’n darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd sydd dan anfantais ac wedi’u hynysu’n gymdeithasol.
Mae Sefydliad Victoria Climbié yn darparu cyngor annibynnol a chefnogaeth arbenigol am ddim i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol plant, yn enwedig o ran agweddau ar ddiwylliant a ffydd.