Diweddaru ein cofrestrau
Os yw’r manylion ar ein cofrestrau yn anghywir
Os oes angen i chi newid neu ddiweddaru sut mae'ch cofnod yn ymddangos ar ein cofrestrau, cysylltwch â ni. Efallai y bydd angen i chi anfon tystiolaeth atom ni cyn y gallwn wneud unrhyw newidiadau.
Rhoi gwybod i ni fod meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia wedi marw
Os ydych yn gwybod bod meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia wedi marw, cysylltwch â ni i roi gwybod inni.
Mae cael yr wybodaeth hon yn golygu y gallwn ganslo’u ffioedd cofrestru, atal unrhyw lythyrau a negeseuon e-bost rhag cael eu hanfon i’w cyfeiriad a diweddaru eu cofnod ar ein cofrestrau.
Mewn rhai achosion, bydd angen tystysgrif marwolaeth arnom – byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom pan fyddwch yn cysylltu â ni.