Beth sydd ar ein cofrestrau?
Bydd ein cofrestrau yn rhoi’r manylion canlynol i chi:
- y math o gofrestriad sydd gan feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia ar hyn o bryd
- os ydynt yn feddyg, a oes ganddynt drwydded i ymarfer
- os ydynt yn feddyg, a ydynt wedi'u cofrestru i weithio fel meddyg teulu neu ymgynghorydd arbenigol
- y dyddiad y gwnaethant gofrestru
- a oes ganddynt unrhyw hanes addasrwydd i ymarfer ers 20 Hydref 2005.
Fe welwch hefyd wybodaeth am hyfforddiant meddygon
- y flwyddyn a’r lle y dyfarnwyd eu prif radd feddygol iddynt
- ar gyfer meddygon, p’un a ydyn nhw’n ymgymryd â hyfforddiant pellach neu’n datblygu eu gyrfa
- ar gyfer meddygon, y sefydliad sy’n gofalu am eu perfformiad a’u harfarniad.