Ymwadiad a pholisi cyfryngau cymdeithasol
Defnyddio’r wefan hon
Ein nod yw darparu gwefan sy’n gywir, sy’n ddefnyddiol, sy’n hawdd ei defnyddio, ac sy’n parchu eich preifatrwydd. Isod fe welwch wybodaeth am hawlfraint, dolenni ac argaeledd/amserau mynd. I gael gwybodaeth am breifatrwydd ac am sut rydym yn gweithio i wneud y wefan hon yn hygyrch, ewch i:
Hawlfraint
Mae’r holl gynnwys ar y wefan hon yn eiddo i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, oni nodir yn wahanol. Rhoddir mynediad at unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddir ar y wefan hon - yn ogystal â’u defnyddio a’u hailddefnyddio - at ddibenion anfasnachol yn unig, a rhaid i unrhyw ddefnydd o’r fath bob amser gydnabod yn benodol mai’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yw ffynhonnell a deiliad yr hawlfraint. Rhaid i ymwelwyr beidio â dosbarthu na chyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon at ddibenion masnachol heb gael caniatâd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gyntaf.
Dolenni
Dim ond er gwybodaeth a hwylustod y darperir dolenni. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am y tudalennau yn y dolenni, nac am yr wybodaeth a geir yno.
Argaeledd
Nid ydym yn gwarantu mynediad di-dor at y wefan hon, nac at y gwefannau y mae’n cysylltu â nhw. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw iawndal sy’n deillio o golli defnydd o wybodaeth.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar sut gallwn ni wella’r wefan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i webmaster@gmc-uk.org.
Ein dull ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol
Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol yn cael eu rheoli gan ein tîm cyfathrebu. Rydym yn rhannu newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf â’n cynulleidfaoedd ar Facebook, Instagram a LinkedIn.
Rydym ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm (amser y DU). Rydym yn ymateb i ymholiadau ac yn cyfeirio pobl at ragor o wybodaeth, lle bo hynny’n berthnasol. Os oes angen help arnoch, gallwch hefyd gysylltu ag un o’n cynghorwyr.
Weithiau rydym yn rhannu, yn ailbostio neu’n hoffi cynnwys gan gyfrifon allanol os yw’n berthnasol i’n gwaith. Nid yw hyn yn golygu bod ein bod yn gysylltiedig â’r cyfrifon hyn nac yn cymeradwyo eu polisïau. Yn yr un modd, nid yw cysylltu â chyfrifon unigol sy’n ymwneud â’n gwaith yn golygu ein bod yn cymeradwyo nac yn rhannu’r safbwyntiau neu’r cynnwys y mae’r cyfrifon hyn yn eu postio.
Sut rydym yn defnyddio Twitter/X
Nid ydym yn postio nac yn ymateb yn uniongyrchol i ymholiadau ar Twitter/X mwyach. Fodd bynnag, rydym yn cadw ein cyfrif er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion allweddol sy’n berthnasol i’n gwaith. Mae hyn yn rhoi sail i’n cyfathrebiadau ar sianeli eraill, gan gynnwys ein gohebiaeth uniongyrchol â meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia.
Efallai y byddwn yn postio mewn amgylchiadau eithriadol pan fydd angen defnyddio’r holl sianeli sydd ar gael i rannu diweddariadau brys. Gallai hyn gynnwys argyfyngau iechyd y cyhoedd, tarfu sylweddol ar y system, neu gamwybodaeth sy’n peryglu diogelwch cleifion neu sy’n effeithio ar ein swyddogaethau rheoleiddio.
Sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llywio ein gwaith
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddeall mwy am brofiadau a safbwyntiau ein cynulleidfaoedd. Rydym yn ystyried postiadau cyhoeddus ochr yn ochr â ffynonellau adborth eraill, fel gwybodaeth o’n sgyrsiau wyneb yn wyneb â chleifion, meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia, myfyrwyr a’n partneriaid ar draws y system gofal iechyd. Mae hyn yn ein helpu i nodi themâu neu faterion sy’n dod i’r amlwg a byddwn ystyried y rhain wrth ddatblygu polisïau, prosesau a chyfathrebiadau.
