Ymarfer heb gofrestru
Mae ymarfer heb gofrestru yn erbyn y gyfraith
Rhaid i feddygon sy’n ymarfer meddygaeth yn y DU fod wedi cofrestru a bod â thrwydded i ymarfer. Mae’n anghyfreithlon iddynt ymarfer meddygaeth heb hyn ac mae’n rhywbeth y byddai angen inni ymchwilio iddo.
Gallwch gael gwybod beth yw statws cofrestru meddyg drwy chwilio ein cofrestrau ein cofrestrau.
Nid yw’r Gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol tan fis Rhagfyr 2026. Cyn y dyddiad hwnnw, rydym yn annog cofrestru ond, yn wahanol i feddygon, nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol.
Riportio rhywun sy’n ymarfer meddygaeth yn anghyfreithlon
Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun fod yn ymarfer heb fod wedi cofrestru a heb drwydded i ymarfer, anfonwch e-bost atom yn: urp@gmc-uk.org neu ffoniwch ni ar 0161 923 6602.
Er mwyn ein helpu i ymchwilio, mae angen y wybodaeth ganlynol arnom:
- enw’r unigolyn
- manylion yr hyn a ddigwyddodd
- pwy rydych chi eisoes wedi rhoi gwybod iddynt am hyn a beth oedd y canlyniad (os yw’n berthnasol)
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn, fel negeseuon e-bost, cyfeiriad gwefan, hysbysebion
- rhoi caniatâd i ni rannu’r wybodaeth hon ag unigolion neu sefydliadau perthnasol eraill.
Os byddwch yn sylwi bod meddyg wedi'i gofrestru a bod ganddynt drwydded i ymarfer, ond bod gennych bryderon amdanynt o hyd, gallwch gwyno.
Beth allwn ni ei wneud os yw rhywun yn ymarfer meddygaeth yn anghyfreithlon?
Pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu y gallai unigolyn fod yn ymarfer meddygaeth heb gofrestru, byddwn yn ymchwilio lle bo hynny’n bosibl ac yn cymryd camau priodol yn unol â Deddf Feddygol 1983 (Saesneg yn unig).
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn yn gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod i’r unigolyn am y gyfraith
- anfon hysbysiadau dirwyn i ben ac ymatal
- gwneud atgyfeiriad i’r heddlu a allai arwain at erlyniad, cofnod troseddol a dirwy sylweddol.
Ni allwn ymchwilio i ymarferwyr sy’n gweithio mewn proffesiynau gofal iechyd eraill. Byddai angen i chi eu cyfeirio at reoleiddiwr eu proffesiynau.
Defnydd ffug o deitlau gwarchodedig
Mae’n anghyfreithlon gwneud defnydd ffug o deitlau gwarchodedig:
- doethur meddygaeth
- meddyg teulu
- llawfeddyg
- meddyg
- unigolyn graddedig mewn meddygaeth a llawfeddygaeth
- baglor meddygaeth
- apothecari, neu
- unrhyw enw, teitl neu ddisgrifiad sy’n awgrymu eu bod wedi’u cofrestru gyda ni.
Nid yw'r teitl ‘Doctor’ ar ei ben ei hun yn deitl gwarchodedig gan y gall fod yn gymhwyster academaidd (e.e. PhD), nad yw bob amser yn gysylltiedig ag ymarfer meddygaeth. Felly, mae hawl gan unigolyn i ddefnyddio’r teitl Doctor heb orfod cofrestru gyda ni, ar yr amod nad ydynt yn ymarfer meddygaeth nac yn honni eu bod wedi cofrestru â ni.
O 13 Rhagfyr 2026, bydd y teitlau cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia yn cael eu diogelu o dan Orchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024. Cyn mis Rhagfyr 2026 ni allwn gymryd camau yn erbyn unrhyw un am ddefnyddio’r teitlau hynny heb fod ar ein cofrestr.