Ymchwilio a gweithredu ar bryderon

Fel ym mhob agwedd ar fywyd, gall pethau fynd o chwith. Bydd pryderon am ymddygiad meddyg, cydymaith meddygol (PA), a cydymaith anesthesia (AA), neu bryderon am y ffordd y maent yn gwneud eu gwaith.

Os mynegir pryderon difrifol i ni am ymddygiad, iechyd neu berfformiad, gallwn ymchwilio i ganfod a yw diogelwch cleifion, neu hyder y cyhoedd mewn meddygon, PAs a AAs, mewn perygl  

O ganlyniad i’n hymchwiliadau, mae’n bosibl y byddwn yn atgyfeirio achos at y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol  i gael gwrandawiad. Mae tribiwnlysoedd y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol yn gwneud penderfyniadau annibynnol am yr achosion rydym yn eu hatgyfeirio. Gallant atal neu gyfyngu ar feddyg, PA neu AA rhag cyflawni eu dyletswyddau. Mewn achosion difrifol iawn, gall y tribiwnlysoedd dynnu meddyg, PA neu AA oddi ar y gofrestr feddygol, sy'n golygu na allent weithio yn y DU mwyach.

Darllenwch ein ein rôl mewn ymchwilio a gweithredu ar bryderon.

Darllenwch ein Siarter ar gyfer perthnasau a gofalwyr y cleifion..

Back