Cymedroli a bod yn barchus ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn annog adborth a thrafodaeth agored ac adeiladol ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Er na allwn gymedroli pob sylw, efallai y byddwn yn cuddio’r rhai sy’n:
- amherthnasol
- amharchus
- gwahaniaethol
- anweddus
- anghyfreithlon
- hyrwyddo buddiannau y tu allan i’n cylch gwaith, neu’n amhriodol fel arall.
Dylai’r holl gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn barchus. Os yw’r postiadau’n sarhaus neu’n targedu staff, byddwn yn rhwystro’r cyfrif dan sylw. Wedyn, byddwn yn riportio’r negeseuon hynny yn unol â’r gweithdrefnau a gynigir gan bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol eraill y GMC
Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau fel rheoleiddwyr, mae gennym ni gyfrifon Trydar/X, Instagram a TikTok ar wahân a reolir gan dîm bychan sy’n gyfrifol am adolygu’r pryderon sy’n codi am addasrwydd unigolion i ymarfer.
Mae’r cyfrifon hyn yn cael eu defnyddio i adolygu negeseuon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi cael eu codi gan ein timau addasrwydd i ymarfer fel rhan o gŵyn am unigolyn, atgyfeiriad gan sefydliad, neu yn dilyn gwybodaeth o adroddiadau i'r wasg.
Heb y cyfrifon hyn, ni fyddai’r timau sy’n gyfrifol am ddelio â phryderon yn gallu cael gafael ar y negeseuon yn uniongyrchol, gan fod angen cyfrif er mwyn gweld cynnwys ar y llwyfannau hyn.
Os oes pryderon yn codi, mae’r timau yn gallu edrych ar y cynnwys sydd ar gael i’r cyhoedd er mwyn casglu tystiolaeth berthnasol a fydd yn eu helpu nhw i asesu’r gŵyn.
Dim ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol a chymesur y mae hyn yn digwydd, a hynny’n unol â’n prosesau addasrwydd i ymarfer.
Nid yw’r cyfrifon hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion fel dilyn pobl, cysylltu â chyfrifon na rhannu cynnwys mewn unrhyw ffordd. Mae’r tîm sy’n rheoli’r cyfrifon hyn ar wahân i’r timau sy’n rheoli ein cyfrifon cymdeithasol corfforaethol.
Mae Arfer meddygol da yn darparu gwybodaeth a chanllawiau am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol.
Sut rydym yn ymateb i gwestiynau a ofynnir ar gyfryngau cymdeithasol
Rydym yn gwneud pob ymdrech i ateb cwestiynau ar Facebook, Instagram a LinkedIn. Os na fyddwn yn gallu gwneud hynny, ewch i’n tudalen cysylltu â ni ac fe gewch eich cyfeirio at y person iawn i helpu.
Rhoi gwybod am bryder
Nid ydym yn trafod pryderon am feddygon, cymdeithion meddygol na chymdeithion anesthesia ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn achosion lle gofynnir i ni sut mae mynegi pryder am feddyg, mae’n bosibl y byddwn yn cyfeirio pobl at wybodaeth berthnasol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu ein bod yn cefnogi’r pryder, nac y bydd neb yn bwrw ymlaen â’r pryder. Nid yw ychwaith yn golygu mai ni yw’r corff priodol i ddelio â’r pryder.
Ewch i’n tudalen eich cefnogi gyda’ch pryder i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ystyried ac yn prosesu pryderon.
Archebu lle ar gyfer arholiadau’r Bwrdd Asesu Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB)
Ni all ein tîm cyfathrebu helpu gydag archebion PLAB, gwirio argaeledd, nac ymholiadau unigol drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Siaradwch ag un o’n cynghorwyr am gymorth.
Canllawiau am sefyllfaoedd unigol
Rydym yn cyfeirio pobl at ein safonau proffesiynol, ond ni allwn ymateb i ymholiadau unigol am y safonau proffesiynol na sut i'w cymhwyso drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi ymholiadau am ein canllawiau neu am unrhyw sefyllfaoedd unigol, cysylltwch â standards@gmc-uk.org.
Materion cyfrifon ar-lein y GMC
Nid oes gan ein tîm cyfathrebu fynediad at gyfrifon GMC Ar-lein. Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch ag un o’n cynghorwyr.