Rydym yn rheoli rhestrau o weithwyr proffesiynol cofrestredig.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod gan bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia yr wybodaeth, y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad cywir i weithio ledled y DU. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal rhestrau swyddogol o’r gweithwyr proffesiynol cofrestredig hyn, sydd ar gael ar-lein.
Pan fydd meddyg, PA neu AA yn gwneud cais i gofrestru, rydym yn gwirio eu bod yn bodloni ein gofynion i weithio yn y DU ac yn darparu gofal da a diogel i gleifion.
Er mwyn aros ar ein cofrestrau, rhaid i feddygon, PAs ac AAs barhau i fodloni'r safonau proffesiynol a osodwn, dangos eu bod yn gymwys a dangos eu bod yn cadw eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyfredol.