Gwiriadau ar gyfer cyflogwyr
Gwiriadau y gall cyflogwyr eu gwneud ar y cofrestrau
Gall sefydliadau sy'n cyflogi neu'n contractio meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ddefnyddio ein cofrestrau i:
- sicrhau bod statws cofrestru meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia yn addas ar gyfer y gwaith y byddant yn ei wneud
- cynnal gwiriad adnabod cychwynnol ar feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia
- gweld a oes unrhyw amodau, rhybuddion neu gyfyngiadau ar eu cofrestriad.
Gwiriadau pellach ar gyfer cyflogwyr
Mae gwiriadau cyn-cyflogi ac ôl-gyflogi eraill y dylai cyflogwyr meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ymgymryd â nhw na fyddant ar gael ar ein cofrestrau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein gwasanaeth gwybodaeth pwrpasol i gyflogwyr.
Lawrlwytho’r gofrestr meddygon
Gallwch danysgrifio i lawrlwytho’r gofrestr meddygon yn ei chyfanrwydd am ffi flynyddol. Mae swyddogion staffio meddygol yn defnyddio’r gwasanaeth hwn i ychwanegu’r data cofrestru diweddaraf at eu systemau personél. Rhagor o wybodaeth am danysgrifio i lawrlwytho'r gofrestr meddygon.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig modd i lawrlwytho’r gofrestr cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia oherwydd y nifer isel sydd wedi cofrestru. Efallai y cynigir lawrlwythiad cymdeithion meddygol/cymdeithion anaesthesia yn y dyfodol os oes galw am y gwasanaeth hwn.