Canllaw i’n cofrestrau

Rydym yn gwneud yn siŵr bod gan bob meddyg, cydymaith meddygol (PA) a chydymaith anesthesia (AA) yr wybodaeth, y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad cywir i weithio ledled y DU. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal rhestrau swyddogol o’r gweithwyr proffesiynol cofrestredig hyn.

Rydym yn cofrestru meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y Deyrnas Unedig. Gallwch chwilio ein cofrestrau i ddod o hyd i feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia a gweld eu statws cofrestru a gwybodaeth ddefnyddiol arall. 

Pan fydd meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn gwneud cais i gofrestru, rydym yn gwirio eu bod yn bodloni ein gofynion i weithio yn y DU ac yn darparu gofal da a diogel i gleifion.

Er mwyn parhau i ymarfer, rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia barhau i fodloni’r safonau proffesiynol rydym yn eu gosod, dangos eu bod yn gymwys a dangos fod ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf.

Gwirio statws cofrestru meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia.

Pam darllen y canllaw hwn?
I gael gwybod am y mathau o gofrestru yn y DUa sut mae chwilio drwy’r cofrestrau a’u diweddaru.
Y camau nesaf
Edrychwch ar ein cofrestrau a chwiliwch am gofnodion meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia.